Lleoliad: Teams/ hybrid at Council Chamber - Port Talbot Civic Centre
Cyswllt: Tammie Davies
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd
i benodi'r Cynghorydd S K Hunt yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 127 KB Cofnodion: Cytunwyd
bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Mawrth yn gofnod cywir. |
|
Amser Cwestiynau Cyhoeddus Mae'n
rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk
heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n
rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o
fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Nid
oedd unrhyw gwestiynau wedi cael eu derbyn. |
|
Treth y Cyngor ac Ardrethi Busnes - Cynrychiolwyr mewn Achosion Llys Ynadon PDF 451 KB Cofnodion: Penderfyniad: Bod
y rhestr ddiwygiedig o bobl (fel y nodwyd yn yr adroddiad a gylchredwyd) i
gynrychioli'r awdurdod mewn achosion gerbron y Llys Ynadon, at ddiben adennill
Treth y Cyngor ac Ardrethi Busnes, yn cael ei chymeradwyo. Rheswm dros y penderfyniad: Cadarnhau'r
swyddogion sydd wedi'u hawdurdodi i gynrychioli'r awdurdod mewn achosion Llys
Ynadon. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff
y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|
Diweddariad ar deledu cylch cyfyng ac Ymateb mewn Argyfwng PDF 643 KB Cofnodion: Cafodd
yr aelodau gyflwyniad gan y Prif Swyddog Digidol ar deledu cylch cyfyng ac
Ymateb mewn Argyfwng Penderfyniad: Bod
yr adroddiad am y diweddaraf yn cael ei nodi. |