Cofnodion

Mins Approved by Officers, Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol y Cabinet - Dydd Llun, 27ain Mehefin, 2022 10.15 am

Lleoliad arfaethedig: Teams/ hybrid at Council Chamber - Port Talbot Civic Centre

Cyswllt: Tammie Davies 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd A Llewelyn yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cyhoeddiad(au) y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau .

 

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau.

 

5.

Eitem pdf eicon PDF 334 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

1.           Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, cymeradwywyd cynnal ymarfer caffael i gomisiynu gwasanaethau gofal a chefnogaeth ar gyfer cynllun 'Camu i Fyny/Camu i Lawr'.

 

2.           Yn dilyn y broses gaffael, rhoddir awdurdod dirprwyedig i Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion ymrwymo i gontract gyda'r cynigiwr yr ystyrir ei fod yn cynnig y tendr mwyaf manteisiol yn economaidd (gan ystyried safon a chost y cynigion), ar gyfer darparu gofal a chefnogaeth ar gyfer cynllun 'Camu i Fyny/Camu i Lawr.'

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

I sicrhau bod y cyngor yn cydymffurfio'n gyfreithiol wrth brynu'r gwasanaethau hyn. Yn ogystal, bydd sefydlu'r cynllun hwn yn sicrhau bod y cyngor yn y sefyllfa orau i barhau i ddiwallu anghenion a bodloni gofynion y rheini y mae angen cefnogaeth arnynt i ddatblygu eu sgiliau byw'n annibynnol, fel y gallant symud i lety llai sefydliadol.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Rhoddir y penderfyniadau ar waith yn syth, gyda chytundeb Cadeirydd y Pwyllgor Craffu. Nid oedd unrhyw 'alwadau i mewn' am yr eitem hon.

 

6.

Trefniadau ar gyfer Darparu Gwasanaethau Gofal Cartref pdf eicon PDF 929 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

1.           Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, cymeradwyo'r bwriad i roi cynllun peilot ar waith yn ardal rhwydwaith Cwm Afan Uchaf (fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd).

 

2.           Atal Rheol 11 o Reolau Gweithdrefnau Contract y cyngor.

 

3.           Rhoi caniatâd i Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion ymestyn y System Prynu Deinamig am gyfnod o 12 mis, gyda'r opsiwn o'i hymestyn am 12 mis pellach, gyda'r cyfnod hwn yn amodol ar y cyngor yn gallu terfynu'r System Prynu Deinamig yn gynnar drwy ddarparu tri mis o rybudd i'r darparwyr.

 

4.           Cymeradwyo'r cynigion i ail-gydbwyso'r farchnad gofal cartref drwy recriwtio aelodau ychwanegol i'r Tîm Lles Cymunedol.

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

Sicrhau bod contract cyfreithiol-rwymol yn galluogi ar gyfer parhad gwasanaethau hanfodol, wrth i swyddogion ymgymryd â chynllun peilot a datblygu argymhellion ar gyfer model gwasanaeth newydd sy'n sicrhau bod y cyngor yn y sefyllfa orau i gyflawni ei ddyletswyddau statudol a bod gan y cyngor farchnad gofal cartref mwy cadarn.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Rhoddir y penderfyniadau ar waith yn syth, gyda chytundeb Cadeirydd y Pwyllgor Craffu. Nid oedd unrhyw 'alwadau i mewn' am yr eitem hon.

 

 

7.

Eitemau brys

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau .

 

8.

Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd pdf eicon PDF 242 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem fusnes ganlynol ar y sail ei bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff eithrio 14 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 yn amodol ar gymhwyso Prawf Budd y Cyhoedd (lle bo'n briodol).

 

9.

Trefniadau Cytundebol ar gyfer y Gwasanaeth Ataliaeth a Lles (eithriedig o dan Baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

1.           Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, atal Rheol 11 o Reolau Gweithdrefnau Contract y cyngor.

 

2.           Rhoi caniatâd i Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion ymrwymo i gontract gyda'r Darparwr fel a fanylwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd, ar gyfer darparu'r Gwasanaeth Ataliaeth a Lles am gyfnod o 12 mis, gyda'r opsiwn o ehangu'r gwasanaeth am 6 mis arall, gyda'r cyfnod hwn yn amodol ar y cyngor yn gallu dod â'r gwasanaeth i ben yn gynnar drwy ddarparu tri mis o rybudd i'r Darparwr.

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

Sicrhau bod contract rhwymol-gyfreithiol sy'n galluogi ar gyfer parhau â'r gwasanaethau hanfodol hyn, wrth i swyddogion gynnal adolygiad o wasanaethau digartrefedd a datblygu model gwasanaeth newydd sy'n galluogi ar gyfer darparu yn erbyn y Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Rhoddir y penderfyniadau ar waith yn syth, gyda chytundeb Cadeirydd y Pwyllgor Craffu. Nid oedd unrhyw 'alwadau i mewn' am yr eitem hon.