Lleoliad: Multi-Location Meeting Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams
Cyswllt: Tammie Davies
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd S Harris yn
Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 173 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion 11 Hydref 2022 fel cofnod
cywir o'r cyfarfod. |
|
Blaenraglen Waith 2022/23 PDF 418 KB Cofnodion: Bod Blaenraglen Waith y Gwasanaethau Cymdeithasol,
Tai a Diogelwch Cymunedol Ymlaen yn cael ei nodi. |
|
Amser Cwestiynau Cyhoeddus Mae'n
rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk
heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n
rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o
fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni dderbyniwyd cwestiynau gan y cyhoedd |
|
Sefydlu Fframwaith Cyfrif a Reolir a Chefnogaeth Gyflogres PDF 342 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Ar
ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig: a) Bod ymarfer yn cael ei
gynnal sy'n cynnwys yr holl ymgynghoriad angenrheidiol, i alluogi sefydlu
fframwaith i ddarparwyr sy'n gallu cynnig Cyfrifon a Reolir a Gwasanaethau
Cefnogi'r Gyflogres i bobl sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol. b) Bod Pennaeth y
Gwasanaethau i Oedolion yn cael awdurdod dirprwyedig i ychwanegu darparwyr sy'n
bodloni gofynion y fframwaith. Bod y
fframwaith yn para am bedair blynedd gyda'r opsiwn o ymestyn y cyfnod am hyd at
bedair blynedd arall. Rheswm dros y Penderfyniad: Er
mwyn sicrhau bod y cyngor yn y sefyllfa orau i gyflawni'i ddyletswydd statudol
i gefnogi derbynyddion Taliadau Uniongyrchol wrth sefydlu'r fframwaith. Er
mwyn sicrhau bod y cyngor yn gyson ag arfer gorau. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd
y gwaith o roi'r penderfyniad ar waith yn cychwyn ar ôl y cyfnod tri diwrnod
galw i mewn, sy'n dod i ben ddydd Llun 14 Tachwedd 2022. Ymgynghoriad: Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad allanol. |
|
Fframwaith Gofal Cartref Arbenigol PDF 346 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig: a.
Bod unrhyw ymgynghoriad
angenrheidiol fel rhan o'r broses gomisiynu'n cael ei gynnal gan Swyddogion. b.
Bod ymarfer caffael yn cael ei
gynnal gan Swyddogion er mwyn sefydlu fframwaith amlgyflenwr ar gyfer darparu
gofal cartref arbenigol, y gellir ei ddefnyddio gan y cyngor a Bwrdd Iechyd
Prifysgol Bae Abertawe. c.
Bod awdurdod dirprwyedig yn
cael ei roi i Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion a Phennaeth y Gwasanaethau
Plant a Phobl Ifanc i ymrwymo i gytundeb fframwaith gyda'r cynigydd(wyr) y
gwerthusir ei fod yn cynnig y tendr mwyaf manteisiol yn economaidd (gan
ystyried ansawdd a chost y ceisiadau), ar gyfer darparu gofal cartref
arbenigol. Bod y cytundeb hwn am gyfnod o bedair blynedd gydag opsiwn i'w
ymestyn am hyd at bedair blynedd arall. ch. Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i Bennaeth y Gwasanaethau i
Oedolion a Phennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc i ddefnyddio'r
fframwaith hwn, lle bo'n briodol, i brynu Gwasanaethau Gofal Cartref arbenigol
ac ymrwymo i gytundebau gwasanaeth unigol.
Rheswm dros y Penderfyniad: Er
mwyn sicrhau bod y cyngor yn cydymffurfio'n gyfreithiol i ymgymryd ag ymarfer
caffael i brynu gwasanaeth gofal cartref arbenigol. Er
mwyn sicrhau bod y cyngor yn y sefyllfa orau i ddiwallu anghenion a galwadau'r
rheini y mae angen arnynt y gwasanaethau sy'n cael eu hamlinellu o fewn y
fframwaith. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd
y gwaith o roi'r penderfyniad ar waith yn cychwyn ar ôl y cyfnod tri diwrnod
galw i mewn, sy'n dod i ben ddydd Llun 14 Tachwedd 2022. Ymgynghoriad: Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad allanol |
|
Trosglwyddo Prydles Ystafelloedd Newid Rhodfa Rhodes PDF 323 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig: Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i Bennaeth y Gwasanaethau i
Oedolion lunio cytundeb er mwyn i'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion allu meddiannu
mangre sy'n eiddo i'r cyngor a elwir yn "Ystafelloedd Newid Rhodfa
Rhodes". Rheswm dros y Penderfyniad: Er
mwyn sicrhau bod y Gwasanaethau i Oedolion yn llunio cytundeb i feddiannu
Ystafelloedd Newid Rhodfa Rhodes i ddarparu hwb cymunedol anabledd a hamdden
gorfforol i'r gymuned. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd
y gwaith o roi'r penderfyniad ar waith yn cychwyn ar ôl y cyfnod tri diwrnod
galw i mewn, sy'n dod i ben ddydd Llun 14 Tachwedd 2022. Ymgynghoriad: Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad allanol |
|
Cynnydd i ffïoedd Cartrefi Gofal Pobl Hyn PDF 423 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar
ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig: ·
Bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a
Thai yn cael awdurdod dirprwyedig i: ·
Weithredu cynnydd o £30 y pen, yr wythnos i bris y
