Agenda a Chofnodion

Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol y Cabinet - Dydd Mawrth, 11eg Hydref, 2022 2.10 pm

Lleoliad: Multi-Location Meeting Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams

Cyswllt: Naidine Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

 

Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd J Hale yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cyhoeddiad(au) y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 210 KB

Cofnodion:

Cytunwyd bod y cofnodion dyddiedig yn gofnod gwir a chywir o'r cyfarfod.

 

5.

Blaenraglen Waith 2022/23 pdf eicon PDF 412 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Blaenraglen Waith.

 

6.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

 

7.

Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar CNPT 2022-2023 pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, caiff y Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar Drafft Castell-nedd Port Talbot 2022/23 ei gyflwyno i'r cyngor i'w gymeradwyo.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Galluogi Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot (Ymyrryd yn Gynnar ac Atal) ar ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot i ymgymryd â'i ddyletswyddau i ddarparu gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yn unol â Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben ar 15 Hydref 2022.

 

 

8.

Dirprwyaeth o dan Ddeddfwriaeth Llywodraeth Leol i Gyngor Tref Llansawel ynghylch darparu gwasanaeth dydd pdf eicon PDF 256 KB

Cofnodion:

 

 

Penderfyniadau

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith sgrinio integredig:

 

1.     Cymeradwyo rhoi dirprwyaeth blwyddyn i Gyngor Tref Llansawel yn unol ag adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac adran 19 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 i weithredu gwasanaeth prydau cymunedol yn Liberty Hall, Llansawel. Yn unol â Deddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983.

 

2.     Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion mewn ymgynghoriad â'r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd i ymrwymo i gytundeb addas i ddogfennu'r ddirprwyaeth hon.

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

Byddai methu â rhoi dirprwyaeth yn golygu y byddai darparu gwasanaeth prydau cymunedol yn Liberty Hall, Llansawel yn dod i ben.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben ar 15 Hydref 2022.

 

 

 

 

9.

Dirprwyaeth o dan Ddeddfwriaeth Llywodraeth Leol i Gyngor Tref Castell-nedd ynghylch darparu gwasanaeth dydd pdf eicon PDF 258 KB

Cofnodion:

 

 

Penderfyniadau

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith sgrinio integredig:

 

1.     Rhoi awdurdod dirprwyedig i Ganol Tref Castell-nedd am flwyddyn yn unol ag adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac adran 19 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 i weithredu gwasanaeth prydau cymunedol yng Nghaffi Tref Castell-nedd yn unol â Deddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983.

 

2.     Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion mewn ymgynghoriad â'r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd i ymrwymo i gytundeb addas i ddogfennu'r ddirprwyaeth hon.

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

Byddai methu â rhoi dirprwyaeth yn golygu y byddai darparu gwasanaeth prydau cymunedol yng Nghaffi Tref Castell-nedd yn dod i ben.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith

 

Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben ar 15 Hydref 2022.

 

 

10.

Dosbarthu Grant Llywodraeth Cymru i Gefnogi Gwasanaethau Gofal Cartref pdf eicon PDF 336 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniadau

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig:

 

1.     Rhoi awdurdod dirprwyedig i‘r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion i ddyrannu £240,000 o gyllid a ddarperir drwy grant Llywodraeth Cymru er mwyn cefnogi darparwyr gofal cartref a gomisiynwyd i gynyddu cyfraddau milltiredd ar gyfer eu gweithluoedd.

 

2.     Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion i ddefnyddio £210,000 o'r grant gan Lywodraeth Cymru sydd ar gael ar gyfer prynu ceir trydan, pwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan a gosod pwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan ac at ddefnydd Tîm Lles Cymunedol y cyngor i'w rhannu.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Fel bod y cyngor yn gallu dosbarthu'r grant a oedd ar gael mewn ffordd sy'n cefnogi'r farchnad gofal cartref orau.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn

sy'n dod i ben 15 Hydref 2022.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

11.

Adroddiad Ailgartrefu Cyflym pdf eicon PDF 400 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniadau

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, cymeradwyo Cynllun Ailgartrefu Cyflym Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot fel y nodir yn Atodiad 2.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Er mwyn cydymffurfio â gofynion Llywodraeth Cymru;

 

Er mwyn gwella ein hymateb i ddigartrefedd, gan ddarparu gwasanaeth mwy effeithiol i sicrhau bod digartrefedd yn "brin, yn fyr ac yn brofiad na chaiff ei ailadrodd";

 

I gefnogi staff sy'n gweithio mewn amgylchiadau heriol; ac

 

er mwyn sicrhau bod gan bawb sy'n ddigartref y llety a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau cadarnhaol yn ein cymunedau.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn a ddaeth i ben ar 15 Hydref 2022.

 

12.

Cymeradwyo Cyhoeddi Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai Castell-nedd Port Talbot pdf eicon PDF 332 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniadau

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, rhoi cymeradwyaeth i Swyddogion weithredu a chyhoeddi Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

Sicrhau bod amrywiaeth o gymorth sy'n gysylltiedig â thai o ansawdd da ar gael i ddiwallu anghenion preswylwyr Castell-nedd Port Talbot a bod y cyngor yn cydymffurfio â Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben ar 15 Hydref 2022.

 

 

 

 

 

13.

Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad Leol a Rhanbarthol pdf eicon PDF 233 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 Penderfyniad

 

1.     Cymeradwyo a chyhoeddi Adroddiad ar Sefydlogrwydd Marchnad Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg.

 

2.     Cymeradwyo a chyhoeddi Adroddiad ar Sefydlogrwydd Marchnad Castell-nedd Port Talbot.

 

Rhesymau dros y penderfyniad

 

Cefnogi'r gwaith o gynllunio a chomisiynu gwasanaethau a sicrhau cydymffurfiaeth ag Adran 144B o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a'r Trefniadau Partneriaeth (Diwygio), Tudalen 272

a Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad) (Cymru) 2021.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben ar 15 Hydref 2022.

 

 

14.

Dyfodol Trem y Glyn pdf eicon PDF 725 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 

Penderfyniad

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith sgrinio integredig.

 

1.     Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai i gwblhau'r trafodaethau â Grŵp Pobl i ymestyn y contract presennol mewn perthynas â Threm y Glyn am gyfnod o 12 mis, gan gynnwys cytuno'r cyfraddau contract diwygiedig.

 

2.     Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai i atal gofynion Rheolau Gweithdrefnau Contractau'r cyngor dan reol 5, yn enwedig y gofyniad am gystadleuaeth.

 

3.     Ar ddiwedd y trafodaethau hyn, ymrwymo i Weithred Amrywio i ymestyn cyfnod y contract am gyfnod pellach o 12 mis, gyda'r costau terfynol yn cael eu hadrodd yn ôl i'r Cabinet at ddibenion gwybodaeth.

 

4.     Cyflwyno strategaeth ar gyfer gwasanaethau pobl hŷn ym mis Medi 2023 er mwyn i'r Aelodau wneud penderfyniad gwybodus ar Drem y Glyn ar ôl mis Mawrth 2024.

 

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

Sicrhau digonolrwydd gofal yng Nghastell-nedd Port Talbot.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith

 

Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn a ddaeth i ben ar 15 Hydref 2022.

 

 

 

 

15.

Dangosyddion Monitro Perfformiad Chwarter 1 pdf eicon PDF 320 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad

 

Nodi'r adroddiad.

 

 

16.

Perfformiad Chwarter 1 (1 Ebrill 2022 - 30 Mehefin 2022) pdf eicon PDF 306 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad

 

Nodi'r adroddiad.

 

17.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd

Cofnodion:

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd.

 

18.

Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd pdf eicon PDF 244 KB

Penderfynu gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn unol â Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Penderfynu gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn unol â Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

19.

Trefniant Cytundebol ar gyfer Gwasanaeth Rheoli a Darparu Llety â Chymorth

Cofnodion:

Penderfyniad

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig:

 

1.     Bwriad Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc yw ymrwymo i gontract gyda Llamau ar gyfer Gwasanaeth Rheoli a Darparu Llety â Chymorth ar gyfer pobl ifanc. Bydd y contract hwn am gyfnod o 12 mis gydag opsiwn i ymestyn am 12 mis arall, yn amodol ar nodi cymal dod â chontract i ben yn gynnar yn ddi-fai ar ôl 3 mis.

 

2.    Rhoi cymeradwyaeth i Swyddogion gynnal unrhyw ymgynghoriad angenrheidiol fel rhan o'r broses adolygu a chomisiynu.

 

3.    Bod Swyddogion yn cynnal ymarfer caffael ar gyfer darparu Gwasanaeth Rheoli a Darparu Llety â Chymorth ar gyfer pobl ifanc.

 

4.   Rhoi awdurdod dirprwyedig i Bennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc i ymrwymo i gontract gyda'r cynigydd buddugol.

 

Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig:

 

Fel bod y cyngor yn gallu parhau i gyflawni ei ddyletswyddau i bobl ifanc a nodwyd, yr angen am lety â chymorth.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn a ddaeth i ben ar 15 Hydref 2022.

 

20.

Trefniadau Cytundebol ar gyfer Llety Dros Dro i Bobl Ifanc Ddigartref

Cofnodion:

 

Penderfyniad

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig:

 

1.     Bwriad Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion yw ymrwymo i gontract gyda Llamau a Pobl er mwyn darparu gwasanaethau llety dros dro arbenigol ar gyfer pobl ifanc digartref. Bydd y contractau hyn am gyfnod o 12 mis gydag opsiwn i ymestyn am 12 mis arall, yn amodol ar nodi cymal dod â chontract i ben yn gynnar yn ddi-fai ar ôl 3 mis.

2.     Rhoi cymeradwyaeth i Swyddogion gynnal unrhyw ymgynghoriad angenrheidiol fel rhan o'r broses adolygu a chomisiynu.

3.     Bod Swyddogion yn cynnal ymarfer caffael ar gyfer darparu gwasanaethau llety dros dro i bobl ifanc digartref.

 

4.     Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion i ymrwymo i gontract gyda'r cynigydd(yddion) buddugol.

 

Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig

 

Fel bod y cyngor yn gallu parhau i gyflawni ei ddyletswyddau i bobl ifanc sy'n profi neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith

 

Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn a ddaeth i ben ar 15 Hydref 2022.

 

21.

Adroddiadau Chwarterol Cartref Diogel Hillside

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Nodi'r adroddiad