Lleoliad: CYFARFOD AML-LEOLIAD - SIAMBR Y CYNGOR PORT, TALBOT A MICROSOFT TEAMS
Cyswllt: Alison Thomas E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Cadarnhawyd y byddai'r pwyllgor yn craffu ar eitem
5 o Agenda Bwrdd y Cabinet. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Craffu Cyn Penderfynu · Dethol eitemau priodol o agenda Is-bwyllgor (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (adroddiadau Is-bwyllgor y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer Aelodau Craffu). Cofnodion: Cais i’r Gronfa Grantiau Amrywiol
(Urdd Siewmyn De Cymru a Gogledd Iwerddon) Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel
a nodwyd yn y pecyn agenda. Holodd yr Aelodau a oes unrhyw
astudiaeth wedi'i chynnal i ddeall yr effaith yr oedd Ffair Castell-nedd yn ei
chael ar fasnach yn nhref Castell-nedd. Roedd yr Aelodau'n awyddus i ddeall pam
nad oedd Urdd y Siewmyn wedi derbyn unrhyw gyllid gan y Llywodraeth yn ystod
COVID. Eglurodd swyddogion fod y cais mewn
perthynas â'r ffair bleser yn unig ac nid y ffair stryd. Mae'r £31,000 a
amlinellir yn y cais yn cwmpasu cost y ffair bleser ar gyfer digwyddiadau a
gynhelir ym mis Medi ac yn ystod y Pasg. Dywedodd y swyddogion fod y meini
prawf ar gyfer cyllid COVID ar y pryd wedi'u pennu gan Lywodraeth y DU a
Llywodraeth Cymru. Roedd yn rhaid i sefydliadau wneud cais yn uniongyrchol i
Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Nid oedd swyddogion yn gallu rhoi sylw
ynghylch pam na chafodd Urdd y Siewmyn gyllid. Nid oedd swyddogion yn ymwybodol bod
unrhyw ddadansoddiad penodol wedi'i gynnal mewn perthynas ag effaith
presenoldeb y ffair bleser yn y dref o'i gyferbynnu â pheidio â bod yn
bresennol. Cadarnhaodd swyddogion fod y cais am
gymorth ariannol yn cael ei asesu yn ôl y meini prawf a amlinellir yn yr
adroddiad. Nid oes gofyniad i'r ymgeisydd ddangos ei fforddiadwyedd ar gyfer y
digwyddiad y mae'n gwneud cais am gyllid ar ei gyfer. Cododd yr Aelodau bryder ynghylch
defnyddio'r polisi gan ofyn a oedd yn addas i'r diben mewn perthynas â'r ffaith
ei fod ar gyfer sefydliadau elusennol a gwirfoddol ac er budd y gymuned. Holodd
yr Aelodau ynghylch pa fudd sydd i Urdd y Siewmyn a sut mae hynny'n rhoi nôl
i'r gymuned leol, gan fod yr elw'n cael ei rannu ymhlith y rheini sy'n ymwneud
â'r digwyddiad, ac nid yn cael ei roi i'r gymuned. Cadarnhawyd bod Urdd y Siewmyn yn
gasgliad o unigolion ac nid yw'n endid cyfreithiol yn ei rinwedd ei hun ac
felly nid oedd gofyniad i sefydliad fod yn sefydliad gwirfoddol neu elusennol,
dim ond os yw sefydliad o'r math hwn yn gwneud cais, rhaid iddo fod yn
ymroddedig i ymdrechion lleol eu natur. Eglurodd swyddogion nad yw'r telerau
a amlinellir uchod yn atal sefydliadau eraill rhag gwneud cais. Pwrpas y grant
amrywiol yw bod yn un sy'n cwmpasu pawb yn gyffredinol, lle nad oes modd
defnyddio grant penodol. Yr awdurdod lleol sydd â'r disgresiwn o ran a yw
Aelodau'n dymuno caniatáu cymorth neu beidio i'r sefydliad sy'n gwneud cais. Roedd yr adroddiad yn datgan os nad
oedd y grant yn llwyddiannus yna ni fyddai'r ffair yn mynd yn ei blaen.
Mynegodd yr Aelodau eu pryder bod Cyfathrebiadau CNPT wedi cyhoeddi datganiad
ar 23 Awst 2023 a oedd yn dweud yn glir bod y ffair yn mynd yn ei blaen. Cadarnhaodd swyddogion fod nifer o bolisïau'n cael eu hadolygu gan y Pennaeth Diwylliant, Hamdden a Thwristiaeth, gan weithio gyda'r Pennaeth Adfywio a swyddogion perthnasol eraill i ystyried ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |