Agenda a Chofnodion

Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol y Cabinet - Dydd Iau, 21ain Medi, 2023 2.05 pm

Lleoliad: Multi-Location Meeting Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd Harris yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cyhoeddiad(au) y Cadeirydd

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 21 KB

Cofnodion:

Nodwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2023.

 

 

5.

Blaenraglen Waith 2023//24 pdf eicon PDF 576 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Flaenraglen Waith

6.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cwestiynau gan y cyhoedd

7.

Strategaeth Perthnasoedd Iach ar gyfer Cymunedau Cryfach pdf eicon PDF 499 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bod cynnwys a chyhoeddiad y Strategaeth Perthnasoedd Iachach ar gyfer Cymunedau Cryfach derfynol yn cael eu cymeradwyo.

 

8.

Comisiynu Gwasanaethau Gofal a Chymorth ar gyfer tri chynllun Byw â Chymorth pdf eicon PDF 327 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, ac ar yr amod bod Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf yn cael y caniatâd cynllunio perthnasol i symud ymlaen gydag adeiladu'r llety (fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd)

 

a) Cymeradwyo ymgymryd ag ymarfer caffael i gomisiynu gwasanaethau gofal a chymorth i bobl sy'n byw yn y Cynlluniau Byw â Chymorth.

b) Yn dilyn y broses gaffael, rhoi awdurdod dirprwyedig i Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion, mewn cydweithrediad â'r aelod/au cabinet perthnasol, ymrwymo i gontract gyda'r ymgeisydd llwyddiannus er mwyn darparu gofal a chymorth i bobl sy'n byw yn y Cynlluniau Byw â Chymorth.

 

9.

Dirprwyaeth o dan Ddeddfwriaeth Llywodraeth Leol i Gyngor Tref Llansawel ynghylch darparu gwasanaeth dydd pdf eicon PDF 256 KB

Cofnodion:

a)    Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith sgrinio integredig, bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn rhoi dirprwyaeth o un flwyddyn i Gyngor Tref Llansawel yn unol ag adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac adran 19 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 i weithredu gwasanaeth prydau cymunedol yn Neuadd Liberty, Llansawel, yn unol â Deddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983 a Deddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970.

 

b)    Rhoi awdurdod dirprwyedig i Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion mewn ymgynghoriad â Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd ymrwymo i gytundeb addas i ddogfennu'r ddirprwyaeth hon.

 

10.

Plant a phobl ifanc, Gwasanaethau Oedolion a Thai a diogelwch cymunedol, chwarter 1af (Ebrill 2023 - Mehefin 2023) adroddiad perfformiad pdf eicon PDF 322 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Nodi’r adroddiad.

11.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b) o Offeryn Statudol 2001 rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd).

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

12.

Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd pdf eicon PDF 244 KB

Penderfynu gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn unol â Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

13.

Achos busnes ar gyfer sefydlu Gwasanaeth Lleoli Oedolion mewn Teuluoedd mewnol

Cofnodion:

 

Rhoi caniatâd i Swyddogion:

 

a)    Gynnal ymarfer ymgynghori 30 niwrnod.

 

b)    Trafod dyddiad terfynu contract gyda'r darparwr presennol i gwmpasu'r amserlen o ddod â'r gwasanaeth yn fewnol.

 

c)     Recriwtio tîm mewnol gyda'r nod o ehangu nifer y bobl sy'n defnyddio’r gwasanaeth Lleoli Oedolion mewn Teuluoedd ac archwilio grwpiau cleientiaid ac anghenion cefnogi gwahanol.

 

d)    Rhoi system bandio taliadau ar waith.

 

e)    Defnyddio'r offeryn proffilio i asesu cleientiaid presennol a newydd.

 

f)      Ar ôl cytuno, cyflwyno cyfraddau newydd fesul cam i gyfuniadau cleient/gwesteiwr presennol dros gyfnod o ddwy flynedd, ond eu rhoi ar waith yn syth ar gyfer unrhyw gyfuniadau newydd.

 

14.

Darparu, cynnal a chadw a thynnu gosodiadau technoleg gynorthwyol yn fewnol

Cofnodion:

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Sgrinio Effaith Integredig:

 

a)    Cymeradwyo'r cynnig i wasanaethau ddarparu, cynnal a chadw a thynnu gosodiadau yn fewnol gan Wasanaeth Technoleg Gynorthwyol.

 

b)    Rhoi awdurdod dirprwyedig i Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion gyflwyno hysbysiad o derfyniad i 'Gofal a Thrwsio Bae'r Gorllewin' a dod â'r contract Technoleg Gynorthwyol i ben.

 

c)     Rhoi awdurdod dirprwyedig i Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol hwyluso unrhyw drosglwyddiad TUPE (Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) a all fod yn berthnasol rhwng Gofal a Thrwsio Bae'r Gorllewin a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

 

15.

Adroddiad Archwilio Rhif 13 - Cartref Diogel i Blant Hillside.

Cofnodion:

Nodi’r adroddiad.