Lleoliad: Teams/ hybrid at Council Chamber - Port Talbot Civic Centre
Cyswllt: Tammie Davies
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd y
dylid penodi'r Cynghorydd S K Hunt (Arweinydd y Cyngor) yn Gadeirydd ar gyfer y
cyfarfod. |
|
Cyhoeddiad(au) y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar
gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2022. |
|
Blaenraglen Waith 2022/23 Cofnodion: Nodwyd
Blaenraglen Waith 2022/23. |
|
Cais i’r Gronfa Grantiau Amrywiol Cofnodion: Nododd yr
aelodau fod yr acronym 'CBC' yn golygu 'Cwmni Budd Cymunedol'. Byddai'r Prif
Swyddog Cyllid yn dosbarthu'r Polisi Grantiau Amrywiol i aelodau y tu allan i'r
cyfarfod hwn. Penderfyniad: Bod £9,350 y
flwyddyn yn cael ei roi i CBC Ymddiriedolwyr Jones tuag at gost y rhent, sef
£9,845 y flwyddyn, mewn perthynas â phrydlesu meysydd chwarae ac ardaloedd
hamdden yng Nghae Chwarae Evans Bevan, Croes Baglan, Port Talbot i'w ddefnyddio
fel Canolfan Gymunedol (Canolfan Gymunedol y Groes). Rheswm dros
y Penderfyniad: Penderfynu
ar swm y gefnogaeth ariannol mewn perthynas â'r ceisiadau am grantiau a
dderbyniwyd. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|
Polisi Gwrth-lygredigaeth Cofnodion: Esboniodd
swyddogion fod y rhifau yn y polisi a ddosbarthwyd yn anghywir, ac y dylai lifo
o 1.1 i 1.2 i 1.3 ac yn y blaen. Penderfyniad: Dylid nodi'r
adroddiad. |
|
Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd Penderfynu
gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn unol â Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn
Statudol 2001 Rhif 2290 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen
12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Penderfyniad: Penderfynwyd
gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitemau busnes canlynol ar y
sail ei bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym
mharagraff eithrio 14 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i
diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio)
(Cymru) 2007 yn amodol ar gymhwyso Prawf Budd y Cyhoedd (lle bo'n briodol). |
|
Dileu Treth y Cyngor Cofnodion: Penderfyniad: Bod
cymeradwyaeth yn cael ei rhoi i ddileu'r symiau Treth y Cyngor, fel y’u nodwyd
yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Rheswm dros
y Penderfyniad: Galluogi'r
cyngor i ddileu dyledion cyfrifon nad oes modd eu hadennill. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|
Cronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Morgannwg Cofnodion: Penderfyniadau: 1.
Cymeradwyo'r ceisiadau am ddyfarniadau, fel y nodir yn Atodiad B i'r
adroddiad preifat a ddosbarthwyd, o Gronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach
Morgannwg ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/2023 ar gyfer ceisiadau cymwys a
dderbyniwyd ar y dyddiad cau neu cyn hynny. 2.
Cymeradwyo'r taliadau i'r ymgeiswyr hynny y mae angen cymorth parhaus gan
Gronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Morgannwg arnynt, fel y nodir yn yr
adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Rheswm dros
y Penderfyniad: Darparu
cymorth ariannol addas i fyfyrwyr a fyddai'n dioddef o galedi fel arall. Rhoi'r
Penderfyniadau ar Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|
Cronfa Ymddiriedolaeth Harold a Joyce Charles Cofnodion: Penderfyniadau: 1.
Cymeradwyo'r ceisiadau am ddyfarniadau, fel y nodir yn Atodiad B i'r adroddiad
preifat a ddosbarthwyd, o Gronfa Harold a Joyce Charles ar gyfer blwyddyn
academaidd 2022/2023, ar gyfer ceisiadau cymwys a dderbyniwyd ar y dyddiad cau
neu cyn hynny. 2.
Cymeradwyo'r taliadau i'r ymgeiswyr hynny y mae cymorth parhaus gan Gronfa
Harold a Joyce Charles eisoes wedi’i gymeradwyo ar eu cyfer, fel y nodir yn yr
adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Rheswm dros
y Penderfyniad: Darparu
cefnogaeth ariannol addas i fyfyrwyr a fyddai'n dioddef o galedi fel arall. Rhoi'r
Penderfyniadau ar Waith: Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn. |