Lleoliad: Multi-Location Meeting Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams
Cyswllt: Naidine Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd J
Hale yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Cyhoeddiad(au) y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r
cyfarfod |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw
ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 210 KB Cofnodion: Cytunwyd bod y cofnodion
dyddiedig yn gofnod gwir a chywir o'r cyfarfod. |
|
Blaenraglen Waith 2022/23 PDF 412 KB Cofnodion: Nodwyd y Blaenraglen Waith. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r
Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod.
Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â
chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r
Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n
rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o
fewn cyfnod o 10 munud. |
|
Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar CNPT 2022-2023 PDF 1 MB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig,
caiff y Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar Drafft Castell-nedd
Port Talbot 2022/23 ei gyflwyno i'r cyngor i'w gymeradwyo. Rheswm dros y Penderfyniad: Galluogi Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Castell-nedd Port
Talbot (Ymyrryd yn Gynnar ac Atal) ar ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot i
ymgymryd â'i ddyletswyddau i ddarparu gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yn unol
â Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod tri
diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben ar 15 Hydref 2022. |
|
Cofnodion: Penderfyniadau Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith sgrinio
integredig: 1.
Cymeradwyo rhoi
dirprwyaeth blwyddyn i Gyngor Tref Llansawel yn unol ag adran 101 o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 ac adran 19 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 i weithredu
gwasanaeth prydau cymunedol yn Liberty Hall, Llansawel. Yn unol â Deddf
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983. 2.
Rhoi awdurdod
dirprwyedig i'r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion mewn ymgynghoriad â'r Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd i ymrwymo i gytundeb addas i
ddogfennu'r ddirprwyaeth hon. Rheswm dros y penderfyniad Byddai methu â rhoi dirprwyaeth yn golygu y byddai
darparu gwasanaeth prydau cymunedol yn Liberty Hall, Llansawel yn dod i
ben. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri
diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben ar 15 Hydref 2022. |
|
Cofnodion: Penderfyniadau Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith sgrinio integredig: 1.
Rhoi awdurdod
dirprwyedig i Ganol Tref Castell-nedd am flwyddyn yn unol ag adran 101 o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 ac adran 19 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 i weithredu
gwasanaeth prydau cymunedol yng Nghaffi Tref Castell-nedd yn unol â Deddf
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983. 2.
Rhoi awdurdod
dirprwyedig i'r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion mewn ymgynghoriad â'r Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd i ymrwymo i gytundeb addas i
ddogfennu'r ddirprwyaeth hon. Rheswm dros y penderfyniad Byddai methu â rhoi dirprwyaeth yn golygu y byddai
darparu gwasanaeth prydau cymunedol yng Nghaffi Tref Castell-nedd yn dod i ben.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod tri
diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben ar 15 Hydref 2022. |
|
Dosbarthu Grant Llywodraeth Cymru i Gefnogi Gwasanaethau Gofal Cartref PDF 336 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniadau Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig: 1.
Rhoi awdurdod
dirprwyedig i‘r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion i ddyrannu £240,000 o gyllid a
ddarperir drwy grant Llywodraeth Cymru er mwyn cefnogi darparwyr gofal cartref a
gomisiynwyd i gynyddu cyfraddau milltiredd ar gyfer eu gweithluoedd. 2.
Rhoi awdurdod
dirprwyedig i’r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion i ddefnyddio £210,000 o'r grant
gan Lywodraeth Cymru sydd ar gael ar gyfer prynu ceir trydan, pwyntiau gwefru
ar gyfer cerbydau trydan a gosod pwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan ac at
ddefnydd Tîm Lles Cymunedol y cyngor i'w rhannu. Rheswm dros y penderfyniad: Fel bod y cyngor yn gallu dosbarthu'r grant a oedd ar gael mewn ffordd sy'n
cefnogi'r farchnad gofal cartref orau. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn
sy'n dod i ben 15 Hydref 2022. |
|
Adroddiad Ailgartrefu Cyflym PDF 400 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniadau Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig,
cymeradwyo Cynllun Ailgartrefu Cyflym Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd
Port Talbot fel y nodir yn Atodiad 2. Rheswm dros y penderfyniad: Er mwyn cydymffurfio â gofynion Llywodraeth Cymru; Er mwyn gwella ein hymateb i ddigartrefedd, gan ddarparu gwasanaeth mwy
effeithiol i sicrhau bod digartrefedd yn "brin, yn fyr ac yn brofiad na
chaiff ei ailadrodd"; I gefnogi staff sy'n gweithio mewn amgylchiadau heriol; ac er mwyn sicrhau bod gan bawb sy'n ddigartref y llety a'r gefnogaeth sydd eu
hangen arnynt i fyw bywydau cadarnhaol yn ein cymunedau. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod tri
diwrnod galw i mewn a ddaeth i ben ar 15 Hydref 2022. |
|
Cymeradwyo Cyhoeddi Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai Castell-nedd Port Talbot PDF 332 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniadau Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig,
rhoi cymeradwyaeth i Swyddogion weithredu a chyhoeddi Strategaeth y Rhaglen
Cymorth Tai fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad a ddosbarthwyd. Rheswm dros y penderfyniad Sicrhau bod amrywiaeth o gymorth sy'n gysylltiedig â thai
o ansawdd da ar gael i ddiwallu anghenion preswylwyr Castell-nedd Port Talbot a
bod y cyngor yn cydymffurfio â Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri
diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben ar 15 Hydref 2022. |
|
Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad Leol a Rhanbarthol PDF 233 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad 1.
