Agenda a Chofnodion

Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol y Cabinet - Dydd Iau, 16eg Tachwedd, 2023 2.05 pm

Lleoliad: Multi-Location Meeting Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd Harris yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 27 KB

Cofnodion:

Bydd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Medi 2023 yn cael eu cyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor er mwyn eu cymeradwyo.

 

5.

Blaenraglen Waith 23/24 pdf eicon PDF 574 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Flaenraglen Waith

 

6.

Amser Cwestiynau Cyhoeddus

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cwestiynau gan y cyhoedd

 

7.

Caniatâd i ddarparu gwybodaeth ar y Rhaglen Trawsnewid - Achos Busnes Amlinellol y Cynghrair pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig, cymeradwyodd yr Aelodau egwyddorion, nodau ac amcanion y Rhaglen Drawsnewid - Achos Busnes Amlinellol y Gynghrair, a darparu cefnogaeth ar gyfer y cynllunio parhaus, i alluogi caffael gwasanaeth defnyddio sylweddau integredig newydd yn y dyfodol, gan ddefnyddio contract Cynghrair, a fydd yn disodli'r ystod bresennol o drefniadau contractio ar gyfer ymyriadau sy'n gysylltiedig â chyffuriau ac alcohol.

 

Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig:

 

Bydd cytuno i barhau â'r ‘Rhaglen Trawsnewid - Achos Busnes Amlinellol y Gynghrair' yn galluogi ar gyfer parhau i ddatblygu'r rhaglen.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Llun, 20 Tachwedd 2023.

 

 

 

8.

Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid Drafft Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar Castell-nedd Port Talbot 2023-2024 pdf eicon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Gofynnir i'r Aelodau gefnogi Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid Drafft Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar Castell-nedd Port Talbot ar gyfer 2023-2024 i'w argymell i'r Cyngor er mwyn ei gymeradwyo.

 

Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig:

 

Galluogi Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot (Ymyrryd yn Gynnar ac Atal), ar ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot i ymgymryd â'i ddyletswyddau i ddarparu gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yn unol â Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Llun, 20 Tachwedd 2023.

 

9.

Grwp Gwella Arfer pdf eicon PDF 303 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

10.

Un pwynt cyswllt: Gofynion parhaus a'n gallu i'w bodloni pdf eicon PDF 338 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

11.

Plant a Phobl Ifanc, y Gwasanaethau Oedolion a Thai a Diogelwch Cymunedol - Adroddiad Perfformiad yr 2il Chwarter (Ebrill 2023 - Medi 2023) pdf eicon PDF 336 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

12.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b) o Offeryn Statudol 2001 rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd)

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

13.

Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd pdf eicon PDF 246 KB

Penderfynu gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn unol â Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Penderfyniad

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem fusnes ganlynol ar y sail ei bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff eithrio 14 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 yn amodol ar gymhwyso Prawf Budd y Cyhoedd (lle bo'n briodol).

 

 

14.

Unigolyn Cyfrifol yn Hillside

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, argymhellir bod Aelodau:

 

Yn cytuno i atal Rheol 11 o Reolau Gweithdrefnol Contractau'r cyngor

 

Yn rhoi caniatâd i'r Pennaeth Tai a Chymunedau ymrwymo i gontract newydd gyda The Wallich ar gyfer darparu Gwasanaeth Ataliaeth a Lles am gyfnod o 12 mis, gydag opsiwn i ymestyn am 6 mis pellach. Mae'r cyfnod hwn yn amodol ar allu'r cyngor i derfynu'r gwasanaeth yn gynnar drwy roi tri mis o rybudd i The Wallich.

 

Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig:

 

Fel bod contract rhwymol-gyfreithiol sy'n galluogi ar gyfer parhau â'r gwasanaethau hanfodol hyn, wrth i swyddogion gynnal adolygiad o wasanaethau digartrefedd a datblygu model gwasanaeth newydd sy'n galluogi ar gyfer darparu yn erbyn y Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Llun, 20 Tachwedd 2023.

 

 

 

15.

Adroddiad Rheolwr Hillside

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

1.     Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiadau sgrinio effaith integredig, fod awdurdod yn cael ei roi Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai i fwrw ymlaen ag ailgynllunio gwasanaethau Hillside, fel y nodir yn atodiad 1 i'r adroddiad a gylchredwyd (Adroddiad Ailgynllunio Gwasanaeth Hillside).

 

2.     Bod yr awdurdod yn cael ei roi i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai i wneud y newidiadau angenrheidiol i'r gweithlu, gydag adroddiad gwybodaeth i'r Pwyllgor Personél yn manylu ar y newidiadau.

 

Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig

 

Mae angen i Hillside ymateb i anghenion a chanlyniadau newidiol y plant ag anghenion cymhleth a leolir yn Hillside - bydd y cynllun ail-lunio arfaethedig yn sicrhau bod y ddarpariaeth yn Hillside yn addasu yn y ffordd iawn i gefnogi'r plant mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. 

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9am ddydd Llun, 20 Tachwedd 2023. 

 

16.

Trefniadau Cytundebol ar gyfer y Gwasanaeth Ataliaeth a Lles

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

17.

Ailddylunio Gwasanaethau yn Hillside

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

18.

Llety â Chymorth Uwch i Bobl Ifanc

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi.