Agenda a Chofnodion

Is-bwyllgor (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet - Dydd Mawrth, 18fed Ebrill, 2023 2.10 pm

Lleoliad: Teams/ hybrid at Council Chamber - Port Talbot Civic Centre

Cyswllt: Tammie Davies 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd S K Hunt yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 127 KB

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Mawrth yn gofnod cywir.

 

 

5.

Amser Cwestiynau Cyhoeddus

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gwestiynau wedi cael eu derbyn.

 

6.

Treth y Cyngor ac Ardrethi Busnes - Cynrychiolwyr mewn Achosion Llys Ynadon pdf eicon PDF 451 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Bod y rhestr ddiwygiedig o bobl (fel y nodwyd yn yr adroddiad a gylchredwyd) i gynrychioli'r awdurdod mewn achosion gerbron y Llys Ynadon, at ddiben adennill Treth y Cyngor ac Ardrethi Busnes, yn cael ei chymeradwyo.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Cadarnhau'r swyddogion sydd wedi'u hawdurdodi i gynrychioli'r awdurdod mewn achosion Llys Ynadon.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

7.

Diweddariad ar deledu cylch cyfyng ac Ymateb mewn Argyfwng pdf eicon PDF 643 KB

Cofnodion:

Cafodd yr aelodau gyflwyniad gan y Prif Swyddog Digidol ar deledu cylch cyfyng ac Ymateb mewn Argyfwng

 

Penderfyniad:

 

Bod yr adroddiad am y diweddaraf yn cael ei nodi.