Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Chloe Plowman - E-bost: c.plowman@npt.gov.uk
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Croeso a Chyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Datganodd yr Aelod canlynol gysylltiad personol ar
ddechrau'r cyfarfod:
|
|||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
22 Hydref 2024 fel cofnod cywir. |
|||
Diweddariad yr Is-bwyllgor – Cynllunio Strategol (Ymgynghoriad) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd diweddariad i'r
Pwyllgor ar ddatblygiad y Cynllun Datblygu Strategol y mae'n ofynnol i bob un
o'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig yng Nghymru ei gynhyrchu. Soniwyd bod Cyd-bwyllgor
Corfforedig Rhanbarthol De-orllewin Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru
yn y gorffennol, gan nodi nad oedd Swyddogion ar draws y rhanbarth yn barod i
ddechrau paratoi'r Cynllun Datblygu Strategol heb ddigon o adnoddau. O ran
ymateb, nodwyd bod y Gweinidog ar yr adeg hynny wedi datgan y gellid defnyddio
unrhyw arian sbâr a oedd yn weddill ar ôl paratoi'r Cynllun Trafnidiaeth
Rhanbarthol i gyflawni'r Cynllun Datblygu Strategol. Fodd bynnag, nid oedd y cyllid a ddarparwyd
ar gyfer datblygu'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn ddigonol, ac roedd hyn
yn golygu nad oedd unrhyw gyllid yn weddill. Tynnodd yr adroddiad a
ddosbarthwyd sylw at y gost a ragwelir ar gyfer datblygu'r Cynllun Datblygu
Strategol dros y cyfnod o bum mlynedd sef tua £2.5 miliwn. Byddai'r arian hwn
yn talu am staff a gwasanaethau arbenigol, ac roedd hyn yn cynnwys chwe aelod o
staff sy'n gwasanaethu'r rhanbarth cyfan. Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch
Canllawiau'r Cynllun Datblygu Strategol a oedd yn cael ei baratoi gan
Lywodraeth Cymru, a dylai hyn fod wedi'i chyhoeddi yn gynharach yn y flwyddyn.
Cadarnhaodd swyddogion nad oedd y Canllawiau wedi'u cyhoeddi hyd yn hyn. O ran y sefyllfa bresennol,
dywedwyd wrth swyddogion i beidio â symud ymlaen â'r gwaith i ddatblygu'r
Cynllun Datblygu Strategol yn absenoldeb y Canllawiau a'r cyllid priodol i
gyflawni'r Cynllun Datblygu Strategol. Esboniwyd ei fod yn broses ddrud i'w chyflawni,
ac roedd diffyg adnoddau hefyd o ran staffio.
Ar hyn o bryd nid oedd cynghorau ar draws y rhanbarth yn gallu adleoli
staff i ymgymryd â'r gwaith hwn oherwydd y gwaith i ddatblygu eu Cynlluniau
Datblygu Lleol Newydd. Nodwyd y byddai
Swyddogion yn parhau i lobïo Llywodraeth Cymru am yr adnoddau angenrheidiol i
gyflwyno'r Cynllun Datblygu Strategol. Cadarnhaodd swyddogion eu bod
yn ymgynghori â Chyd-bwyllgorau Corfforedig eraill yng Nghymru. Roedd y
drafodaeth ddiweddaraf yn ymwneud ag ysgrifennu llythyr ar y cyd at Lywodraeth
Cymru gyda'r pwrpas o lobïo am gyllid priodol. Tynnwyd sylw at y ffaith bod
Cyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarthol De-orllewin Cymru wedi derbyn cadarnhad
gan Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru a Chyd-bwyllgor Corfforedig
Canolbarth Cymru. Doedd swyddogion heb dderbyn ymateb gan Brifddinas-Ranbarth
Caerdydd hyd yn hyn. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau
fod peidio â symud ymlaen â'r gwaith i ddatblygu'r Cynllun Datblygu Strategol
yn torri deddfwriaeth. Fodd bynnag, fel y soniwyd eisoes, nid oedd yn ymarferol
symud ymlaen â'r gwaith hwn heb dderbyn y dogfennau angenrheidiol gan
Lywodraeth Cymru. Yn dilyn y datganiad uchod ynghylch goblygiadau cyfreithiol, gofynnodd yr Aelodau beth fyddai swyddogion yn cynghori y dylent ei wneud pe bai'r ddogfennaeth ar gael ond nid y cyllid. Esboniwyd unwaith y bydd Canllawiau'r Cynllun Datblygu Strategol wedi'u paratoi, byddai Llywodraeth Cymru'n eu rhyddhau ar gyfer ymgynghoriad cyn iddynt gyhoeddi'r fersiwn derfynol. Unwaith y bydd y ddogfen derfynol yn cael ei chyhoeddi byddai'r risg yn cynyddu pe bai Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn methu â chyflwyno'r Cynllun Datblygu Strategol. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith bod ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cynllun dirprwyo
arfaethedig i'r aelodau ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru. Esboniodd swyddogion fod y
rhan fwyaf o'r penderfyniadau a wnaed ers sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforedig
De-orllewin Cymru ar gyfer y Cyd-bwyllgor Corfforedig ei hun. Fodd bynnag, erbyn hyn mae materion
gweithredol y mae angen i swyddogion eu datblygu wrth i'r gwaith sy'n
gysylltiedig â Chyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru symud ymlaen.
Nodwyd, bod Swyddogion yn cynnig cynllun dirprwyo i gefnogi hyn. Bydd hyn hefyd
yn sicrhau tryloywder priodol o ran sut roedd penderfyniadau'n cael eu gwneud.
Tynnwyd sylw at y ffaith bod y cynllun dirprwyo arfaethedig wedi'i gynnwys yn
Atodiad A yr adroddiad a ddosbarthwyd. Mae'r ddogfen hon yn nodi'r system y
byddai Swyddogion yn ei dilyn a'r gwaith cadw cofnodion a fyddai'n cael ei
sefydlu, yn ogystal â phryd y cynhelir ymgynghoriad â'r Swyddogion arweiniol
priodol a'r Cadeirydd. PENDERFYNWYD: ·
Cymeradwyo'r Cynllun Dirprwyo,
a gyflwynwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad a ddosbarthwyd. ·
Rhoi awdurdodiad i'r Swyddog
Monitro wneud unrhyw fân ddiwygiadau sy'n ofynnol er eglurder neu gysondeb. ·
Cytuno i adolygu'r Cynllun
Dirprwyo ym mhob Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyd-bwyllgor Corfforedig
De-orllewin Cymru i sicrhau ei fod yn effeithiol. |
|||
Bwrdd Cynghori'r Sector Preifat - Cadarnhau Penodiadau Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd y diweddaraf o ran
penodi ymgynghorwyr ychwanegol i gefnogi Bwrdd Cynghori'r Sector Preifat i
Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru. Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch
datblygu'r materion hyn gan fod yr ymgynghorwyr wedi cael eu cytuno'n ffurfiol.
Un o'r camau cyntaf fyddai cynnal cyfarfod rhagarweiniol ym mis Ionawr 2025,
lle bydd cylch gorchwyl a dyletswyddau'r ymgynghorwyr hynny'n cael eu hegluro. PENDERFYNWYD: ·
Nodi bod pedwar ar ddeg o
ymgynghorwyr ychwanegol wedi derbyn cynnig i gefnogi Bwrdd Cynghori'r Sector
Preifat a Chyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, yn amodol ar y Cytundeb
Cynghori. ·
Nodi'r rhestr gyflawn o
Ymgynghorwyr, a amlinellir yn Atodiad C yr adroddiad a ddosbarthwyd (yn amodol
ar dderbyn y Cytundeb Cynghori). ·
Rhoi awdurdod dirprwyedig i
Brif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru a Swyddog Monitro
Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru sicrhau bod mesurau addas a digonol
yn cael eu mabwysiadu i sicrhau cydymffurfiaeth wrth weithio ar y cyd ag
Ymgynghorwyr i ddatblygu Bwrdd Cynghori'r Sector Preifat. ·
Rhoi awdurdod dirprwyedig i
Brif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru a Swyddog Monitro
Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru gadw'r hawl i dynnu'r
cynnig/cynigion penodi yn ôl lle na dderbynnir y Cytundeb Cynghori neu os nad
yw'r meini prawf wedi'u bodloni. ·
Rhoi'r awdurdod dirprwyedig i
Brif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru a Swyddog Monitro
Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru gyhoeddi manylion Cynghorwyr, sydd
wedi'u cynnwys yn Atodiad C yr adroddiad a ddosbarthwyd, gyda chaniatâd ymlaen
llaw gan y bobl a benodir, i hyrwyddo datblygiad Bwrdd Cynghori'r Sector
Preifat a Chyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru. |
|||
Monitro Ariannol Chwarter 2 2024/25 Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad Monitro
Ariannol Chwarter 2 ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben yn 2024/25 i'r aelodau. Tynnodd y Prif Swyddog Cyllid
sylw at y pwyntiau allweddol ym manylion yr adroddiad a ddosbarthwyd. Un o'r
pwyntiau hyn oedd bod y sefyllfa alldro rhagweledig yn nodi gwarged ar ddiwedd
y flwyddyn. Gellir gweld crynodeb o'r sefyllfa gyffredinol yn Atodiad A yr
