Lleoliad: Teams/ hybrid at Council Chamber - Port Talbot Civic Centre
Cyswllt: Tammie Davies
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd
y dylid penodi'r Cynghorydd S K Hunt yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Cyhoeddiad(au) y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 95 KB Cofnodion: Cytunwyd
bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ebrill 2023 yn gofnod cywir. |
|
Blaenraglen Waith 2023-24 PDF 503 KB Cofnodion: Nodwyd
y Flaenraglen Waith. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd Mae'n
rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd,
democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr
agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Nid
oedd unrhyw gwestiynau wedi cael eu derbyn. |
|
Y Swyddfa Gofrestru – Gwasanaeth y Gweinyddion PDF 254 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Eglurodd
swyddogion nad oedd unrhyw effeithiau wedi’u nodi yn yr Asesiad Effaith
Integredig, felly dylai hyn fod wedi’i dicio fel ‘niwtral’, yn hytrach na
‘chadarnhaol’ neu ‘negyddol’, yn yr atodiad i’r adroddiad a ddosbarthwyd. Croesawodd
Aelod y Cabinet dros Gyllid y gwasanaeth newydd fel modd o greu incwm. Penderfyniadau: Ar
ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Sgrinio Integredig: 1.
Rhoi awdurdod dirprwyedig i Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a
Democrataidd i ddechrau darparu gwasanaeth y gweinyddion ar gyfer gwasanaethau
a gyflawnir yn ardal Castell-nedd Port Talbot. 2.
Cymeradwyo taliad o £200 fesul gwasanaeth gweinydd. 3.
Cyflwyno adroddiad i Bwyllgor Craffu’r Cabinet (Polisi ac Adnoddau) ar
ddarpariaeth y gwasanaeth hwn yng ngwanwyn 2024. Rhesymau dros y Penderfyniadau: Ehangu
a gwella'r gwasanaeth drwy gynnig angladdau sifil, defnyddio'r prosesau a'r sgiliau sydd eisoes
ar gael, gan gynnwys archebion, ymgysylltu â chwsmeriaid, cynllunio seremonïau
a'u cyflwyno, gan ateb y galw cynyddol gan y gymuned leol. Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith: Caiff
y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|
Cofnodion: Cywirodd
swyddogion wall teipograffyddol ar dudalen 31 o’r pecyn adroddiad a
ddosbarthwyd – dylai llinell 2 o’r tabl ddarllen ‘Bywoliaeth Reithorol
Aberafan, Eglwys y Santes Fair’ a ‘…gwaith adfer allanol i gynnal a chadw
adeiladwaith yr adeilad’. Mae
llinell 3 o’r un tabl yn cyfeirio at ‘ Eglwys y Bedyddwyr Saesneg Sardis',
Resolfen.' Penderfyniadau: 1.
Cymeradwyo’r adroddiad blynyddol drafft a’r datganiadau ariannol ar
gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023. 2.
Cyflwyno'r adroddiad blynyddol drafft a'r datganiadau ariannol i Swyddfa
Archwilio Cymru i'w harchwilio'n annibynnol. 3.
Cyflwyno'r cyfrifon i'r Comisiwn Elusennau, pe na bai unrhyw newidiadau
sylweddol yn cael eu nodi gan Swyddfa Archwilio Cymru. Rhesymau dros y Penderfyniadau: Cymeradwyo’r
adroddiad blynyddol drafft a’r datganiadau ariannol ar gyfer Cronfa
Ymddiriedolaeth Deddf yr Eglwys yng Nghymru 2022 – 2023. Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith: Caiff
y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|
Cynllun Mân Brosiectau Cynghorau Cymuned - Cyngor Cymuned Crynant PDF 222 KB Cofnodion: Penderfynwyd: Bod
grant o 60% o’r costau gwirioneddol hyd at uchafswm o £12,000 tuag at gost y
gwaith i adnewyddu a gwella maes chwarae i blant ar dir y ganolfan gymunedol,
yn cael ei ddyfarnu i Gyngor Cymuned y Creunant (ar ôl derbyn anfonebau a
dalwyd ynghyd â chopi o gyfriflen banc). Rheswm dros y penderfyniad: Er
mwyn caniatáu gwelliannau cymunedol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff
y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|
Cynllun Mân Brosiectau Cynghorau Cymuned - Cyngor Cymuned Dyffryn Clydach PDF 236 KB Cofnodion: Penderfynwyd: Bod
grant o 50% o'r costau gwirioneddol hyd at uchafswm o £10,000 tuag at brynu a
gosod offer TG, sefydlu swyddfa barhaol ar gyfer y Clerc a phrynu taflunydd ar
gyfer y brif neuadd yn cael ei ddyfarnu i Gyngor Cyngor Cymuned Dyffryn Clydach
(ar ôl derbyn anfonebau a dalwyd ynghyd â chopi o gyfriflen banc). Rheswm dros y penderfyniad: Er
mwyn caniatáu gwelliannau cymunedol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff
y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|
Ceisiadau i'r Gronfa Grantiau Amrywiol PDF 318 KB Cofnodion: Penderfyniadau: 1.
Bod Ymddiriedolwyr Canolfan Dreftadaeth ac Ymwelwyr Pontardawe yn cael
£2,600 y flwyddyn tuag at gost y rhent (sy'n cyfateb i tua 95% o'r rhent newydd),
mewn perthynas â phrydles Canolfan Dreftadaeth ac Ymwelwyr Pontardawe,
Pontardawe. 2.
Bod y Groes Goch Brydeinig yn cael £1,000 i barhau i gefnogi pobl
fregus, ar gyfer cefnogaeth gyffredinol o fewn y Fwrdeistref Sirol. 3.
Bod Ymddiriedolwyr Clwb Bowlio Bryn yn cael £575 y flwyddyn, tuag at
gost y rhent (sy'n cyfateb i tua 95% o'r rhent newydd), mewn perthynas â
phrydles y Pafiliwn Bowls ym Maes Chwaraeon Bryn. Rhesymau dros y Penderfyniadau: Penderfynu
ar swm y cymorth ariannol mewn perthynas â'r ceisiadau am grantiau a
dderbyniwyd. Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith: Caiff
y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|
Cofnodion: Penderfynwyd: Bod
yr adroddiad yn cael ei nodi. |