Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Multi-Location Meeting Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams

Cyswllt: Tammie Davies 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd S Harris yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 173 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion 11 Hydref 2022 fel cofnod cywir o'r cyfarfod.

 

5.

Blaenraglen Waith 2022/23 pdf eicon PDF 418 KB

Cofnodion:

Bod Blaenraglen Waith y Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol Ymlaen yn cael ei nodi.

 

6.

Amser Cwestiynau Cyhoeddus

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cwestiynau gan y cyhoedd

7.

Sefydlu Fframwaith Cyfrif a Reolir a Chefnogaeth Gyflogres pdf eicon PDF 342 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

 

a)   Bod ymarfer yn cael ei gynnal sy'n cynnwys yr holl ymgynghoriad angenrheidiol, i alluogi sefydlu fframwaith i ddarparwyr sy'n gallu cynnig Cyfrifon a Reolir a Gwasanaethau Cefnogi'r Gyflogres i bobl sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol.

 

b)   Bod Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion yn cael awdurdod dirprwyedig i ychwanegu darparwyr sy'n bodloni gofynion y fframwaith.  Bod y fframwaith yn para am bedair blynedd gyda'r opsiwn o ymestyn y cyfnod am hyd at bedair blynedd arall.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Er mwyn sicrhau bod y cyngor yn y sefyllfa orau i gyflawni'i ddyletswydd statudol i gefnogi derbynyddion Taliadau Uniongyrchol wrth sefydlu'r fframwaith.

 

Er mwyn sicrhau bod y cyngor yn gyson ag arfer gorau.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y gwaith o roi'r penderfyniad ar waith yn cychwyn ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, sy'n dod i ben ddydd Llun 14 Tachwedd 2022.

 

Ymgynghoriad:

 

Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad allanol.

 

 

8.

Fframwaith Gofal Cartref Arbenigol pdf eicon PDF 346 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

 

a.   Bod unrhyw ymgynghoriad angenrheidiol fel rhan o'r broses gomisiynu'n cael ei gynnal gan Swyddogion.

 

b.   Bod ymarfer caffael yn cael ei gynnal gan Swyddogion er mwyn sefydlu fframwaith amlgyflenwr ar gyfer darparu gofal cartref arbenigol, y gellir ei ddefnyddio gan y cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

 

c.   Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion a Phennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc i ymrwymo i gytundeb fframwaith gyda'r cynigydd(wyr) y gwerthusir ei fod yn cynnig y tendr mwyaf manteisiol yn economaidd (gan ystyried ansawdd a chost y ceisiadau), ar gyfer darparu gofal cartref arbenigol. Bod y cytundeb hwn am gyfnod o bedair blynedd gydag opsiwn i'w ymestyn am hyd at bedair blynedd arall.

 

ch. Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion a Phennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc i ddefnyddio'r fframwaith hwn, lle bo'n briodol, i brynu Gwasanaethau Gofal Cartref arbenigol ac ymrwymo i gytundebau gwasanaeth unigol.

 

  1. Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion a Phennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc i wneud trefniant gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe er mwyn i'r cyngor gynnal y fframwaith.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Er mwyn sicrhau bod y cyngor yn cydymffurfio'n gyfreithiol i ymgymryd ag ymarfer caffael i brynu gwasanaeth gofal cartref arbenigol.

 

Er mwyn sicrhau bod y cyngor yn y sefyllfa orau i ddiwallu anghenion a galwadau'r rheini y mae angen arnynt y gwasanaethau sy'n cael eu hamlinellu o fewn y fframwaith.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Bydd y gwaith o roi'r penderfyniad ar waith yn cychwyn ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, sy'n dod i ben ddydd Llun 14 Tachwedd 2022.

 

Ymgynghoriad:

Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad allanol

 

 

 

9.

Trosglwyddo Prydles Ystafelloedd Newid Rhodfa Rhodes pdf eicon PDF 323 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

 

Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion lunio cytundeb er mwyn i'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion allu meddiannu mangre sy'n eiddo i'r cyngor a elwir yn "Ystafelloedd Newid Rhodfa Rhodes".

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Er mwyn sicrhau bod y Gwasanaethau i Oedolion yn llunio cytundeb i feddiannu Ystafelloedd Newid Rhodfa Rhodes i ddarparu hwb cymunedol anabledd a hamdden gorfforol i'r gymuned.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Bydd y gwaith o roi'r penderfyniad ar waith yn cychwyn ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, sy'n dod i ben ddydd Llun 14 Tachwedd 2022.

 

Ymgynghoriad:

Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad allanol

 

10.

