Cofnodion

*Please Note Time, Is-bwyllgor (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet - Dydd Mawrth, 4ydd Hydref, 2022 10.10 am

Lleoliad arfaethedig: Teams/ hybrid at Council Chamber - Port Talbot Civic Centre

Cyswllt: Tammie Davies 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Appointment of Chairperson

Cofnodion:

Agreed that Cllr S.K.Hunt be appointed Chairperson for the meeting.

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

No declarations of interest were received.

3.

Blaenraglen Waith 2022/2023

Cofnodion:

Yn y cyfarfod cadarnhawyd bod y Flaenraglen Waith yn cael ei diweddaru ar hyn o bryd ac y byddai ar gael yn y cyfarfod nesaf.

4.

Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 21/22 pdf eicon PDF 452 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol wneud newidiadau angenrheidiol i'r adroddiad blynyddol cyn ei gyhoeddi, ar yr amod nad yw newidiadau o'r fath yn newid yn sylweddol gynnwys y ddogfen a ystyriwyd gan Is-bwyllgor (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Galluogi'r cyngor i fodloni'r gofynion statudol a nodwyd yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Sul, 9 Hydref 2022.

5.

Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg 21/22 pdf eicon PDF 437 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol wneud newidiadau angenrheidiol i'r adroddiad blynyddol cyn ei gyhoeddi, ar yr amod nad yw newidiadau o'r fath yn newid yn sylweddol gynnwys y ddogfen a ystyriwyd gan Is-bwyllgor (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Galluogi'r cyngor i fodloni'r gofynion a nodwyd yn Safonau'r Gymraeg.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Sul, 9 Hydref 2022.

 

6.

Adroddiad blynyddol drafft a datganiadau ariannol Cronfa'r Degwm ar gyfer 2021-22. pdf eicon PDF 309 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

1.      Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Drafft a Datganiadau Ariannol Cronfa'r Degwm ar gyfer 2021-22.

 

2.      Cyflwyno'r Adroddiad Blynyddol Drafft a'r Datganiadau Ariannol i Swyddfa Archwilio Cymru i'w harchwilio'n annibynnol.

 

3.      Cyflwyno'r cyfrifon i'r Comisiwn Elusennau, os nad oes unrhyw newidiadau materol yn cael eu nodi gan Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Galluogi'r cyngor i gymeradwyo'r adroddiad blynyddol drafft a'r datganiadau ariannol ar gyfer Cronfa'r Degwm

2021 – 22.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Sul, 9 Hydref 2022.

 

7.

Ceisiadau Cronfa Grant Amrywiol pdf eicon PDF 336 KB

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

1.  Rhoi £6,800 y flwyddyn i Ymddiriedolwyr Community Ventures Port Talbot CIC tuag at gostau rhent o £7,150 y flwyddyn mewn perthynas â phrydlesu Canolfan Gymunedol Baglan.

 

2.  Rhoi £13,600 y flwyddyn i Ymddiriedolwyr Community Ventures Port Talbot CIC tuag at gostau rhent o £14,300 y flwyddyn mewn perthynas â Chanolfan Addysg yn y Gymuned Tai-bach.

 

3.  Rhoi £680 y flwyddyn i Ymddiriedolwyr Dyfed Road Bowls Association tuag at gostau rhent o £715 y flwyddyn mewn perthynas â phrydlesu'r Pafiliwn Bowls ar Safle Chwaraeon Heol Dyfed.

 

4.  Rhoi £2,040 y flwyddyn i Ymddiriedolwyr Clwb Rygbi a Phêl-droed Aberavon Green Stars tuag at gostau rhent o £2,145 y flwyddyn mewn perthynas â phrydlesu Caeau Chwarae a'r Pafiliwn yng Nghaeau Chwarae Little Warren Port Talbot.

 

5.  Rhoi £10,000 y flwyddyn i MMI Trading with Care Ltd. tuag at gostau rhent o £10,600 y flwyddyn mewn perthynas â phrydlesu Ysgol Brynhyfryd.

 

6.  Rhoi £570 y flwyddyn i Gyngor Cymuned Pelenna tuag at gostau rhent o £600 y flwyddyn mewn perthynas â phrydlesu tir yng Nghae Chwarae Miles End, Tonmawr.

 

7.  Rhoi £330 y flwyddyn i Ymddiriedolwyr Gwynfi Affiliated Sports Project (GASP) tuag at gostau rhent o £350 y flwyddyn mewn perthynas â phrydlesu tir nas defnyddir yn Park Lane, Blaengwynfi.

 

8.  Rhoi grant o £250 i Sefydliad Criced Wales Seniors mewn perthynas â chynrychioliad gan breswylydd lleol sy'n chwarae ar gyfer Clwb Criced Tata Steel yng Nghwpan Criced y Byd Agoriadol i bobl dros 60 oed yn Brisbane, a gynhaliwyd ym mis Medi 2022.

 

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

I ystyried swm y cymorth ariannol mewn perthynas â'r dyraniadau grant a dderbyniwyd

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Sul, 9 Hydref 2022

8.

Cronfa'r Degwm Castell-nedd Port Talbot pdf eicon PDF 225 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Gwneud grant o 25% o gyfanswm y gost go iawn ar gael, hyd at uchafswm o £1,000 tuag at gostau gwaith i ailaddurno'r fynedfa, grisiau x 2, capel bach ac ardal gegin yn Eglwys Bedyddwyr Saesneg Sardis.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Cytuno ar swm y cymorth ariannol mewn perthynas â'r cais grant a dderbyniwyd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am, 9 Hydref 2022.

9.

Adroddiad Blynyddol Canmoliaeth a Chwynion 2021-2022 pdf eicon PDF 396 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

10.

Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2021/2022 pdf eicon PDF 323 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

11.

Polisi'r Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio pdf eicon PDF 407 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

12.

Mynediad i gyfarfodydd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:   Yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) o Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

13.

Dileu Dyledion y Mân Ddyledwyr (eithriedig dan Baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Bod cymeradwyaeth yn cael ei rhoi i ddileu'r symiau fel y’u nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Galluogi'r cyngor i ddileu dyledion cyfrifon nad oes modd eu hadennill.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Sul, 9 Hydref 2022.

 

14.

Dileu Dyledion y Mân Ddyledwyr (eithriedig gan Baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Dileu'r dyledion nad oes modd eu hadennill a gynhwysir yn Atodiad 1 yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Nid oes modd adennill y dyledion.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Sul, 9 Hydref 2022.

 

 

 

 

 

That the irrecoverable debts contained in Appendix 1 to the circulated report be written off.

 

Reason for Decision:

 

The debts are irrecoverable.

 

Implementation of Decision:

 

The decision will be implemented after the three day call in period which ends at 9am, Sunday, 9th October 2022.