Lleoliad: Multi-Location Meeting Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams
Cyswllt: Tammie Davies
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd A Llewellyn yn
Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Cyhoeddiad(au) y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 148 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion 10 Hydref 2022 fel cofnod
cywir o'r cyfarfod. |
|
Blaenraglen Waith 2022/23 PDF 394 KB Cofnodion: Bod Blaenraglen Waith y Gwasanaethau Cymdeithasol,
Tai a Diogelwch Cymunedol yn cael ei nodi. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r
Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n
rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o
fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni dderbyniwyd cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r adroddiad. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r adroddiad. |
|
Adroddiad Blynyddol Y Cyfarwyddwyr PDF 393 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r adroddiad. |
|
Polisi Diogelu Corfforaethol PDF 288 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r adroddiad. |
|
Cynllun Lesio Cymru PDF 424 KB Cofnodion: Penderfyniad: Bod
yr Aelodau'n cymeradwyo rhoi Cynllun Lesio Cymru ar waith, yn seiliedig ar y
cynnig arfaethedig gan Lywodraeth Cymru i ddarparu a rheoli hyd at 82 eiddo. Yn ogystal, bod pwerau dirprwyedig yn cael eu rhoi i Bennaeth y
Gwasanaethau i Oedolion gymeradwyo unrhyw fân newidiadau i'r cynllun yn y
dyfodol. Rheswm dros y Penderfyniad: Bydd
rhoi Cynllun Lesio Cymru ar waith yn cynyddu'r ystod o opsiynau tai sydd ar
gael i gynorthwyo i gyflawni dyletswyddau digartrefedd statudol yn y sector
preifat. Mae
model Cynllun Lesio Cymru wedi’i ddatblygu i greu ymyriad ychwanegol a fydd yn
helpu i fynd i’r afael ag eiddo gwag, amodau tai gwael ac effeithiau cymunedol
andwyol cysylltiedig. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Cynigir
rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i
ben ddydd Llun, 19 Rhagfyr 2022. Ymgynghoriad: Nid oes gofyniad i ymgynghori'n allanol ar yr eitem
hon. |
|
Trefniadau Grant Ar Gyfer Darparu Cyllid Canolfannau Clyd PDF 337 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Rhoi awdurdod dirprwyedig i Bennaeth y Gwasanaethau Oedolion i ddyfarnu
arian sy’n cynnwys Cronfa Canolfannau Clyd Llywodraeth Cymru ac ymrwymo i
gytundebau grant gyda sefydliadau y mae eu ceisiadau am gyllid Canolfannau Clyd
wedi’u gwerthuso fel y rheini sy’n bodloni gofynion ceisiadau’r Canolfannau
Clyd orau. Rheswm dros y Penderfyniad: Manteisio
i'r eithaf ar fuddion y gronfa Canolfannau Clyd i breswylwyr Castell-nedd Port
Talbot drwy ddyfarnu Cyllid Canolfannau Clyd i'r ymgeiswyr llwyddiannus mewn
modd amserol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff
y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar unwaith. |
|
Llwyfan Gwasanaeth Cwnsela Camddefnyddio Sylweddau PDF 116 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Bod
y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai yn cael awdurdod
dirprwyedig i ymrwymo i gontract newydd gyda Platfform ar gyfer darparu
Gwasanaeth Cwnsela Camddefnyddio Sylweddau yn rhanbarth Bae'r Gorllewin am yr
amser a'r gost a nodir yn yr adroddiad hwn. 2. Yn unol â Rheol Gweithdrefn Contract 7.2, fod y gofyniad am dendro
cystadleuol a dyfarnu contract yn uniongyrchol i Platfform ar gyfer darparu
Gwasanaeth Cwnsela yn cael ei hepgor. Rheswm dros y Penderfyniad: Sicrhau
y gellir parhau i roi'r trefniadau angenrheidiol ar waith ar gyfer darparu
cwnsela arbenigol, a hysbysir gan drawma, ar gyfer unigolion â phroblemau
camddefnyddio sylweddau, yn rhanbarth Bae Abertawe ac er mwyn sicrhau parhad
gofal. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Cynigir
rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i
ben ddydd Llun, 19 Rhagfyr 2022. Ymgynghoriad: Nid oes gofyniad i ymgynghori'n allanol ar yr eitem
hon. |
|
Eitemau brys Yn eithriedig dan Baragraff Cofnodion: Ni
chafwyd unrhyw eitemau brys. |