Cynnydd i ffïoedd Cartrefi Gofal Pobl Hyn pdf eicon PDF 423 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

 

·        Bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai yn cael awdurdod dirprwyedig i:

 

·        Weithredu cynnydd o £30 y pen, yr wythnos i bris y contract cyfredol ar gyfer prynu gwasanaethau Cartrefi Gofal Pobl Hŷn yn ardal Castell-nedd Port Talbot ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/2023;

·        Bod y codiad yn cael ei ôl-ddyddio i ddechrau o 1Ebrill 2022.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Er mwyn sicrhau bod ffïoedd sy'n cael eu talu i Gartrefi Gofal Pobl Hŷn yn talu costau cynyddol darparu eu gwasanaethau, gan sicrhau sefydlogrwydd y farchnad a chydymffurfiaeth â Safon 10 Fframwaith Comisiynu: Canllawiau ac Arfer Da Llywodraeth Cymru.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Bydd y gwaith o roi'r penderfyniad ar waith yn cychwyn ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, sy'n dod i ben ddydd Llun 14 Tachwedd 2022.

 

Ymgynghoriad:

Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad allanol

 

 

11.

Trefniadau Cydweithredol Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Mabwysiadu a Maethu Cymru (Awdurdodau Lleol). pdf eicon PDF 312 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i Bennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc i arwyddo'r Cytundeb er mwyn sefydlu Cyd-bwyllgor ar gyfer y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Er mwyn sicrhau bod y cyngor yn cyflawni ei gyfrifoldeb o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Cyd-drefniadau Mabwysiadu) (Cymru) 2015.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar unwaith, fel y cytunwyd gyda Chadeirydd Bwrdd Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol.

 

Ymgynghoriad:

Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad allanol

 

 

12.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Offeryn Statudol 2001 rhif 2290 (fel y’I diwygiwyd).

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.

13.

Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd pdf eicon PDF 315 KB

Yn unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

14.

Trefniadau Cytundebol ar gyfer Amrywiaeth o Wasanaethau Plant a Phobl Ifanc

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi

15.

Datblygu Gwasanaethau Camu i Fyny a Chamu i Lawr

Cofnodion:

 

 

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

 

1.    Bod rhoi'r gwasanaeth Camu i Fyny/Camu i Lawr ar waith ar gyfer pobl sy'n aros am becyn gofal cartref, dan arweiniad Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion, yn cael ei nodi.

 

2.    Bod y ffaith bod contractau gyda Haven Home Care (UK) Limited a Crosshands Home Services Limited wedi'u llunio er mwyn prynu 86 awr o ofal cartref yn cael ei nodi.

 

3.    Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i Bennaeth y Gwasanaethau Oedolion i lunio cytundeb gyda Grŵp Coastal Housing er mwyn rhentu pum uned o lety yn Ysbryd y Môr a Thŷ Twyn Teg.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Er mwyn sicrhau bod cefnogaeth briodol yn cael ei darparu i unigolion wrth aros am becyn gofal cartref.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y gwaith o roi'r penderfyniad ar waith yn cychwyn ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, sy'n dod i ben ddydd Llun 14 Tachwedd 2022.

 

Ymgynghoriad:

 

Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad allanol

 

16.

Trefniadau Cytundebol ar gyfer Gwasanaeth Cefnogi (Bywydau a Rennir) Lleoli Oedolion

Cofnodion:

 

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig

 

·       Bod Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion yn llunio contract gydag Ategi Shared Lives i ddarparu Gwasanaeth Cefnogi Lleoliadau i Oedolion am gyfnod o 12 mis;

 

·       Bod y cynnig sy'n cael ei ddatblygu ar gyfer y cyngor i ddarparu'r gwasanaeth Cefnogi Lleoliadau Oedolion yn cael ei nodi;

 

·       Bod Swyddogion yn cynnal unrhyw ymgynghoriad sy'n angenrheidiol fel rhan o ddatblygu'r cynnig i drosglwyddo'r Gwasanaeth o'r Darparwr i'r cyngor.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Er mwyn sicrhau bod gan y cyngor gontract sy'n gyfreithiol rwymol gyda darparwyr a bod gwasanaethau hanfodol yn ddi-dor yn y datblygiadau ar gyfer y cynnig fel bod Swyddogion y cyngor yn gallu parhau i ddarparu'r gwasanaeth.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Bydd y gwaith o roi'r penderfyniad ar waith yn cychwyn ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, sy'n dod i ben ddydd Llun 14 Tachwedd 2022.

 

Ymgynghoriad:

Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad allanol.

 

 

17.

Caniatâd i ystyried ailstrwythuro yn Hillside

Cofnodion:

Penderfyniad:

Bod Swyddogion yn archwilio dichonoldeb ailstrwythuro yn Hillside ac yn cyflwyno adroddiad i aelodau rhyw ben yn y dyfodol er mwyn ystyried yr opsiynau hynny.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Er mwyn rhoi'r cyfle i archwilio gwahanol fodelau ar gyfer Hillside ac ymgynghori â phartneriaid ynghylch y newidiadau arfaethedig.

 

Cyflwynir adroddiad pellach i'r Aelodau er mwyn iddynt ystyried yr opsiynau a nodwyd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Bydd y gwaith o roi'r penderfyniad ar waith yn cychwyn ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, sy'n dod i ben ddydd Llun 14 Tachwedd 2022.

 

Ymgynghoriad:

Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad allanol