Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Multi-Location Meeting Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams

Cyswllt: Tammie Davies 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd Llewellyn yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cyhoeddiad(au) y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau.

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 17 KB

Cofnodion:

 

Nodwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2023.

 

5.

Blaenraglen Waith 2022/23 pdf eicon PDF 375 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Flaenraglen Waith.

 

6.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

 

7.

Adroddiad blynyddol diogelu gorllewin Morgannwg pdf eicon PDF 318 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi

8.

Adroddiad Blynyddol Grant Cynnai Tai 2022 pdf eicon PDF 319 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

9.

Dangosyddion Perfformiad Chwarter 3 pdf eicon PDF 322 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

10.

Bwrdd Cynllunio Ardal: gwasanaethau defnyddio sylweddau: Estyniad i gytundebau grant pdf eicon PDF 235 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

a)           Bod y defnydd o Adran 7.1.21 o'r Rheolau Gweithdrefnau Contract yn cael ei nodi, yr oedd cytundeb grant wedi'i eithrio trwy hyn rhag y gofyniad am dendro cystadleuol.

 

b) Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i Bennaeth dros dro Tai a Chymunedau, i ymrwymo i weithredoedd amrywio gyda:

 

(i)           Phractis Meddygol Dyffryn Aman Tawe i ehangu'r gwasanaeth presennol a ddarperir gan Dîm Cyswllt Camddefnyddio Sylweddau Cychwynnol (PSALT) y Gwasanaethau Gofal Sylfaenol, er mwyn i wasanaethau gael eu darparu yn 2023-24 a bod cynnydd mewn cyllid ar gyfer 2023/2024 sef swm o £10,699 ar gyfer 2023/2024 i'w dalu o gyllideb 2022/2023 y Bwrdd Cynllunio Ardal.

 

(ii)         Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu mewn perthynas â'r Gwasanaeth Rhagnodi Mynediad Cyflym yn rhanbarth Bae'r Gorllewin er mwyn i wasanaethau gael eu darparu yn 2023-24 a bod cynnydd mewn cyllid ar gyfer 2023/2024 sef swm o £158,291 ar gyfer 2023/2024 i'w dalu o gyllideb 2022/2023 y Bwrdd Cynllunio Ardal.

 

(c) Bod y trefniadau ariannu ar y cyd rhwng y cyngor a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu mewn perthynas â'r Gwasanaethau Mynediad Cyflym yn rhanbarth Bae'r Gorllewin yn cael eu nodi.

 

 

11.

Cymryd rhan yng nghynllun cartrefi gwag llywodraeth cymru pdf eicon PDF 328 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

a)   Bod y dyraniad o £240,000 o Raglen Gwariant Cyfalaf y cyngor at ddiben cymryd rhan yng Nghynllun Cartrefi Gwag Llywodraeth Cymru'n cael ei gymeradwyo.

 

b)    Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i Bennaeth dros dro Tai a Chymunedau i ymrwymo i Gytundeb Lefel Gwasanaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf er mwyn cyflwyno Cynllun Cartrefi Gwag Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2023 – 31 Mawrth 2025.  Hefyd i ddiwygio unrhyw fân newidiadau i'r cynllun.

 

 

 

 

 

12.

Cytundeb rhannu risg bwrdd cynllunio ardal bae gorllewinol pdf eicon PDF 431 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Bod cymeradwyaeth yn cael ei rhoi i ymrwymo i gytundeb Llywodraethu Ariannol a Rhannu Risgiau gyda'r holl awdurdodau cyfrifol i'r Bwrdd Cynllunio Ardal, ac Eithrio'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol

13.

Eitemau brys

Any urgent items (whether public or exempt) at the discretion of the Chairperson pursuant to Statutory Instrument 2001 No. 2290 (as amended).

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau.

14.

Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd

Penderfynu gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn unol â Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

15.

Trefniadau cytundebol ar gyfer ystod o wasanaethau a ariennir drwy'r grant cymorth

Cofnodion:

Penderfyniad:

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

16.

Estyniadau i'r ddarpariaeth o ganolfan groeso mewn perthynas a Ukrainians yn ffoi o'r achos

Cofnodion:

 

 

 Penderfyniad:

 

a)   Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai, a Phennaeth dros dro Tai a Chymunedau a'r Prif Swyddog Cyllid i dderbyn cynnig/cynigion grant diwygiedig neu bellach at y dibenion a amlinellir yn yr adroddiad a gylchredwyd, ac i ymrwymo i gytundeb(au) grant gyda Llywodraeth Cymru.

 

b)   Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i'r Prif Swyddog Cyllid i wneud ceisiadau am gyllid yn unol ag amodau a thelerau'r grant.

 

c)   Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio ar y cyd â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai a Phennaeth dros dro Tai a Chymunedau i gyd-drafod ac ymrwymo i gytundeb(au) pellach neu amrywio ac ehangu'r cytundeb cyfredol gyda Goytre Leisure Holdings Limited ar gyfer defnyddio canolfan ferlota L&A yng Ngoetre at ddibenion Canolfan Groesawu, fel yr amlinellir uchod am gyfnod(au) pellach a byddant hwy yn ei bennu ac yn cytuno arno.

 

 

17.

Cais i brynu eiddo i atal digartrefedd

Cofnodion:

 

Penderfyniad:

 

a)   Bod £260,000 o arian cyfalaf yn cael ei glustnodi i brynu a datblygu eiddo at y dibenion y manylir arnynt yn yr adroddiad a gylchredwyd;

 

b)   Bod y cyngor yn prynu'r eiddo angenrheidiol o bortffolio'r landlordiaid er mwyn atal digartrefedd;

 

c)   Bod yr eiddo'n cael eu rheoli gan y tîm Gosodiadau Cymdeithasol.