Agenda a Chofnodion

Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol y Cabinet - Dydd Iau, 25ain Ionawr, 2024 2.05 pm

Lleoliad: Multi-Location Meeting Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd Hale yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw eitemau brys.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

 

Ni chafwyd unrhyw eitemau brys.

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 146 KB

Cofnodion:

Deuir â chofnodion 16 Tachwedd, 2023 i gyfarfod nesaf y pwyllgor i'w cymeradwyo.

 

5.

Blaenraglen Waith 23/24 pdf eicon PDF 496 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Flaenraglen Waith

6.

Amser Cwestiynau Cyhoeddus

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

 

7.

Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr 2022 - 23 pdf eicon PDF 393 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Bod Aelodau'n nodi ac yn cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr 2022-23 fel y nodwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad a gylchredwyd i'w argymell i'r Cyngor i'w gymeradwyo.

 

Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig:

 

Sicrhau bod Gwasanaethau Cymdeithasol Castell-nedd Port Talbot yn bodloni'r gofynion fod yn rhaid i bob awdurdod lleol lunio adroddiad blynyddol ar gyflawni ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau, a ddaeth ben am 9am ddydd Llun, 30 Ionawr 2023.

 

 

 

8.

Cynllun Strategol Tai a Digartrefedd pdf eicon PDF 383 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig, argymhellir bod yr Aelodau'n cymeradwyo Cynllun Strategol Tai a Digartrefedd 2024-2027, fel y nodwyd yn Atodiad 1.

 

Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig:

 

Darparu cynllun gweithredu strategol i'r Adran Tai a Chymunedau er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i gymunedau Castell-nedd Port Talbot.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau, a ddaeth ben am 9am ddydd Llun, 30 Ionawr 2023.

 

9.

Cynllun Strategol Gofal Cymdeithasol Plant a Phobl Ifanc Castell-nedd a Phort Talbot 2023-2026 pdf eicon PDF 332 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, argymhellir bod yr Aelodau'n cymeradwyo Cynllun Strategol Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc Castell-nedd Port Talbot 2023-26 fel y nodwyd yn Atodiad 1.

 

Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig:

 

Sicrhau bod ystod o ofal a chefnogaeth o ansawdd da ar gael i ddiwallu anghenion plant agored i niwed sy'n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau, a ddaeth ben am 9am ddydd Llun, 30 Ionawr 2023.

 

 

 

 

10.

Strategaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion Castell-nedd Port Talbot 2023-2026 pdf eicon PDF 332 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, argymhellir bod yr Aelodau'n cymeradwyo Strategaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion Castell-nedd Port Talbot 2023-26 fel y nodwyd yn Atodiad 1.

 

Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig:

 

Sicrhau bod ystod o ofal a chefnogaeth o ansawdd da ar gael i ddiwallu anghenion oedolion sy'n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau, a ddaeth ben am 9am ddydd Llun, 30 Ionawr 2023.

 

11.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b) o Offeryn Statudol 2001 rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd)

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw eitemau brys.

 

12.

Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd pdf eicon PDF 243 KB

Penderfynu gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn unol â Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem fusnes ganlynol ar y sail ei bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff eithrio 14 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 yn amodol ar gymhwyso Prawf Budd y Cyhoedd (lle bo'n briodol).

 

13.

Cynllun Strategol Tai a Digartrefedd - Atodiad 6 a 7 (yn eithriedig dan baragraff 15)

Cofnodion:

 

Dyma'r atodiadau preifat a oedd yn ymwneud ag eitem 8 yr agenda, Cynllun Strategol Tai a Digartrefedd 2024 - 2027 ac ni chawsant eu trafod yn y cyfarfod.

 

14.

Neath Port Talbot Children & Young People Social Care Strategic Plan 2023-2026 - Appendix 5 (Exempt under paragraph 14 )

Cofnodion:

Dyma'r atodiadau preifat a oedd yn ymwneud ag eitem 9 ar yr agenda, Cynllun Strategol Gofal Cymdeithasol Plant a Phobl Ifanc Castell-nedd Port Talbot 2023 - 2026, ac ni chawsant eu trafod yn y cyfarfod.

 

15.

Achos Busnes ar gyfer Sefydlu Gwasanaeth Lleoli Oedolion mewn Teuluoedd mewnol

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Bod aelodau'n rhoi caniatâd i Swyddogion wneud y paratoadau angenrheidiol i ddod â'r Gwasanaeth Lleoli Oedolion mewn Teuluoedd yn fewnol gan gynnwys:

 

·       Cyflwyno rhybudd i'r darparwr presennol ('Ategi') nad yw'r Cyngor yn bwriadu adnewyddu ei gontract ar ôl i'r trefniant presennol ddod i ben ar 30 Ebrill 2024.

 

·       Ymgysylltu ag Ategi fel bod trefniadau TUPE posibl yn cael eu cymhwyso gyda'r bwriad o sefydlu tîm mewnol y Cyngor.

 

·       Gweithredu system bandio taliadau ar gyfer teuluoedd sy'n derbyn, gan gynnwys archwilio'r posibilrwydd o gynyddu taliadau wedi'u cyllido o fis Ebrill 2024.

 

·       Cymeradwyo awdurdod dirprwyedig i Bennaeth y Gwasanaethau Oedolion ymrwymo i gytundeb gyda Chyngor Abertawe i redeg y gwasanaeth ar ei ran.

 

Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig:

 

Ystyried yr adnoddau gofal cymdeithasol sydd ar gael wrth gynnal asesiad neu ailasesiad o anghenion unigolion; sicrhau bod ystod gynaliadwy o wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion o ansawdd da ar gael i ddiwallu anghenion dinasyddion mwyaf agored i niwed Castell-nedd Port Talbot; cyfrannu tuag at yr arbedion cyllidebol a nodwyd ym Mlaengynllun Ariannol y Cyngor; a chyfrannu at nod Llywodraeth Cymru i ail-gydbwyso’r farchnad gofal cymdeithasol drwy symud gwasanaethau i ffwrdd o sefydliadau er elw

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau, a ddaeth ben am 9am ddydd Llun, 30 Ionawr 2023