Lleoliad: Multi-Location Meeting Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd Hale yn Gadeirydd ar
gyfer y cyfarfod. |
|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw eitemau brys. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw eitemau brys. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 146 KB Cofnodion: Deuir â chofnodion 16 Tachwedd, 2023 i gyfarfod nesaf
y pwyllgor i'w cymeradwyo. |
|
Blaenraglen Waith 23/24 PDF 496 KB Cofnodion: Nodwyd y Flaenraglen Waith |
|
Amser Cwestiynau Cyhoeddus Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r
Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na
chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau
ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10
munud Cofnodion: Ni dderbyniwyd cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr 2022 - 23 PDF 393 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Bod Aelodau'n nodi ac yn cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr
2022-23 fel y nodwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad a gylchredwyd i'w argymell i'r
Cyngor i'w gymeradwyo. Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig: Sicrhau bod Gwasanaethau Cymdeithasol Castell-nedd Port Talbot yn bodloni'r
gofynion fod yn rhaid i bob awdurdod lleol lunio adroddiad blynyddol ar
gyflawni ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau,
a ddaeth ben am 9am ddydd Llun, 30 Ionawr 2023. |
|
Cynllun Strategol Tai a Digartrefedd PDF 383 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig, argymhellir bod yr
Aelodau'n cymeradwyo Cynllun Strategol Tai a Digartrefedd 2024-2027, fel y
nodwyd yn Atodiad 1. Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig: Darparu cynllun gweithredu strategol i'r Adran Tai a Chymunedau er mwyn
sicrhau gwell canlyniadau i gymunedau Castell-nedd Port Talbot. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau,
a ddaeth ben am 9am ddydd Llun, 30 Ionawr 2023. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, argymhellir bod yr
Aelodau'n cymeradwyo Cynllun Strategol Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc
Castell-nedd Port Talbot 2023-26 fel y nodwyd yn Atodiad 1. Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig: Sicrhau bod ystod o ofal a chefnogaeth o ansawdd da ar gael i ddiwallu
anghenion plant agored i niwed sy'n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau,
a ddaeth ben am 9am ddydd Llun, 30 Ionawr 2023. |
|
Strategaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion Castell-nedd Port Talbot 2023-2026 PDF 332 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, argymhellir bod yr
Aelodau'n cymeradwyo Strategaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion Castell-nedd
Port Talbot 2023-26 fel y nodwyd yn Atodiad 1. Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig: Sicrhau bod ystod o ofal a chefnogaeth o ansawdd da ar gael i ddiwallu
anghenion oedolion sy'n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau,
a ddaeth ben am 9am ddydd Llun, 30 Ionawr 2023. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio)
yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b) o Offeryn Statudol 2001
rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd) Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd PDF 243 KB Penderfynu gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn unol â
Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 a'r paragraffau eithriedig
perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Penderfyniad: Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth
ystyried yr eitem fusnes ganlynol ar y sail ei bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff eithrio 14 o Atodlen 12A o
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 yn amodol ar gymhwyso Prawf Budd
y Cyhoedd (lle bo'n briodol). |
|
Cynllun Strategol Tai a Digartrefedd - Atodiad 6 a 7 (yn eithriedig dan baragraff 15) Cofnodion: Dyma'r atodiadau preifat a oedd yn ymwneud ag eitem
8 yr agenda, Cynllun Strategol Tai a Digartrefedd 2024 - 2027 ac ni chawsant eu
trafod yn y cyfarfod. |
|
Neath Port Talbot Children & Young People Social Care Strategic Plan 2023-2026 - Appendix 5 (Exempt under paragraph 14 ) Cofnodion: Dyma'r atodiadau preifat a oedd yn ymwneud ag eitem
9 ar yr agenda, Cynllun Strategol Gofal Cymdeithasol Plant a Phobl Ifanc
Castell-nedd Port Talbot 2023 - 2026, ac ni chawsant eu trafod yn y cyfarfod. |
|
Achos Busnes ar gyfer Sefydlu Gwasanaeth Lleoli Oedolion mewn Teuluoedd mewnol Cofnodion: Penderfyniad: Bod aelodau'n rhoi caniatâd i Swyddogion wneud y
paratoadau angenrheidiol i ddod â'r Gwasanaeth Lleoli Oedolion mewn Teuluoedd
yn fewnol gan gynnwys: · Cyflwyno rhybudd i'r darparwr presennol ('Ategi') nad yw'r Cyngor yn
bwriadu adnewyddu ei gontract ar ôl i'r trefniant presennol ddod i ben ar 30
Ebrill 2024. · Ymgysylltu ag Ategi fel bod trefniadau TUPE posibl yn cael eu cymhwyso
gyda'r bwriad o sefydlu tîm mewnol y Cyngor. · Gweithredu system bandio taliadau ar gyfer teuluoedd sy'n derbyn, gan
gynnwys archwilio'r posibilrwydd o gynyddu taliadau wedi'u cyllido o fis Ebrill
2024. · Cymeradwyo awdurdod dirprwyedig i Bennaeth y Gwasanaethau Oedolion ymrwymo
i gytundeb gyda Chyngor Abertawe i redeg y gwasanaeth ar ei ran. Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig: Ystyried yr adnoddau gofal cymdeithasol sydd ar
gael wrth gynnal asesiad neu ailasesiad o anghenion unigolion; sicrhau bod
ystod gynaliadwy o wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion o ansawdd da ar
gael i ddiwallu anghenion dinasyddion mwyaf agored i niwed Castell-nedd Port
Talbot; cyfrannu tuag at yr arbedion cyllidebol a nodwyd ym Mlaengynllun
Ariannol y Cyngor; a chyfrannu at nod Llywodraeth Cymru i ail-gydbwyso’r
farchnad gofal cymdeithasol drwy symud gwasanaethau i ffwrdd o sefydliadau er
elw Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau,
a ddaeth ben am 9am ddydd Llun, 30 Ionawr 2023 |