Lleoliad arfaethedig: Teams/ hybrid at Council Chamber - Port Talbot Civic Centre
Cyswllt: Tammie Davies
Rhif | Eitem |
---|---|
Appointment of Chairperson Cofnodion: Agreed that Cllr S.K.Hunt be
appointed Chairperson for the meeting. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: No
declarations of interest were received. |
|
Blaenraglen Waith 2022/2023 Cofnodion: Yn y cyfarfod cadarnhawyd bod y Flaenraglen Waith yn cael ei diweddaru ar hyn o bryd ac y byddai ar gael yn y cyfarfod nesaf. |
|
Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 21/22 PDF 452 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Pobl a
Datblygu Sefydliadol wneud newidiadau angenrheidiol i'r adroddiad blynyddol cyn
ei gyhoeddi, ar yr amod nad yw newidiadau o'r fath yn newid yn sylweddol
gynnwys y ddogfen a ystyriwyd gan Is-bwyllgor (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet. Rheswm
dros y Penderfyniad: Galluogi'r cyngor i fodloni'r gofynion statudol
a nodwyd yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru)
2011. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar
ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Sul, 9 Hydref
2022. |
|
Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg 21/22 PDF 437 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Pobl a
Datblygu Sefydliadol wneud newidiadau angenrheidiol i'r adroddiad blynyddol cyn
ei gyhoeddi, ar yr amod nad yw newidiadau o'r fath yn newid yn sylweddol
gynnwys y ddogfen a ystyriwyd gan Is-bwyllgor (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet. Rheswm
dros y Penderfyniad: Galluogi'r cyngor i fodloni'r gofynion a nodwyd
yn Safonau'r Gymraeg. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar
ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Sul, 9 Hydref
2022. |
|
Adroddiad blynyddol drafft a datganiadau ariannol Cronfa'r Degwm ar gyfer 2021-22. PDF 309 KB Cofnodion: Penderfyniad: 1. Cymeradwyo
Adroddiad Blynyddol Drafft a Datganiadau Ariannol Cronfa'r Degwm ar gyfer 2021-22. 2. Cyflwyno'r
Adroddiad Blynyddol Drafft a'r Datganiadau
Ariannol i Swyddfa Archwilio
Cymru i'w harchwilio'n annibynnol. 3. Cyflwyno'r
cyfrifon i'r Comisiwn Elusennau, os nad oes unrhyw
newidiadau materol yn cael eu nodi
gan Swyddfa Archwilio Cymru. Rheswm dros y Penderfyniad: Galluogi'r cyngor i gymeradwyo'r
adroddiad blynyddol drafft a'r datganiadau
ariannol ar gyfer Cronfa'r Degwm 2021 – 22. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Cynigir rhoi'r penderfyniad
ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Sul, 9 Hydref
2022. |
|
Ceisiadau Cronfa Grant Amrywiol PDF 336 KB Cofnodion: Penderfyniadau: 1. Rhoi
£6,800 y flwyddyn i Ymddiriedolwyr
Community Ventures Port Talbot CIC tuag at gostau rhent o £7,150 y flwyddyn mewn perthynas
â phrydlesu Canolfan Gymunedol Baglan.
2. Rhoi
£13,600 y flwyddyn i Ymddiriedolwyr
Community Ventures Port Talbot CIC tuag at gostau rhent o £14,300 y flwyddyn mewn perthynas
â Chanolfan Addysg yn y Gymuned
Tai-bach. 3. Rhoi
£680 y flwyddyn i Ymddiriedolwyr
Dyfed Road Bowls Association tuag at gostau rhent o £715 y flwyddyn mewn perthynas
â phrydlesu'r Pafiliwn
Bowls ar Safle Chwaraeon
Heol Dyfed. 4. Rhoi
£2,040 y flwyddyn i Ymddiriedolwyr
Clwb Rygbi a Phêl-droed
Aberavon Green Stars tuag at gostau
rhent o £2,145 y flwyddyn mewn perthynas â phrydlesu Caeau Chwarae a'r Pafiliwn yng
Nghaeau Chwarae Little Warren Port Talbot. 5. Rhoi
£10,000 y flwyddyn i MMI Trading with Care Ltd. tuag at gostau rhent o £10,600 y flwyddyn mewn perthynas â phrydlesu Ysgol Brynhyfryd. 6. Rhoi
£570 y flwyddyn i Gyngor Cymuned Pelenna tuag at gostau rhent o £600 y flwyddyn mewn perthynas â phrydlesu tir yng
Nghae Chwarae Miles End, Tonmawr. 7. Rhoi
£330 y flwyddyn i Ymddiriedolwyr
Gwynfi Affiliated Sports Project (GASP) tuag at gostau rhent o £350 y flwyddyn mewn perthynas â phrydlesu tir nas
defnyddir yn Park Lane, Blaengwynfi. 8. Rhoi
grant o £250 i Sefydliad Criced
Wales Seniors mewn perthynas
â chynrychioliad gan breswylydd
lleol sy'n chwarae ar gyfer Clwb Criced Tata Steel yng Nghwpan Criced
y Byd Agoriadol i bobl dros 60 oed yn Brisbane, a gynhaliwyd ym mis
Medi 2022. Rhesymau dros y Penderfyniadau: I ystyried swm y cymorth ariannol mewn perthynas â'r dyraniadau grant a dderbyniwyd Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael
ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
3 diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Sul, 9 Hydref
2022 |
|
Cronfa'r Degwm Castell-nedd Port Talbot PDF 225 KB Cofnodion: Penderfyniad: Gwneud grant o 25% o gyfanswm
y gost go iawn ar gael, hyd at uchafswm o £1,000 tuag at gostau gwaith i ailaddurno'r fynedfa, grisiau x 2, capel bach ac ardal
gegin yn Eglwys Bedyddwyr Saesneg Sardis. Rheswm dros y Penderfyniad: Cytuno ar swm y cymorth ariannol
mewn perthynas â'r cais grant a dderbyniwyd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am, 9 Hydref 2022. |
|
Adroddiad Blynyddol Canmoliaeth a Chwynion 2021-2022 PDF 396 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2021/2022 PDF 323 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Polisi'r Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio PDF 407 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Cofnodion: PENDERFYNWYD: Yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) o Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
Dileu Dyledion y Mân Ddyledwyr (eithriedig dan Baragraff 14) Cofnodion: Penderfyniad: Bod cymeradwyaeth yn cael ei rhoi
i ddileu'r symiau fel y’u nodwyd
yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Rheswm dros y Penderfyniad: Galluogi'r cyngor i ddileu dyledion cyfrifon nad oes modd eu hadennill. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael
ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
3 diwrnod galw i mewn sy'n dod
i ben am 9am ddydd Sul, 9 Hydref 2022. |
|
Dileu Dyledion y Mân Ddyledwyr (eithriedig gan Baragraff 14) Cofnodion: Penderfyniad: Dileu'r dyledion nad oes modd
eu hadennill a gynhwysir yn Atodiad 1 yr adroddiad a ddosbarthwyd. Rheswm dros y Penderfyniad: Nid oes modd adennill y dyledion. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael
ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
3 diwrnod galw i mewn sy'n dod
i ben am 9am ddydd Sul, 9 Hydref 2022. That the irrecoverable debts contained in
Appendix 1 to the circulated report be written off. Reason
for Decision: The debts are irrecoverable. Implementation
of Decision: The decision will be implemented after the three
day call in period which ends at 9am, Sunday, 9th October 2022. |