Agenda a Chofnodion

Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol y Cabinet - Dydd Iau, 13eg Gorffennaf, 2023 2.05 pm

Lleoliad: Multi-Location Meeting Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd Llewellyn yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 119 KB

Cofnodion:

Nodwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2023.

 

5.

Blaenraglen Waith 2023/24 pdf eicon PDF 482 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Flaenraglen Waith.

 

 

6.

Amser Cwestiynau Cyhoeddus

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

 

 

7.

Strategaeth Comisiynu Gwasanaethau Oedolion pdf eicon PDF 329 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, rhoddodd yr aelodau ganiatâd i swyddogion gynnal cyfnod ymgynghori cyhoeddus o 60 niwrnod ar gyfer Strategaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion ddrafft Castell-nedd Port Talbot 2023-26 fel y nodwyd yn Atodiad 1.

 

 

8.

Cynllun Strategol Tai a Digartrefedd drafft 2023-26 pdf eicon PDF 407 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, cymeradwyodd yr aelodau gyfnod ymgynghori cyhoeddus o 90 niwrnod ar gyfer Cynllun Strategol Tai a Digartrefedd drafft 2023/24-2025/26, fel y nodwyd yn Atodiad 1.

 

9.

Gwasanaeth Cwnsela Camddefnyddio Sylweddau - Bwrdd Cynllunio Ardal Bae'r Gorllewin pdf eicon PDF 398 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, rhoddodd yr aelodau ganiatâd i swyddogion gynnal cyfnod ymgynghori cyhoeddus o 60 niwrnod ar gyfer Cynllun Strategol Gofal Cymdeithasol Plant a Phobl Ifanc Castell-nedd Port Talbot 2023 - 2026 fel y nodwyd yn Atodiad 1.

 

10.

Adroddiad Perfformiad y 4 Chwarter pdf eicon PDF 324 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dylid nodi'r adroddiad.

 

11.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b) o Offeryn Statudol 2001 rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd).

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw eitemau brys.

 

12.

Mynediad i Gyfarfodydd pdf eicon PDF 242 KB

Gwahardd y Cyhoedd 

Penderfynu gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn unol â Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

13.

Gwasanaeth cwnsela camddefnyddio sylewddau - Bwrdd cynllunio ardal bae gorllewinol

Cofnodion:

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, bydd yr awdurdod yn cael caniatâd i ymrwymo i gontract newydd gyda Platfform ar gyfer darparu'r 'CWTCH' yn rhanbarth Bae'r Gorllewin. Pris y contract fydd £276,958 y flwyddyn. Bydd y contract newydd yn dechrau ar 1 Awst 2023 ac yn rhedeg tan 31 Mawrth 2025, gyda’r opsiwn i’w estyn am ddau gyfnod o 12 mis. Cyfanswm gwerth y contract newydd am gyfnod o 19 mis yw £438,516.83 cyn TAW.

 

Bydd yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth, hynny yw, yn unol â rheol 7.2 y Gweithdrefnau Contract, eithrio'r gofyniad am dendro cystadleuol fel y darperir ar ei gyfer o dan CPR 7.1.4 ar y sail bod y contract arfaethedig yn darparu gwasanaethau o natur arbenigol sy'n cael eu cyflawni gan un contractwr yn unig.