Lleoliad: Multi-Location Meeting Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd Llywelyn yn
Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw eitemau brys. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw eitemau brys. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 27 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion 21 Medi 2023, 25 Ionawr 2024
a 2 Chwefror 2024. |
|
Blaenraglen Waith 23/24 PDF 398 KB Cofnodion: Nodwyd y Flaenraglen Waith. |
|
Amser Cwestiynau Cyhoeddus Mae'n
rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd,
democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr
agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni dderbyniwyd
cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Adroddiad Perfformiad Chwarterol Chwarter 3 PDF 337 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Bod yr Aelodau'n rhoi
caniatâd i Swyddogion gynnal cyfnod ymgynghori cyhoeddus 90 niwrnod ar gyfer
Cynllun Gweithredu Strategol drafft Castell-nedd Port Talbot ar gyfer
Niwrowahaniaeth 2024-27 fel y nodwyd yn Atodiad 1. Rhesymau
dros y Penderfyniad Arfaethedig Bydd y
strategaeth yn hyrwyddo newid diwylliannol fel bod y gymuned a'r gwasanaethau'n
ddeallgar ac yn groesawgar i unigolion, teuluoedd a gofalwyr niwroamrywiol. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith Cynigir rhoi'r
penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|
Y Siarter Rhianta Corfforaethol PDF 373 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw
dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, argymhellir bod yr Aelodau'n cymeradwyo
bod y Cyngor yn mabwysiadu'r Siarter Rhianta Corfforaethol, fel y nodwyd yn
Atodiad 3. Rhesymau
dros y Penderfyniad Arfaethedig Sicrhau bod y
Cyngor wedi ymrwymo i Siarter Llywodraeth Cymru fel Rhiant Corfforaethol da. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith Cynigir rhoi'r
penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. . |
|
Polisi ar Gyfraniadau Ariannol ar gyfer Llety Dros Dro PDF 348 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus
i'r asesiad effaith integredig, argymhellir bod y Cyngor yn gweithredu polisi
codi tâl sy'n gysylltiedig â chyfraddau’r LTLl, ar gyfer darparu Llety Dros Dro
i'r aelwydydd hynny nad ydynt yn derbyn Budd-dal Tai. Rhesymau
dros y Penderfyniad Arfaethedig Sicrhau bod
proses dryloyw a theg ar gyfer pennu ffioedd ar gyfer darparu Llety Dros Dro. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith Cynigir rhoi'r
penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y
Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b)
Offeryn Statudol 2001 Rhif. 2290 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i gyfarfodydd PDF 242 KB Yn
unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gellir
gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys
datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen
12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl Cofnodion: Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Bwrdd Cynllunio Ardal Bae'r Gorllewin: Trefniadau Contract 2024/2025 ar gyfer ystod o Wasanaethau Camddefnyddio Sylweddau Cofnodion: Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Contract prynu yn ôl y galw ar gyfer darpariaeth gofal a chefnogaeth meddiannaeth unigol Cofnodion: Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Adroddiad y Rheolwr am Gartref Diogel i Blant Hillside Cofnodion: Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Diweddariad ar Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 a Chartrefi Diogel i Blant Hillside Cofnodion: Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Trefniadau comisiynu ar gyfer datblygu Gwasanaeth Ymateb Symudol CNPT Cofnodion: . Penderfyniad: Bod awdurdod dirprwyedig
yn cael ei roi i Bennaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol i ymrwymo i gontract gyda
Llesiant Delta Wellbeing er mwyn cyflwyno cynllun Peilot Ymateb Symudol
pellach, o fis Ebrill 2024 i fis Mawrth 2025 i'w ddarparu i bob ardal yng
Nghastell-nedd Port Talbot. Er gwybodaeth, yn
unol â Rheol 7.2 y Weithdrefn Contractau, fod y gofyniad am dendro cystadleuol
yn cael ei eithrio ar gyfer y dyfarniad uniongyrchol i Llesiant Delta
Wellbeing, gan ei fod yn gontract gwasanaeth gofal cymdeithasol yn unol â Rheol
7.1.11 y Weithdrefn Contractau. Rhesymau
dros y Penderfyniad Arfaethedig: Mae angen
penderfyniad ar yr argymhelliad i alluogi cynnydd mewn perthynas ag agenda CNPT
ar gyfer ymateb priodol ac amserol i gwympiadau fel rhan o strategaeth atal
cwympiadau ehangach. Nid yw'r amserlenni tynn a osodir gan y trefniadau
cyllido'n caniatáu caffael trwy dendr ar hyn o bryd. Efallai bydd datblygu
gwasanaeth mewnol yn cynnig ateb mwy cost-effeithiol neu beidio, fodd bynnag,
nid yw'n bosib ei gyflawni yn yr amserlen, ac nid oes gennym yr isadeiledd ar
hyn o bryd i gefnogi hyn yn ddiogel. Bydd cyflwyno i'r farchnad agored ar hyn o
bryd yn achosi oedi a diffyg parhad y gwasanaeth ymateb symudol sy'n datblygu,
gan arwain at golli momentwm. Bydd dyfarniad uniongyrchol am flwyddyn yn
sicrhau parhad ac amserlen realistig ar gyfer cwmpasu a gweithredu'r datrysiad
tymor hwy. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau. |