contract cyfredol ar gyfer prynu gwasanaethau Cartrefi Gofal Pobl Hŷn yn
ardal Castell-nedd Port Talbot ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/2023; ·
Bod y codiad yn cael ei ôl-ddyddio i ddechrau o 1Ebrill
2022. Rheswm dros y Penderfyniad: Er
mwyn sicrhau bod ffïoedd sy'n cael eu talu i Gartrefi Gofal Pobl Hŷn yn
talu costau cynyddol darparu eu gwasanaethau, gan sicrhau sefydlogrwydd y
farchnad a chydymffurfiaeth â Safon 10 Fframwaith Comisiynu: Canllawiau ac
Arfer Da Llywodraeth Cymru. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd
y gwaith o roi'r penderfyniad ar waith yn cychwyn ar ôl y cyfnod tri diwrnod
galw i mewn, sy'n dod i ben ddydd Llun 14 Tachwedd 2022. Ymgynghoriad: Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad allanol |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i Bennaeth y Gwasanaethau Plant a
Phobl Ifanc i arwyddo'r Cytundeb er mwyn sefydlu Cyd-bwyllgor ar gyfer y
Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd
Port Talbot. Rheswm dros y Penderfyniad: Er
mwyn sicrhau bod y cyngor yn cyflawni ei gyfrifoldeb o dan Ddeddf Mabwysiadu a
Phlant 2002 (Cyd-drefniadau Mabwysiadu) (Cymru) 2015. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff
y penderfyniad ei roi ar waith ar unwaith, fel y cytunwyd gyda Chadeirydd Bwrdd
Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol. Ymgynghoriad: Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad allanol |
|
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ôl disgresiwn y
Cadeirydd yn unol ag Offeryn Statudol 2001 rhif 2290 (fel y’I diwygiwyd). Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd PDF 315 KB Yn unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn
Statudol 2001 Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes
ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a
ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
Trefniadau Cytundebol ar gyfer Amrywiaeth o Wasanaethau Plant a Phobl Ifanc Cofnodion: Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi |
|
Datblygu Gwasanaethau Camu i Fyny a Chamu i Lawr Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig: 1. Bod rhoi'r gwasanaeth
Camu i Fyny/Camu i Lawr ar waith ar gyfer pobl sy'n aros am becyn gofal
cartref, dan arweiniad Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion, yn cael ei nodi. 2. Bod y ffaith bod
contractau gyda Haven Home Care (UK) Limited a Crosshands Home Services Limited
wedi'u llunio er mwyn prynu 86 awr o ofal cartref yn cael ei nodi. 3. Bod awdurdod dirprwyedig
yn cael ei roi i Bennaeth y Gwasanaethau Oedolion i lunio cytundeb gyda Grŵp
Coastal Housing er mwyn rhentu pum uned o lety yn Ysbryd y Môr a Thŷ Twyn
Teg. Rheswm dros y Penderfyniad: Er
mwyn sicrhau bod cefnogaeth briodol yn cael ei darparu i unigolion wrth aros am
becyn gofal cartref. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd
y gwaith o roi'r penderfyniad ar waith yn cychwyn ar ôl y cyfnod tri diwrnod
galw i mewn, sy'n dod i ben ddydd Llun 14 Tachwedd 2022. Ymgynghoriad: Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad allanol |
|
Trefniadau Cytundebol ar gyfer Gwasanaeth Cefnogi (Bywydau a Rennir) Lleoli Oedolion Cofnodion: Penderfyniad: Ar
ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig · Bod Pennaeth y
Gwasanaethau Oedolion yn llunio contract gydag Ategi Shared Lives i ddarparu
Gwasanaeth Cefnogi Lleoliadau i Oedolion am gyfnod o 12 mis; · Bod y cynnig sy'n cael ei
ddatblygu ar gyfer y cyngor i ddarparu'r gwasanaeth Cefnogi Lleoliadau Oedolion
yn cael ei nodi; · Bod Swyddogion yn cynnal
unrhyw ymgynghoriad sy'n angenrheidiol fel rhan o ddatblygu'r cynnig i
drosglwyddo'r Gwasanaeth o'r Darparwr i'r cyngor. Rheswm dros y Penderfyniad: Er
mwyn sicrhau bod gan y cyngor gontract sy'n gyfreithiol rwymol gyda darparwyr a
bod gwasanaethau hanfodol yn ddi-dor yn y datblygiadau ar gyfer y cynnig fel
bod Swyddogion y cyngor yn gallu parhau i ddarparu'r gwasanaeth. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd
y gwaith o roi'r penderfyniad ar waith yn cychwyn ar ôl y cyfnod tri diwrnod
galw i mewn, sy'n dod i ben ddydd Llun 14 Tachwedd 2022. Ymgynghoriad: Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad allanol. |
|
Caniatâd i ystyried ailstrwythuro yn Hillside Cofnodion: Penderfyniad: Bod Swyddogion yn archwilio dichonoldeb
ailstrwythuro yn Hillside ac yn cyflwyno adroddiad i aelodau rhyw ben yn y
dyfodol er mwyn ystyried yr opsiynau hynny. Rheswm dros y Penderfyniad: Er
mwyn rhoi'r cyfle i archwilio gwahanol fodelau ar gyfer Hillside ac ymgynghori
â phartneriaid ynghylch y newidiadau arfaethedig. Cyflwynir
adroddiad pellach i'r Aelodau er mwyn iddynt ystyried yr opsiynau a nodwyd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd
y gwaith o roi'r penderfyniad ar waith yn cychwyn ar ôl y cyfnod tri diwrnod
galw i mewn, sy'n dod i ben ddydd Llun 14 Tachwedd 2022. Ymgynghoriad: Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad allanol |