Lleoliad: Multi-Location Meeting Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams
Cyswllt: Tammie Davies
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd Llewellyn yn
Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Cyhoeddiad(au) y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 17 KB Cofnodion: Nodwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26
Ionawr 2023. |
|
Blaenraglen Waith 2022/23 PDF 375 KB Cofnodion: Nodwyd y Flaenraglen Waith. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r
Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n
rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o
fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni dderbyniwyd cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Adroddiad blynyddol diogelu gorllewin Morgannwg PDF 318 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi |
|
Adroddiad Blynyddol Grant Cynnai Tai 2022 PDF 319 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Dangosyddion Perfformiad Chwarter 3 PDF 322 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Bwrdd Cynllunio Ardal: gwasanaethau defnyddio sylweddau: Estyniad i gytundebau grant PDF 235 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: a)
Bod y defnydd o Adran 7.1.21 o'r Rheolau Gweithdrefnau
Contract yn cael ei nodi, yr oedd cytundeb grant wedi'i eithrio trwy hyn rhag y
gofyniad am dendro cystadleuol. b) Bod awdurdod dirprwyedig yn
cael ei roi i Bennaeth dros dro Tai a Chymunedau, i ymrwymo i weithredoedd
amrywio gyda: (i)
Phractis Meddygol Dyffryn Aman Tawe i ehangu'r gwasanaeth
presennol a ddarperir gan Dîm Cyswllt Camddefnyddio Sylweddau Cychwynnol
(PSALT) y Gwasanaethau Gofal Sylfaenol, er mwyn i wasanaethau gael eu darparu yn
2023-24 a bod cynnydd mewn cyllid ar gyfer 2023/2024 sef swm o £10,699 ar gyfer
2023/2024 i'w dalu o gyllideb 2022/2023 y Bwrdd Cynllunio Ardal. (ii)
Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu mewn perthynas
â'r Gwasanaeth Rhagnodi Mynediad Cyflym yn rhanbarth Bae'r Gorllewin er mwyn i
wasanaethau gael eu darparu yn 2023-24 a bod cynnydd mewn cyllid ar gyfer
2023/2024 sef swm o £158,291 ar gyfer 2023/2024 i'w dalu o gyllideb 2022/2023 y
Bwrdd Cynllunio Ardal. (c) Bod y
trefniadau ariannu ar y cyd rhwng y cyngor a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a
Throseddu mewn perthynas â'r Gwasanaethau Mynediad Cyflym yn rhanbarth Bae'r
Gorllewin yn cael eu nodi. |
|
Cymryd rhan yng nghynllun cartrefi gwag llywodraeth cymru PDF 328 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: a) Bod y dyraniad o £240,000
o Raglen Gwariant Cyfalaf y cyngor at ddiben cymryd rhan yng Nghynllun Cartrefi
Gwag Llywodraeth Cymru'n cael ei gymeradwyo. b)
Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i Bennaeth dros
dro Tai a Chymunedau i ymrwymo i Gytundeb Lefel Gwasanaeth gyda Chyngor Bwrdeistref
Sirol Rhondda Cynon Taf er mwyn cyflwyno Cynllun Cartrefi Gwag Llywodraeth
Cymru ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2023 – 31 Mawrth
2025. Hefyd i ddiwygio unrhyw fân
newidiadau i'r cynllun. |
|
Cytundeb rhannu risg bwrdd cynllunio ardal bae gorllewinol PDF 431 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Bod cymeradwyaeth yn cael ei rhoi i ymrwymo i gytundeb Llywodraethu
Ariannol a Rhannu Risgiau gyda'r holl awdurdodau cyfrifol i'r Bwrdd Cynllunio
Ardal, ac Eithrio'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol |
|
Eitemau brys Any
urgent items (whether public or exempt) at the discretion of the Chairperson
pursuant to Statutory Instrument 2001 No. 2290 (as amended). Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau. |
|
Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd Penderfynu
gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn unol â Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn
Statudol 2001 Rhif 2290 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen
12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
Trefniadau cytundebol ar gyfer ystod o wasanaethau a ariennir drwy'r grant cymorth Cofnodion: Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Estyniadau i'r ddarpariaeth o ganolfan groeso mewn perthynas a Ukrainians yn ffoi o'r achos Cofnodion: Penderfyniad: a) Bod awdurdod dirprwyedig
yn cael ei roi i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai, a
Phennaeth dros dro Tai a Chymunedau a'r Prif Swyddog Cyllid i dderbyn
cynnig/cynigion grant diwygiedig neu bellach at y dibenion a amlinellir yn yr
adroddiad a gylchredwyd, ac i ymrwymo i gytundeb(au) grant gyda Llywodraeth
Cymru. b)
Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i'r Prif Swyddog
Cyllid i wneud ceisiadau am gyllid yn unol ag amodau a thelerau'r grant. c) Bod awdurdod dirprwyedig
yn cael ei roi i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio ar y cyd â Chyfarwyddwr y
Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai a Phennaeth dros dro Tai a Chymunedau
i gyd-drafod ac ymrwymo i gytundeb(au) pellach neu amrywio ac ehangu'r cytundeb
cyfredol gyda Goytre Leisure Holdings Limited ar gyfer defnyddio canolfan
ferlota L&A yng Ngoetre at ddibenion Canolfan Groesawu, fel yr amlinellir
uchod am gyfnod(au) pellach a byddant hwy yn ei bennu ac yn cytuno arno. |
|
Cais i brynu eiddo i atal digartrefedd Cofnodion: Penderfyniad: a) Bod £260,000 o arian
cyfalaf yn cael ei glustnodi i brynu a datblygu eiddo at y dibenion y manylir
arnynt yn yr adroddiad a gylchredwyd; b)
Bod y cyngor yn prynu'r eiddo angenrheidiol o
bortffolio'r landlordiaid er mwyn atal digartrefedd; c) Bod yr eiddo'n cael eu
rheoli gan y tîm Gosodiadau Cymdeithasol. |