Lleoliad: Teams/ hybrid at Council Chamber - Port Talbot Civic Centre
Cyswllt: Tammie Davies
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd i
benodi'r Cynghorydd S K Hunt yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni
dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar
gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Hydref 2022. |
|
Amser Cwestiynau Cyhoeddus Mae'n
rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk
heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n
rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o
fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni
dderbyniwyd cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Treth y Cyngor ac Ardrethi Busnes - Cynrychiolwyr yn ystod Achosion Llysoedd Ynadon Cofnodion: Penderfyniad: Bod y rhestr
ddiwygiedig o bobl i gynrychioli'r awdurdod mewn achosion y Llys Ynadon, at
ddibenion adennill treth y cyngor ac ardrethi busnes yn cael ei chymeradwyo,
fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Rheswm dros
y Penderfyniad: Cadarnhau'r
swyddogion sydd wedi'u hawdurdodi i gynrychioli'r awdurdod mewn achosion y Llys
Ynadon. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau, a fydd yn
dod i ben ddydd Sadwrn 19 Tachwedd 2022 am 9.00am. |
|
Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd Yn unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys
datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff
14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Penderfyniad: Penderfynwyd
gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem fusnes ganlynol ar y
sail ei bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym
mharagraff eithrio 14 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i
diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio)
(Cymru) 2007 yn amodol ar gymhwyso Prawf Budd y Cyhoedd (lle bo'n briodol). |
|
Dileu Treth y Cyngor (Yn eithriedig o dan Baragraff 14) Cofnodion: Nododd
aelodau'r Is-bwyllgor y cyfanswm cywir o ddyledion treth y cyngor sydd wedi'u
dileu, fel a ddiwygiwyd ar lafar gan y Prif Swyddog Cyllid. Penderfyniad: Bod
cymeradwyaeth yn cael ei rhoi i ddileu'r symiau fel y’u nodwyd yn yr adroddiad
preifat a ddosbarthwyd. Rheswm dros
y Penderfyniad: Galluogi'r
cyngor i ddileu dyledion cyfrifon nad oes modd eu hadennill. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau, a fydd yn
dod i ben ddydd Sadwrn 19 Tachwedd 2022 am 9.00am. |
|
Cais am Ryddhad Caledi Ardrethi Busnes (Yn eithriedig o dan Baragraff 14) Cofnodion: Penderfyniad: Bod y cais
am Ryddhad Caledi, fel y nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd, yn cael
ei wrthod. Rheswm dros
y penderfyniad: ·
Ni ellir gwarantu dichonoldeb tymor hir y busnes. ·
Ni fyddai colli'r busnes yn cael effaith andwyol ar y gymuned. ·
Nid oes gan y busnes weithlu mawr, felly nifer bach o bobl fyddai’n colli
swyddi. ·
Dylai'r perchennog fynd ati i chwilio am lety amgen, mwy priodol a cheisio
dod â'i brydles bresennol i ben, neu gysylltu â'r landlord i ymgymryd â gwaith
atgyweirio hanfodol os yw hyn yn effeithio ar ei allu i greu incwm. ·
Dylai'r perchennog gysylltu â'r Swyddfa Brisio i geisio lleihau ei werth
ardrethol. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau, a fydd yn
dod i ben ddydd Sadwrn 19 Tachwedd 2022 am 9.00am. |
|
Dileu Dyledion Mân Ddyledwyr (Yn eithriedig o dan Baragraff 14) Cofnodion: Penderfyniad: Bod
cymeradwyaeth yn cael ei rhoi i ddileu symiau'r mân ddyledwyr, fel y nodwyd yn
yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Rheswm dros
y Penderfyniad: Nid oes modd
adfer y symiau sy'n ddyledus. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau, a fydd yn
dod i ben ddydd Sadwrn 19 Tachwedd 2022 am 9.00am. |