Lleoliad: Multi-Location Meeting Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd Harris yn Gadeirydd
ar gyfer y cyfarfod. |
|
Cyhoeddiad(au) y Cadeirydd Cofnodion: Nid oedd dim. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Nid oedd dim. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 132 KB Cofnodion: Nodwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 March 2023. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r
Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n
rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o
fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni dderbyniwyd cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Strategaeth Perthnasoedd Iachach ar gyfer Cymunedau Cryfach PDF 494 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Bod
y Pennaeth Tai a Chymunedau dros dro yn cael caniatâd i ddechrau ymarfer
ymgynghori cyhoeddus bythefnos o hyd ar y Strategaeth ddrafft yn Atodiad 1, ac
adrodd yn ôl i'r Cabinet am ganlyniad yr ymgynghoriad hwnnw. |
|
Cynllun Ardal Gorllewin Morgannwg PDF 720 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Y byddai Aelodau'n cymeradwyo Cynllun Ardal Gorllewin Morgannwg 2023/2027
i'w ystyried gan y Bwrdd Iechyd ar ddiwedd mis Mawrth, a'i gyflwyno wedi hynny
i Lywodraeth Cymru. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u
heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Offeryn Statudol 2001 Rhif
2290 (fel y'i diwygiwyd. 2290 (fel y'i diwygiwyd Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd PDF 243 KB Penderfynu gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn
unol â Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 a'r paragraffau
eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
Cefnogaeth i ffoaduriaid Affganaidd: estyniad i'r contract Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r adroddiad. |
|
Trefniadau cytundebol ar gyfer Gwasanaethau'r Trydydd Sector ac Anrheoliadol a ariennir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai. Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r adroddiad. |
|
Trefniadau cytundebol ar gyfer ystod o Wasanaethau i Blant a Phobl Ifanc a ariennir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai. Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r adroddiad. |
|
Adroddiadau Chwarterol Canolfan Diogel i Blant Hillside Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r adroddiad. |
|
Cytundeb Eco-flex Cymru Gynnes Cofnodion: Penderfyniad: Bod
Aelodau'n ·
cymeradwyo cyfranogiad y cyngor yn y cynllun ECO4 Flex. ·
Eithrio gofynion Rheolau Gweithdrefnau Contractau'r
cyngor yn unol â Rheol 5 er mwyn i'r cyngor ymrwymo i CLG gyda Cymru Gynnes ac
estyn y CLG ar gyfer parhad y cynllun ECO4 Flex. ·
Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Tai a Chymunedau
dros dro i ymrwymo i'r CLG gyda Cymru Gynnes ac estyn y CLG am barhad y cynllun
ECO4 Flex. |
|
Cytundeb prydles gyda Tai Tarian ar gyfer Gwasanaethau Camu i Lawr Gofal Cymdeithasol i Oedolion Cofnodion: Penderfyniad: Bod Aelodau'n cymeradwyo estyn y cytundeb prydlesu
rhwng Castell-nedd Port Talbot a Tai Tarian ar gyfer 32, Heol Southville, Port
Talbot. Bydd y brydles am gyfnod o 36 mis yn ôl amodau a thelerau i'w cytuno
gan y Pennaeth Eiddo ac Adfywio mewn ymgynghoriad â'r Pennaeth Tai a Chymunedau
dros dro. |