Agenda a Chofnodion

Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol y Cabinet - Dydd Gwener, 2ail Chwefror, 2024 10.05 am

Lleoliad: Multi-Location Meeting Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd Hale yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw eitemau brys.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw eitemau brys.

 

4.

Blaenraglen Waith 23/24 pdf eicon PDF 579 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Flaenraglen Waith

5.

Amser Cwestiynau Cyhoeddus

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

 

6.

Bwriad Strategol Diogelwch Cymunedol pdf eicon PDF 435 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Penderfyniad:

 

·       Bod Bwrdd y Cabinet yn cymeradwyo cynnwys y Ddogfen Bwriad Strategol.

 

·       Bod Bwrdd y Cabinet yn rhoi awdurdod dirprwyedig i awduron yr adroddiad hwn i roi'r Ddogfen Bwriad Strategol ar waith a'i chyhoeddi.

 

Rheswm dros y Penderfyniad Arfaethedig

 

I sicrhau cydymffurfiad y Cyngor â'r dyletswyddau o dan Adran 17 o Ddeddf Trosedd ac Anrhefn 1998

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith

 

Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Chwefror 2024.

 

 

 

7.

Caniatâd i ymgynghori ar yr adolygiad o wasanaethau llety brys trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a gomisiynw pdf eicon PDF 417 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

·       Bod aelodau'n cymeradwyo ymgynghoriad 90 niwrnod ar gyfer rhanddeiliaid er mwyn cael adborth am y ddarpariaeth bresennol a'r cynnig i ailfodelu gwasanaethau llety VAWDASV.

 

·       Bod swyddogion yn cyflwyno adroddiad ar ganfyddiadau'r ymgynghoriad a'r argymhellion ar gyfer ail-gomisiynu gwasanaethau llety VAWDASV yn dilyn y cyfnod ymgynghori.

 

Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig:

 

Sicrhau bod unrhyw newidiadau i'r ddarpariaeth bresennol wedi'u llywio gan amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan gynnwys pobl y gall fod ganddynt brofiad o ddefnyddio gwasanaethau VAWDASV.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Chwefror 2024.

 

 

 

8.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b) o Offeryn Statudol 2001 rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd)

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw eitemau brys.

 

9.

Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd pdf eicon PDF 244 KB

Penderfynu gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn unol â Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

10.

Trefniadau cytundebol gyda The Hollins

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

11.

Y gwasanaeth adnewyddu ac addasu tai yn ad-dalu arian y grant cyfleusterau i'r anabl

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Bod yr arian grant o £16,879.54 yn cael ei hepgor am y rhesymau a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad Arfaethedig:

 

Gwnaed y penderfyniad arfaethedig er mwyn sicrhau bod yr awdurdod yn arfer ei ddisgresiwn o dan Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996: Grant Cyfleusterau i'r Anabl (amodau sy'n gysylltiedig â chymeradwyo neu dalu'r grant) - Caniatâd Cyffredinol 2008.

 

Rhoi'r Penderfyniad Arfaethedig Ar Waith

 

Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Chwefror 2024.

 

 

12.

Adolygu ffioedd cleientiaid i sicrhau ansawdd a gwasanaethau technoleg gynorthwyol gynaliadwy

Cofnodion:

Penderfyniad

 

Cytunwyd mai opsiwn 1 oedd yr opsiwn a ffefrir, fel a fanylwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith

 

Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Chwefror 2024.

 

13.

Cytundebau enwebu ar gyfer llety dros dro'r sector preifat

Cofnodion:

Yn dilyn cynnig Pwyllgor Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol, a gynhaliwyd cyn y cyfarfod hwn, roedd yr Aelodau'n gefnogol o'r ychwanegiad at yr argymhelliad, fel y nodir isod:

 

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, argymhellir bod y Cyngor yn cytuno i uchafswm o bum cytundeb enwebu gyda D2 Prop Co ar gyfer darparu hyd at bum eiddo ar gyfer llety dros dro, yn amodol ar swyddogion yn dod yn ôl i Fwrdd y Cabinet gyda phapur cyn llofnodi unrhyw un o'r contractau unigol.

 

14.

Caniatâd i ymgynghori ar yr adolygiad o wasanaethau llety brys trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a gomisiynwyd - atodiad 1 (Yn eithriedig o dan Baragraff 15)

Cofnodion:

Y rhain oedd yr atodiadau preifat mewn perthynas ag Eitem 7 ar yr agenda, Caniatâd i Ymgynghori ar yr adolygiad o Wasanaethau Llety Brys Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, ac ni chawsant eu trafod yn y cyfarfod.