Lleoliad: Multi-Location Meeting Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd Harris yn Gadeirydd
ar gyfer y cyfarfod. |
|
Cyhoeddiad(au) y Cadeirydd Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 21 KB Cofnodion: Nodwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13
Gorffennaf 2023. |
|
Blaenraglen Waith 2023//24 PDF 576 KB Cofnodion: Nodwyd y Flaenraglen Waith |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r
Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n
rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o
fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni dderbyniwyd cwestiynau gan y cyhoedd |
|
Strategaeth Perthnasoedd Iach ar gyfer Cymunedau Cryfach PDF 499 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bod cynnwys a
chyhoeddiad y Strategaeth Perthnasoedd Iachach ar gyfer Cymunedau Cryfach
derfynol yn cael eu cymeradwyo. |
|
Comisiynu Gwasanaethau Gofal a Chymorth ar gyfer tri chynllun Byw â Chymorth PDF 327 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ar ôl rhoi sylw
dyledus i'r asesiad effaith integredig, ac ar yr amod bod Cymdeithas Tai Dewis
Cyntaf yn cael y caniatâd cynllunio perthnasol i symud ymlaen gydag adeiladu'r
llety (fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd) a) Cymeradwyo ymgymryd ag ymarfer caffael i gomisiynu gwasanaethau gofal a
chymorth i bobl sy'n byw yn y Cynlluniau Byw â Chymorth. b) Yn dilyn y broses gaffael, rhoi awdurdod dirprwyedig i Bennaeth y
Gwasanaethau i Oedolion, mewn cydweithrediad â'r aelod/au cabinet perthnasol,
ymrwymo i gontract gyda'r ymgeisydd llwyddiannus er mwyn darparu gofal a
chymorth i bobl sy'n byw yn y Cynlluniau Byw â Chymorth. |
|
Cofnodion: a) Ar ôl rhoi sylw dyledus
i'r asesiad effaith sgrinio integredig, bod Cyngor Bwrdeistref Sirol
Castell-nedd Port Talbot yn rhoi dirprwyaeth o un flwyddyn i Gyngor Tref
Llansawel yn unol ag adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac adran 19 o
Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 i weithredu gwasanaeth prydau cymunedol yn Neuadd
Liberty, Llansawel, yn unol â Deddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a
Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983 a Deddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl
1970. b)
Rhoi awdurdod dirprwyedig i
Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion mewn ymgynghoriad â Phennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol a Democrataidd ymrwymo i gytundeb addas i ddogfennu'r ddirprwyaeth
hon. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Nodi’r adroddiad. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u
heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b) o Offeryn
Statudol 2001 rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd). Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd PDF 244 KB Penderfynu gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol
yn unol â Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 a'r paragraffau
eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
Achos busnes ar gyfer sefydlu Gwasanaeth Lleoli Oedolion mewn Teuluoedd mewnol Cofnodion: Rhoi caniatâd i Swyddogion: a) Gynnal ymarfer ymgynghori 30 niwrnod. b) Trafod dyddiad terfynu contract gyda'r darparwr
presennol i gwmpasu'r amserlen o ddod â'r gwasanaeth yn fewnol. c) Recriwtio tîm mewnol gyda'r nod o ehangu nifer y bobl
sy'n defnyddio’r gwasanaeth Lleoli Oedolion mewn Teuluoedd ac archwilio grwpiau
cleientiaid ac anghenion cefnogi gwahanol. d) Rhoi system bandio taliadau ar waith. e) Defnyddio'r offeryn proffilio i asesu cleientiaid
presennol a newydd. f)
Ar ôl cytuno, cyflwyno
cyfraddau newydd fesul cam i gyfuniadau cleient/gwesteiwr presennol dros gyfnod
o ddwy flynedd, ond eu rhoi ar waith yn syth ar gyfer unrhyw gyfuniadau newydd. |
|
Darparu, cynnal a chadw a thynnu gosodiadau technoleg gynorthwyol yn fewnol Cofnodion: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Sgrinio Effaith
Integredig: a)
Cymeradwyo'r cynnig i wasanaethau
ddarparu, cynnal a chadw a thynnu gosodiadau yn fewnol gan Wasanaeth Technoleg
Gynorthwyol. b)
Rhoi awdurdod dirprwyedig i
Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion gyflwyno hysbysiad o derfyniad i 'Gofal a
Thrwsio Bae'r Gorllewin' a dod â'r contract Technoleg Gynorthwyol i ben. c)
Rhoi awdurdod dirprwyedig i
Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Pobl a
Datblygu Sefydliadol hwyluso unrhyw drosglwyddiad TUPE (Rheoliadau Trosglwyddo
Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) a all fod yn berthnasol rhwng Gofal a Thrwsio
Bae'r Gorllewin a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. |
|
Adroddiad Archwilio Rhif 13 - Cartref Diogel i Blant Hillside. Cofnodion: Nodi’r adroddiad. |