Cymeradwyo a
chyhoeddi Adroddiad ar Sefydlogrwydd Marchnad Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg. 2.
Cymeradwyo a chyhoeddi
Adroddiad ar Sefydlogrwydd Marchnad Castell-nedd Port Talbot. Rhesymau dros y penderfyniad Cefnogi'r gwaith o gynllunio a chomisiynu gwasanaethau a sicrhau
cydymffurfiaeth ag Adran 144B o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
(Cymru) 2014 a'r Trefniadau Partneriaeth (Diwygio), Tudalen 272 a Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y
Farchnad) (Cymru) 2021. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri
diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben ar 15 Hydref 2022. |
|
Dyfodol Trem y Glyn PDF 725 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith sgrinio
integredig. 1.
Rhoi awdurdod
dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai i gwblhau'r trafodaethau
â Grŵp Pobl i ymestyn y contract presennol mewn perthynas â Threm y Glyn
am gyfnod o 12 mis, gan gynnwys cytuno'r cyfraddau contract diwygiedig. 2.
Rhoi awdurdod
dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai i atal gofynion
Rheolau Gweithdrefnau Contractau'r cyngor dan reol 5, yn enwedig y gofyniad am
gystadleuaeth. 3.
Ar ddiwedd y
trafodaethau hyn, ymrwymo i Weithred Amrywio i ymestyn cyfnod y contract am
gyfnod pellach o 12 mis, gyda'r costau terfynol yn cael eu hadrodd yn ôl i'r
Cabinet at ddibenion gwybodaeth. 4.
Cyflwyno strategaeth
ar gyfer gwasanaethau pobl hŷn ym mis Medi 2023 er mwyn i'r Aelodau wneud
penderfyniad gwybodus ar Drem y Glyn ar ôl mis Mawrth 2024. Rheswm dros y penderfyniad Sicrhau digonolrwydd gofal yng Nghastell-nedd Port
Talbot. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith Cynigir rhoi'r penderfyniad ar
waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn a ddaeth i ben ar 15 Hydref 2022. |
|
Dangosyddion Monitro Perfformiad Chwarter 1 PDF 320 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad Nodi'r adroddiad. |
|
Perfformiad Chwarter 1 (1 Ebrill 2022 - 30 Mehefin 2022) PDF 306 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad Nodi'r adroddiad. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u
heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Offeryn Statudol 2001 Rhif
2290 (fel y'i diwygiwyd Cofnodion: Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u
heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Offeryn Statudol 2001 Rhif
2290 (fel y'i diwygiwyd. |
|
Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd PDF 244 KB Penderfynu gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol
yn unol â Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 a'r paragraffau
eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Penderfynu gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol
yn unol â Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 a'r paragraffau
eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
Trefniant Cytundebol ar gyfer Gwasanaeth Rheoli a Darparu Llety â Chymorth Cofnodion: Penderfyniad Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig: 1. Bwriad Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc yw ymrwymo i gontract gyda
Llamau ar gyfer Gwasanaeth Rheoli a Darparu Llety â Chymorth ar gyfer pobl
ifanc. Bydd y contract hwn am gyfnod o 12 mis gydag opsiwn i ymestyn am 12 mis
arall, yn amodol ar nodi cymal dod â chontract i ben yn gynnar yn ddi-fai ar ôl
3 mis. 2. Rhoi cymeradwyaeth i Swyddogion gynnal unrhyw ymgynghoriad angenrheidiol
fel rhan o'r broses adolygu a chomisiynu. 3. Bod Swyddogion yn cynnal ymarfer caffael ar gyfer darparu Gwasanaeth Rheoli
a Darparu Llety â Chymorth ar gyfer pobl ifanc. 4. Rhoi awdurdod dirprwyedig i Bennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc i
ymrwymo i gontract gyda'r cynigydd buddugol. Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig: Fel bod y cyngor yn gallu parhau i gyflawni ei
ddyletswyddau i bobl ifanc a nodwyd, yr angen am lety â chymorth. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Cynigir rhoi'r penderfyniad ar
waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn a ddaeth i ben ar 15 Hydref 2022. |
|
Trefniadau Cytundebol ar gyfer Llety Dros Dro i Bobl Ifanc Ddigartref Cofnodion: Penderfyniad Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig: 1.
Bwriad Pennaeth y Gwasanaethau
Oedolion yw ymrwymo i gontract gyda Llamau a Pobl er mwyn darparu gwasanaethau
llety dros dro arbenigol ar gyfer pobl ifanc digartref. Bydd y contractau hyn
am gyfnod o 12 mis gydag opsiwn i ymestyn am 12 mis arall, yn amodol ar nodi
cymal dod â chontract i ben yn gynnar yn ddi-fai ar ôl 3 mis. 2.
Rhoi cymeradwyaeth i
Swyddogion gynnal unrhyw ymgynghoriad angenrheidiol fel rhan o'r broses adolygu
a chomisiynu. 3.
Bod Swyddogion yn
cynnal ymarfer caffael ar gyfer darparu gwasanaethau llety dros dro i bobl
ifanc digartref. 4.
Rhoi awdurdod
dirprwyedig i’r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion i ymrwymo i gontract gyda'r
cynigydd(yddion) buddugol. Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig Fel bod y cyngor yn gallu parhau i gyflawni ei ddyletswyddau i bobl ifanc
sy'n profi neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod tri
diwrnod galw i mewn a ddaeth i ben ar 15 Hydref 2022. |
|
Adroddiadau Chwarterol Cartref Diogel Hillside Cofnodion: Penderfyniad: Nodi'r adroddiad |