Lleoliad: Multi-Location Meeting Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd Harris yn Gadeirydd
ar gyfer y cyfarfod |
|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 27 KB Cofnodion: Bydd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Medi 2023
yn cael eu cyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor er mwyn eu cymeradwyo. |
|
Blaenraglen Waith 23/24 PDF 574 KB Cofnodion: Nodwyd y Flaenraglen Waith |
|
Amser Cwestiynau Cyhoeddus Mae'n
rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd,
democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith
cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda.
Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni dderbyniwyd cwestiynau gan y cyhoedd |
|
Cofnodion: Penderfynwyd: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig, cymeradwyodd yr
Aelodau egwyddorion, nodau ac amcanion y Rhaglen Drawsnewid - Achos Busnes
Amlinellol y Gynghrair, a darparu cefnogaeth ar gyfer y cynllunio parhaus, i
alluogi caffael gwasanaeth defnyddio sylweddau integredig newydd yn y dyfodol,
gan ddefnyddio contract Cynghrair, a fydd yn disodli'r ystod bresennol o
drefniadau contractio ar gyfer ymyriadau sy'n gysylltiedig â chyffuriau ac
alcohol. Rhesymau dros
y Penderfyniad Arfaethedig: Bydd cytuno i
barhau â'r ‘Rhaglen Trawsnewid - Achos Busnes Amlinellol y Gynghrair' yn
galluogi ar gyfer parhau i ddatblygu'r rhaglen. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Cynigir rhoi'r
penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am
9am ddydd Llun, 20 Tachwedd 2023. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd: Gofynnir i'r Aelodau gefnogi Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid Drafft Gwasanaeth
Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar Castell-nedd Port Talbot ar gyfer
2023-2024 i'w argymell i'r Cyngor er mwyn ei gymeradwyo. Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig: Galluogi Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot (Ymyrryd
yn Gynnar ac Atal), ar ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot i ymgymryd â'i
ddyletswyddau i ddarparu gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yn unol â Deddf
Trosedd ac Anhrefn 1998. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Cynigir rhoi'r
penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am
9am ddydd Llun, 20 Tachwedd 2023. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Un pwynt cyswllt: Gofynion parhaus a'n gallu i'w bodloni PDF 338 KB Cofnodion: Penderfynwyd: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfynwyd: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u
heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b) o Offeryn
Statudol 2001 rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd) Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd PDF 246 KB Penderfynu gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol
yn unol â Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 a'r paragraffau
eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Penderfyniad Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth
ystyried yr eitem fusnes ganlynol ar y sail ei bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff eithrio 14 o Atodlen 12A o
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 yn amodol ar gymhwyso Prawf Budd
y Cyhoedd (lle bo'n briodol). |
|
Unigolyn Cyfrifol yn Hillside Cofnodion: Penderfynwyd: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, argymhellir bod
Aelodau: Yn cytuno i atal Rheol 11 o Reolau Gweithdrefnol Contractau'r cyngor Yn rhoi caniatâd i'r Pennaeth Tai a Chymunedau ymrwymo i gontract newydd
gyda The Wallich ar gyfer darparu Gwasanaeth Ataliaeth a Lles am gyfnod o 12
mis, gydag opsiwn i ymestyn am 6 mis pellach. Mae'r cyfnod hwn yn amodol ar
allu'r cyngor i derfynu'r gwasanaeth yn gynnar drwy roi tri mis o rybudd i The
Wallich. Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig: Fel bod contract rhwymol-gyfreithiol sy'n galluogi ar gyfer parhau â'r
gwasanaethau hanfodol hyn, wrth i swyddogion gynnal adolygiad o wasanaethau
digartrefedd a datblygu model gwasanaeth newydd sy'n galluogi ar gyfer darparu
yn erbyn y Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn
sy'n dod i ben am 9am ddydd Llun, 20 Tachwedd 2023. |
|
Adroddiad Rheolwr Hillside Cofnodion: Penderfynwyd: 1.
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiadau sgrinio effaith
integredig, fod awdurdod yn cael ei roi Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol,
Iechyd a Thai i fwrw ymlaen ag ailgynllunio gwasanaethau Hillside, fel y nodir
yn atodiad 1 i'r adroddiad a gylchredwyd (Adroddiad Ailgynllunio Gwasanaeth
Hillside). 2.
Bod yr awdurdod yn cael ei roi
i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai i wneud y newidiadau
angenrheidiol i'r gweithlu, gydag adroddiad gwybodaeth i'r Pwyllgor Personél yn
manylu ar y newidiadau. Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig Mae angen i Hillside ymateb i anghenion a chanlyniadau newidiol y plant ag
anghenion cymhleth a leolir yn Hillside - bydd y cynllun ail-lunio arfaethedig
yn sicrhau bod y ddarpariaeth yn Hillside yn addasu yn y ffordd iawn i
gefnogi'r plant mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw
i mewn, a ddaeth i ben am 9am ddydd Llun, 20 Tachwedd 2023. |
|
Trefniadau Cytundebol ar gyfer y Gwasanaeth Ataliaeth a Lles Cofnodion: Penderfynwyd: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Ailddylunio Gwasanaethau yn Hillside Cofnodion: Penderfynwyd: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Llety â Chymorth Uwch i Bobl Ifanc Cofnodion: Penderfynwyd: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |