Lleoliad: Teams/ hybrid at Council Chamber - Port Talbot Civic Centre
Cyswllt: Tammie Davies
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd
i benodi'r Cynghorydd S K Hunt yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|||||||||||||||||
Cyhoeddiad(au) y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|||||||||||||||||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|||||||||||||||||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 118 KB Cofnodion: Cytunwyd
bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2023 yn gofnod cywir. |
|||||||||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n
ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb
fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid
i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn
cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Nid
oedd unrhyw gwestiynau wedi cael eu derbyn. |
|||||||||||||||||
Grantiau'r Trydydd Sector 2023-24 - Ceisiadau Ychwanegol PDF 396 KB Cofnodion: Nododd
yr aelodau fod y ceisiadau grant a oedd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd wedi'u derbyn y tu allan i'r dyddiad cau. Er bod Aelodau'r Cabinet
o blaid dyfarnu'r grantiau, gofynnwyd bod y ceisiadau'n cadw at yr amserlenni
yn rownd nesaf Cyllid Grant y Trydydd Sector. Nodwyd
hefyd fod y cyngor yn bwriadu cynnal adolygiad o broses y grantiau trydydd
sector dros fisoedd yr haf. Penderfynwyd: Bod
cyllid grant yn cael ei ddyfarnu i’r sefydliadau canlynol, fel y nodir isod:
Rheswm dros y penderfyniad: Cymeradwyo
grantiau i sefydliadau'r trydydd sector yn unol â chynllun y cyngor. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff
y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|||||||||||||||||
Cais i’r Gronfa Grantiau Amrywiol PDF 316 KB Cofnodion: Nodwyd
bod y cais hwn wedi'i adrodd i Is-bwyllgor (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet ar 24
Ionawr 2023, fodd bynnag, adroddwyd am y ward a'r fangre anghywir, h.y. Ward
Baglan a Chaeau Chwarae Evans Bevan.
Adroddwyd yn gywir am hyn bellach fel ward Pontardawe a'r fangre y
cyfeirir ati yw Canolfan Gymunedol y Groes, Stryd Fawr, Pontardawe. Penderfynwyd: Bod
Ymddiriedolwyr CBC Jones yn cael £9,350 y flwyddyn tuag at gost y rhent sef £9,845
y flwyddyn, mewn perthynas â phrydlesu Canolfan Gymunedol Y Groes, Stryd Fawr,
Pontardawe. Rheswm dros y penderfyniad: Penderfynu
ar swm y cymorth ariannol mewn perthynas â'r ceisiadau am grantiau a
dderbyniwyd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff
y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|||||||||||||||||
Cynllun Prosiectau Bach Cynghorau Cymuned PDF 221 KB Cofnodion: Penderfynwyd: Bod
grant o 70% o'r costau gwirioneddol, hyd at uchafswm o £14,000, yn cael ei
ddyfarnu i Gyngor Cymuned Pelenna, er mwyn galluogi gwelliannau cymunedol. Rheswm dros y penderfyniad: Er
mwyn caniatáu gwelliannau cymunedol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff
y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|||||||||||||||||
Cymorth Trethi i Elusennau a/neu Sefydliadau Nid Er Elw PDF 661 KB Cofnodion: Penderfynwyd: Bod
y cynllun rhyddhad ardrethi presennol i elusennau a sefydliadau nid er elw yn
cael ei ehangu i 31 Mawrth 2029. Rheswm dros y penderfyniad: Galluogi'r
cyngor i ddarparu cymorth ardrethi dewisol i drethdalwyr hyd at 31 Mawrth 2029. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff
y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|||||||||||||||||
Diweddariad ar y Strategaeth Seiberddiogelwch PDF 425 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfynwyd: Bod
yr adroddiad am y diweddaraf yn cael ei nodi. |
|||||||||||||||||
Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd PDF 313 KB Penderfynu
gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn unol â Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn
Statudol 2001 Rhif 2290 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen
12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion:
|
|||||||||||||||||
Dileu dyledion Ardrethi Busnes (Eithriedig o dan Baragraff 14) Cofnodion: Penderfynwyd: Bod
cymeradwyaeth yn cael ei rhoi i ddileu'r symiau ardrethi busnes, fel y’u nodwyd
yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Rheswm dros y penderfyniad: Galluogi'r
cyngor i ddileu dyledion nad oes modd eu hadennill. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff
y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|||||||||||||||||
Dileu dyledion Treth y Cyngor (Yn eithriedig o dan Baragraff 14) Cofnodion: Penderfynwyd: Bod
cymeradwyaeth yn cael ei rhoi i ddileu'r symiau Treth y Cyngor, fel y’u nodwyd
yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Rheswm dros y penderfyniad: Galluogi'r
cyngor i ddileu dyledion nad oes modd eu hadennill. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff
y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |