Lleoliad: Microsft Teams Meeting/ Hybrid Meeting in Council Chamber
Cyswllt: Charlotte John 01639 673745
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd y Pwyllgor. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Y Cyng. Rebecca Phillips -
Eitem 7 ar bapurau bwrdd y Cabinet parthed: Y Diweddaraf am CCTV yng
Nghastell-nedd Port Talbot ac Ymateb i Argyfwng gan ei bod yn aelod o Gyngor
Tref Pontardawe. |
|
Diweddariad Argyfwng Costau Byw PDF 435 KB Cofnodion: Derbyniodd
yr aelodau ddiweddariad am yr argyfwng costau byw. Rhoddwyd
y diweddaraf i'r aelodau ynghylch ymateb parhaus y cyngor i'r argyfwng costau
byw, fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Nododd
aelodau y bu nifer o atgyfeiriadau i'r cynllun rhyddhad caledi, a gofynnwyd a
oedd unrhyw ôl-groniad. Hysbysodd swyddogion yr aelodau y byddent yn adrodd yn
ôl am hyn yng nghyfarfod y Cabinet ym mis Mai 2023 yn dilyn trafodaethau gyda
Cymru Gynnes. Cafwyd
trafodaethau ynghylch cysyniad cychwynnol y Cynllun Rhyddhad Caledi Nodwyd bod aelodau wedi gofyn am y cynllun yn
wreiddiol er mwyn cefnogi'r rheini a oedd yn derbyn budd-daliadau, yn ogystal
â’r rheini a oedd yn gweithio ac yn ei chael hi'n anodd gyda'r argyfwng costau
byw bresennol. Dywedodd swyddogion wrth yr aelodau fod meini prawf wedi'i bennu
i ganiatáu i amrywiaeth ehangach o etholwyr wneud cais am y cyllid, fodd bynnag
byddent yn trafod â Cymru Gynnes i ofyn am ddata pellach er mwyn dadansoddi a
oedd y cynllun yn targedu'r rheini y mae angen yr arian arnynt. Yn
dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Y
Diweddaraf am CCTV yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Ymateb i Argyfwng Diweddarwyd
yr aelodau ynghylch CCTV ac ymateb, fel a nodwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd. Gofynnodd
yr aelodau am ddiweddariad am y cais am CCTV yn ardal Pontardawe. Cadarnhaodd
swyddogion fod potensial i ddefnyddio cronfa ffyniant gyffredin y DU i osod
CCTV ar gyfer Cyngor Tref Pontardawe. Cafwyd
trafodaethau ynghylch cyfathrebu â'r cyhoedd am y newidiadau i CCTV, megis
monitro 24/7, ynghyd â chyfarpar newydd wedi'i ddiweddaru. Soniwyd hefyd fod
angen ystyried parhau i ymgysylltu â Heddlu De Cymru. Cadarnhaodd swyddogion
fod y tîm cyfathrebiadau wedi cael y dasg o hysbysu'r cyhoedd am y newidiadau i
fonitro 24/7 drwy ddatganiad i'r wasg, a bod ymgysylltu â Heddlu De Cymru yn
parhau. Gofynnodd
aelodau i bennu'r meini prawf o ran ble i osod y camerâu gyda'r pwyllgor, er
mwyn cael dealltwriaeth o sut caiff y camerâu hyn eu gosod a'u monitro. Trafodwyd
y goblygiadau ariannol, a theimlwyd nad oedd manylion ariannol cefnogi CCTV
wrth symud ymlaen wedi cael eu cynnwys yn yr effeithiau. Nodwyd y byddai
gwybodaeth ar wahân am y sefyllfa ariannol yn cael ei rhannu ag aelodau yn
ogystal â thempled yr adroddiad i'w ystyried, er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth
briodol yn cael ei chynnwys wrth symud ymlaen. Yn
dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. |
|
Blaenraglen Waith 2022/23 PDF 431 KB Cofnodion: Rhoddodd
swyddogion y diweddaraf i'r aelodau am y Flaenraglen Waith. Hysbyswyd yr
aelodau y byddai sesiwn Flaenraglen Waith yn cael ei threfnu i ganiatáu i'r
Pwyllgor lunio Blaenraglen Waith bellach, yn dilyn Cyfarfod Blynyddol y Cyngor. |
|
Eitemau brys (Unrhyw eitemau
brys (boed yn gyhoeddus neu
wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn
y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972) Cofnodion: Ni
datganwyd unrhyw fuddiannau. |