Lleoliad: Teams/ hybrid at Council Chamber - Port Talbot Civic Centre
Cyswllt: Tammie Davies
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd y
dylid penodi'r Cynghorydd S K Hunt yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|||
Cyhoeddiad(au) y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 126 KB 25
Gorffennaf 2023 29 Awst 2023
(Arbennig) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunwyd bod
cofnodion y cyfarfodydd blaenorol a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf a 29 Awst 2023
yn gofnod cywir. |
|||
Cwestiynau gan y cyhoedd Mae'n rhaid
cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk - dim hwyrach na dau ddiwrnod
gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr
agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd
unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|||
Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd PDF 312 KB Penderfynu
gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn unol â Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn
Statudol 2001 Rhif 2290 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen
12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion:
|
|||
Dileu Dyledion y Mân Ddyledwyr Cofnodion: Penderfynwyd: cymeradwyo
dileu dyledion y mân ddyledwyr a'r gordaliadau budd-dal Tai fel y nodir yn yr
adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Rheswm dros
y penderfyniad: am nad oes
modd adfer y symiau sy'n ddyledus. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |