Agenda a Chofnodion

Special, Is-bwyllgor (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet - Dydd Mawrth, 29ain Awst, 2023 2.05 pm

Lleoliad: Teams/ hybrid at Council Chamber - Port Talbot Civic Centre

Cyswllt: Tammie Davies 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd A Llewelyn yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

4.

Amser Cwestiynau Cyhoeddus

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

 

5.

Cynllun Mân Brosiectau Cynghorau Cymuned - Showmens Guild South Wales and Northern Ireland pdf eicon PDF 373 KB

Cofnodion:

Nododd Aelodau'r Cabinet drafodaeth y Pwyllgor Craffu blaenorol a oedd yn canolbwyntio ar yr adolygiad presennol o Bolisi'r Gronfa Grantiau Amrywiol.

 

Penderfynwyd:

 

bod y cais untro am gymorth grant hyd at £11,000 i Urdd Siewmyn De Cymru a Gogledd Iwerddon yn cael ei gymeradwyo.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Penderfynu ar swm y cymorth ariannol mewn perthynas â'r cais grant a dderbyniwyd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Roedd y penderfyniadau'n rhai brys i'w rhoi ar waith ar unwaith, yn dilyn caniatâd y Cadeirydd Craffu perthnasol, ac felly nid oedd yn destun y weithdrefn galw i mewn.

 

6.

Cynllun Mân Brosiectau Cynghorau Cymuned - Pwyllgor Carnifal Tonna pdf eicon PDF 368 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

bod y cais untro am gymorth grant hyd at £900 i Bwyllgor Carnifal Tonna, yn cael ei gymeradwyo.

 

Rheswm dros y penderfyniad:  

 

Penderfynu ar swm y cymorth ariannol mewn perthynas â'r ceisiadau am grantiau a dderbyniwyd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Roedd y penderfyniadau'n rhai brys i'w rhoi ar waith ar unwaith, yn dilyn caniatâd y Cadeirydd Craffu perthnasol, ac felly nid oedd yn destun y weithdrefn galw i mewn.