Agenda a chofnodion drafft

Is-bwyllgor Craffu (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet - Dydd Mawrth, 9fed Ebrill, 2024 2.00 pm

Lleoliad: Micrsoft Teams Meeting/ Hybrid Cabinet Conference Room

Cyswllt: Alison Thomas 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

 

3.

Craffu Cyn Penderfynu

·         Dethol eitemau priodol o agenda Is-bwyllgor (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (adroddiadau Is-bwyllgor y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer Aelodau Craffu).

Cofnodion:

Diweddariad Strategaeth Seiberddiogelwch Castell-nedd Port Talbot 2024

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Digidol Chris Owen adroddiad Diweddariad Strategaeth Seiberddiogelwch Castell-nedd Port Talbot 2024.

 

Croesawodd yr aelodau y cynnydd yn erbyn y camau gweithredu yn y strategaeth.

 

Nododd yr aelodau fod mesurau amrywiol wedi cael eu rhoi ar waith i amddiffyn y sefydliad dros y blynyddoedd o ran seiberddiogelwch, ond mae hynny wedi creu system fwy gymhleth hefyd. Gofynnodd yr aelodau os yw'r risgiau cynyddol o wallau defnyddwyr a chynnal a chadw'r system gymhleth a chydgysylltiedig hon wedi cael eu hystyried?

 

Amlinellodd swyddogion sut y mae llwyfannau digidol yn tanseilio darparu'r rhan fwyaf o wasanaethau'r Cyngor. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod gwaith helaeth wedi cael ei wneud i nodi'r rhyngddibyniaethau rhwng y systemau, sut y maent yn gweithredu a sut y mae'r meysydd gwasanaeth yn defnyddio'r gwasanaethau hynny.

 

Trwy eu cynlluniau Adfer yn dilyn Trychineb a Pharhad Busnes, mae Gwasanaethau Digidol wedi nodi 'llyfrau camau gweithredu' sy'n amlinelli sut i adfer gwasanaethau os bydd toriad trydan, sy'n cynnwys amserlenni i adfer y gwasanaeth.

 

Dywedwyd wrth yr aelodau bod angen i feysydd gwasanaeth ddeall yr amserlenni hyn a'u cynnwys yn eu cynlluniau parhad busnes, felly byddant yn gwybod pa mor hir fydd angen iddynt fod heb y gwasanaeth hwnnw. Mae angen i feysydd gwasanaeth ddeall goblygiadau diffyg unrhyw wasanaethau digidol ar eu gwasanaeth a sut y byddai angen iddynt weithredu yn y sefyllfa honno. Mae swyddogion wedi dechrau gweithio gyda'r tîm Cynllunio rhag Argyfyngau i ymgysylltu â'r meysydd gwasanaeth.

 

Gofynnodd aelodau sut y byddai swyddogion yn lliniaru i ba raddau y mae'r systemau allan o wasanaeth, er enghraifft os yw'r system e-bost allan o wasanaeth i'r sefydliad cyfan.

 

Dywedodd y swyddogion bod llawer o waith wedi cael ei wneud i adolygu'r systemau hanfodol a chafwyd eu categoreiddio o ran prif wasanaethau ac mae ganddynt 'lyfrau camau gweithredu' ar waith ar gyfer pob un. Os bydd un o'r gwasanaethau hyn allan o wasanaeth, mae gan y gwasanaethau digidol y llyfr camau gweithredu er mwyn gweld y bobl sydd angen bod ar gael, y cynllun gweithredu a'r cyfathrebiadau angenrheidiol fel eu bod yn barod os bydd gwasanaeth allan o wasanaeth.

 

Dywedodd swyddogion eu bod wedi adeiladu'r gwasanaethau i fodloni safonau gwasanaethau digidol Castell-nedd Port Talbot. Mae'r safonau hyn yn sicrhau nad oes pwyntiau methiant unigol ac mae system stori data mewn sawl lleoliad ar waith. Dywedodd swyddogion eu bod yn defnyddio ymagwedd newydd 'cwmwl yn gyntaf' (lle bo hynny'n bosib) yn hytrach na chanolfan ddata ar y safle sydd â phwynt methiant unigol yn ei hanfod. Mae hyn i sicrhau bod y cynllun storio data mewn sawl lleoliad hwn yn rhan o'r dyluniad.

 

Nododd swyddogion fod problem yn ddiweddar a achoswyd gan sefydliad trydydd parti. Dywedodd swyddogion fod cyfathrebu mewnol yn dda yn syth ar ôl y digwyddiad lle anfonwyd hysbysiadau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd)

Cofnodion:

 

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

 

5.

Mynediad i gyfarfodydd

Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

 

Cofnodion:

 

Nid oedd angen yr eitem hon gan nad oedd unrhyw eitemau preifat i'w hystyried.

 

6.

Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu

·        Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gyfer yr Aelodau Craffu)

 

Cofnodion:

 

Ni chraffwyd ar unrhyw eitemau preifat..