Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Teams/ hybrid at Council Chamber - Port Talbot Civic Centre

Cyswllt: Tammie Davies 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd S K Hunt yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cyhoeddiad(au) y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 118 KB

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2023 yn gofnod cywir.

 

5.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

 

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gwestiynau wedi cael eu derbyn.

 

6.

Grantiau'r Trydydd Sector 2023-24 - Ceisiadau Ychwanegol pdf eicon PDF 396 KB

Cofnodion:

Nododd yr aelodau fod y ceisiadau grant a oedd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad a ddosbarthwyd wedi'u derbyn y tu allan i'r dyddiad cau. Er bod Aelodau'r Cabinet o blaid dyfarnu'r grantiau, gofynnwyd bod y ceisiadau'n cadw at yr amserlenni yn rownd nesaf Cyllid Grant y Trydydd Sector.

 

Nodwyd hefyd fod y cyngor yn bwriadu cynnal adolygiad o broses y grantiau trydydd sector dros fisoedd yr haf.

 

Penderfynwyd:

 

Bod cyllid grant yn cael ei ddyfarnu i’r sefydliadau canlynol, fel y nodir isod:

 

Dyfarniad Grant i Sefydliad Partner Strategol Trydydd Parti 2023-24

2023/24

Blwyddyn 1

2024/25

Blwyddyn 2

2025/26  Blwyddyn 3

Cyngor ar Bopeth, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot

£90,000

£94,879

£98,674

Shopmobility CNPT

£47,000

£51,480

£51,480

Cyfanswm

£137,000

£146,480

£150,154

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Cymeradwyo grantiau i sefydliadau'r trydydd sector yn unol â chynllun y cyngor.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

7.

Cais i’r Gronfa Grantiau Amrywiol pdf eicon PDF 316 KB

Cofnodion:

Nodwyd bod y cais hwn wedi'i adrodd i Is-bwyllgor (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet ar 24 Ionawr 2023, fodd bynnag, adroddwyd am y ward a'r fangre anghywir, h.y. Ward Baglan a Chaeau Chwarae Evans Bevan.  Adroddwyd yn gywir am hyn bellach fel ward Pontardawe a'r fangre y cyfeirir ati yw Canolfan Gymunedol y Groes, Stryd Fawr, Pontardawe. 

 

Penderfynwyd:

 

Bod Ymddiriedolwyr CBC Jones yn cael £9,350 y flwyddyn tuag at gost y rhent sef £9,845 y flwyddyn, mewn perthynas â phrydlesu Canolfan Gymunedol Y Groes, Stryd Fawr, Pontardawe.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Penderfynu ar swm y cymorth ariannol mewn perthynas â'r ceisiadau am grantiau a dderbyniwyd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

8.

Cynllun Prosiectau Bach Cynghorau Cymuned pdf eicon PDF 221 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Bod grant o 70% o'r costau gwirioneddol, hyd at uchafswm o £14,000, yn cael ei ddyfarnu i Gyngor Cymuned Pelenna, er mwyn galluogi gwelliannau cymunedol.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Er mwyn caniatáu gwelliannau cymunedol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 

9.

Cymorth Trethi i Elusennau a/neu Sefydliadau Nid Er Elw pdf eicon PDF 661 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Bod y cynllun rhyddhad ardrethi presennol i elusennau a sefydliadau nid er elw yn cael ei ehangu i 31 Mawrth 2029.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Galluogi'r cyngor i ddarparu cymorth ardrethi dewisol i drethdalwyr hyd at 31 Mawrth 2029.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

10.

Diweddariad ar y Strategaeth Seiberddiogelwch pdf eicon PDF 425 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Bod yr adroddiad am y diweddaraf yn cael ei nodi.

 

11.

Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd pdf eicon PDF 313 KB

Penderfynu gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn unol â Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

Yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol a oedd yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

12.

Dileu dyledion Ardrethi Busnes (Eithriedig o dan Baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Bod cymeradwyaeth yn cael ei rhoi i ddileu'r symiau ardrethi busnes, fel y’u nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Galluogi'r cyngor i ddileu dyledion nad oes modd eu hadennill.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

13.

Dileu dyledion Treth y Cyngor (Yn eithriedig o dan Baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Bod cymeradwyaeth yn cael ei rhoi i ddileu'r symiau Treth y Cyngor, fel y’u nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Galluogi'r cyngor i ddileu dyledion nad oes modd eu hadennill.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.