Lleoliad: Multi-Location Meeting Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd Llewellyn yn
Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 119 KB Cofnodion: Nodwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8
Mehefin 2023. |
|
Blaenraglen Waith 2023/24 PDF 482 KB Cofnodion: Nodwyd y Flaenraglen Waith. |
|
Amser Cwestiynau Cyhoeddus Mae'n
rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd,
democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda.
Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud Cofnodion: Ni dderbyniwyd cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Strategaeth Comisiynu Gwasanaethau Oedolion PDF 329 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, rhoddodd yr aelodau
ganiatâd i swyddogion gynnal cyfnod ymgynghori cyhoeddus o 60 niwrnod ar gyfer
Strategaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion ddrafft Castell-nedd Port Talbot
2023-26 fel y nodwyd yn Atodiad 1. |
|
Cynllun Strategol Tai a Digartrefedd drafft 2023-26 PDF 407 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, cymeradwyodd yr
aelodau gyfnod ymgynghori cyhoeddus o 90 niwrnod ar gyfer Cynllun Strategol Tai
a Digartrefedd drafft 2023/24-2025/26, fel y nodwyd yn Atodiad 1. |
|
Gwasanaeth Cwnsela Camddefnyddio Sylweddau - Bwrdd Cynllunio Ardal Bae'r Gorllewin PDF 398 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, rhoddodd yr aelodau
ganiatâd i swyddogion gynnal cyfnod ymgynghori cyhoeddus o 60 niwrnod ar gyfer
Cynllun Strategol Gofal Cymdeithasol Plant a Phobl Ifanc Castell-nedd Port
Talbot 2023 - 2026 fel y nodwyd yn Atodiad 1. |
|
Adroddiad Perfformiad y 4 Chwarter PDF 324 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Dylid nodi'r adroddiad. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u
heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b) o Offeryn
Statudol 2001 rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd). Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i Gyfarfodydd PDF 242 KB Gwahardd y Cyhoedd Penderfynu gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn
unol â Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 a'r paragraffau
eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
Gwasanaeth cwnsela camddefnyddio sylewddau - Bwrdd cynllunio ardal bae gorllewinol Cofnodion: Ar
ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, bydd yr awdurdod yn cael
caniatâd i ymrwymo i gontract newydd gyda Platfform ar gyfer darparu'r 'CWTCH'
yn rhanbarth Bae'r Gorllewin. Pris y contract fydd £276,958 y flwyddyn. Bydd y
contract newydd yn dechrau ar 1 Awst 2023 ac yn rhedeg tan 31 Mawrth 2025,
gyda’r opsiwn i’w estyn am ddau gyfnod o 12 mis. Cyfanswm gwerth y contract
newydd am gyfnod o 19 mis yw £438,516.83 cyn TAW. Bydd yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth,
hynny yw, yn unol â rheol 7.2 y Gweithdrefnau Contract, eithrio'r gofyniad am
dendro cystadleuol fel y darperir ar ei gyfer o dan CPR 7.1.4 ar y sail bod y
contract arfaethedig yn darparu gwasanaethau o natur arbenigol sy'n cael eu
cyflawni gan un contractwr yn unig. |