Lleoliad: Multi-Location Meeting Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd Hale yn Gadeirydd ar
gyfer y cyfarfod |
|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw eitemau brys. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw eitemau brys. |
|
Blaenraglen Waith 23/24 PDF 579 KB Cofnodion: Nodwyd y Flaenraglen Waith |
|
Amser Cwestiynau Cyhoeddus Mae'n rhaid
cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd,
democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach
na chanol dydd ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau
ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir
â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni dderbyniwyd cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Bwriad Strategol Diogelwch Cymunedol PDF 435 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: · Bod Bwrdd y Cabinet yn
cymeradwyo cynnwys y Ddogfen Bwriad Strategol. · Bod Bwrdd y Cabinet yn rhoi awdurdod dirprwyedig i awduron yr adroddiad hwn
i roi'r Ddogfen Bwriad Strategol ar waith a'i chyhoeddi. Rheswm dros y Penderfyniad Arfaethedig I sicrhau cydymffurfiad y Cyngor â'r dyletswyddau o dan Adran 17 o Ddeddf
Trosedd ac Anrhefn 1998 Rhoi'r Penderfyniad ar Waith Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod
3 diwrnod galw i mewn a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Chwefror 2024. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: · Bod aelodau'n cymeradwyo ymgynghoriad
90 niwrnod ar gyfer rhanddeiliaid er mwyn cael adborth am y ddarpariaeth
bresennol a'r cynnig i ailfodelu gwasanaethau llety VAWDASV. · Bod swyddogion yn cyflwyno adroddiad ar ganfyddiadau'r ymgynghoriad a'r
argymhellion ar gyfer ail-gomisiynu gwasanaethau llety VAWDASV yn dilyn y
cyfnod ymgynghori. Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig: Sicrhau bod unrhyw newidiadau i'r ddarpariaeth bresennol wedi'u llywio gan
amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan gynnwys pobl y gall fod ganddynt brofiad o
ddefnyddio gwasanaethau VAWDASV. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod
3 diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Chwefror 2024. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u
heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b) o Offeryn
Statudol 2001 rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd) Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd PDF 244 KB Penderfynu gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol
yn unol â Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 a'r paragraffau
eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
Trefniadau cytundebol gyda The Hollins Cofnodion: Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Y gwasanaeth adnewyddu ac addasu tai yn ad-dalu arian y grant cyfleusterau i'r anabl Cofnodion: Penderfyniad: Bod yr arian grant o £16,879.54 yn cael ei hepgor am y rhesymau a fanylwyd
yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Rheswm dros y Penderfyniad Arfaethedig: Gwnaed y penderfyniad arfaethedig er mwyn sicrhau bod yr awdurdod yn arfer
ei ddisgresiwn o dan Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996: Grant
Cyfleusterau i'r Anabl (amodau sy'n gysylltiedig â chymeradwyo neu dalu'r
grant) - Caniatâd Cyffredinol 2008. Rhoi'r Penderfyniad Arfaethedig Ar Waith Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn
sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Chwefror 2024. |
|
Adolygu ffioedd cleientiaid i sicrhau ansawdd a gwasanaethau technoleg gynorthwyol gynaliadwy Cofnodion: Penderfyniad Cytunwyd mai opsiwn 1 oedd yr opsiwn a ffefrir, fel
a fanylwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn a
ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Chwefror 2024. |
|
Cytundebau enwebu ar gyfer llety dros dro'r sector preifat Cofnodion: Yn dilyn cynnig Pwyllgor Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a
Diogelwch Cymunedol, a gynhaliwyd cyn y cyfarfod hwn, roedd yr Aelodau'n
gefnogol o'r ychwanegiad at yr argymhelliad, fel y nodir isod: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig,
argymhellir bod y Cyngor yn cytuno i uchafswm o bum cytundeb enwebu gyda D2
Prop Co ar gyfer darparu hyd at bum eiddo ar gyfer llety dros dro, yn amodol ar
swyddogion yn dod yn ôl i Fwrdd y Cabinet gyda phapur cyn llofnodi unrhyw un
o'r contractau unigol. |
|
Caniatâd i ymgynghori ar yr adolygiad o wasanaethau llety brys trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a gomisiynwyd - atodiad 1 (Yn eithriedig o dan Baragraff 15) Cofnodion: Y rhain oedd yr atodiadau preifat mewn perthynas ag
Eitem 7 ar yr agenda, Caniatâd i Ymgynghori ar yr adolygiad o Wasanaethau Llety
Brys Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, ac ni chawsant
eu trafod yn y cyfarfod. |