adroddiad a ddosbarthwyd. Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch
y ffrydiau gwaith unigol a'u heffaith ar yr alldro. Cadarnhawyd bod
Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru wedi derbyn grant trafnidiaeth
gwerth £100k gan Lywodraeth Cymru a oedd wedi'i ddyrannu a'i ymrwymo. Roedd yr
adroddiad a ddosbarthwyd yn nodi bod gwariant yr Is-bwyllgor yn dangos y
rhagwelir tanwariant o £86.7k, mewn perthynas â thanwariant ar gynllunio a
rheoli rhaglenni. Disgwylir hyn yn rhannol ar y sail bod y dyraniad a
neilltuwyd yn arian wrth gefn yn y gyllideb, gan nad oedd swyddogion yn gwybod
sut roedd y ffrydiau gwaith yn mynd i ddatblygu yn y flwyddyn ariannol
bresennol. Esboniwyd wrth bennu'r
gyllideb, roedd Swyddogion yn ystyried cyfraniad gan gronfeydd wrth gefn tuag
at yr ardollau i geisio cadw'r ardollau ar lefel fwy boddhaol. Ni fyddai angen
i swyddogion ddefnyddio'r swm a gyflwynwyd o'r ardollau oherwydd y gwarged.
Rhoddwyd gwybod i'r aelodau y bydd balans o £179k erbyn diwedd y flwyddyn i'w
drosglwyddo. Caiff hyn ei nodi o fewn y
cronfeydd wrth gefn, a chaiff y gwarged ei ychwanegu at y gwarged cronnus a
fydd yn cael ei drosglwyddo ar gyfer ymrwymiadau yn y dyfodol. Holodd yr Aelodau a oedd y
cyllid grant a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru wedi'i dargedu'n benodol neu a
ellid ei ddefnyddio mewn mannau eraill o fewn y Cyd-bwyllgor Corfforedig.
Cadarnhawyd bod cyllid yn cael ei dargedu'n benodol. Wrth lofnodi'r cais am
grant, mae Swyddogion yn ymrwymo i ddefnyddio'r cyllid mewn perthynas â'r hyn a
nodwyd yn yr amodau a thelerau. Fodd bynnag, soniwyd bod cyfle bob amser i
drafod y mater hwn gyda Llywodraeth Cymru pe bai'r sefyllfa hon yn codi. PENDERFYNWYD: Nodi’r adroddiad. |
|||
Grantiau Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru - Ceisiadau Awdurdodau Lleol am Gyllid Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am y ceisiadau
arfaethedig a gyflwynwyd ar gyfer Grantiau Trafnidiaeth i Lywodraeth Cymru i
ariannu'r gwaith o ddatblygu a chyflwyno nifer o gynlluniau a mentrau
trafnidiaeth. Esboniwyd bod proses ymgeisio am grant trafnidiaeth
Llywodraeth Cymru yn gofyn i Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru wybod
am y ceisiadau a gyflwynwyd gan bob un o'r pedwar Awdurdod Lleol yn y
rhanbarth. Yn ogystal â hyn, cadarnhaodd Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin
Cymru fod y cynllun neu'r fenter yn cyd-fynd â nodau ac amcanion y Cynllun
Trafnidiaeth Rhanbarthol sy'n dod i'r amlwg. Tynnodd y swyddogion sylw at y ffaith bod y
cynlluniau wedi'u rhestru yn Atodiad B yr adroddiad a ddosbarthwyd. Rhannwyd y manylion fesul Awdurdod Lleol ac
roeddent yn cynnwys gwybodaeth am gynnydd a chyllid. Gofynnodd yr Aelodau am eglurder pellach o ran
llwyddiant posib y ceisiadau amrywiol a restrir, a chadarnhawyd na fydd rhai
o'r ceisiadau'n llwyddiannus. Roedd y cyllid yn nodi y bydd nifer y ceisiadau
llwyddiannus y lleihau tua 50% o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol. Dywedwyd
mai'r ceisiadau a gynhwysir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd oedd y rhai cryfaf
gan bob un o'r Awdurdodau Lleol ar draws y rhanbarth ac roeddent yn cyd-fynd
â'r amcanion allweddol. Roedd swyddogion wedi bod yn gweithio'n galed i gael
cyfiawnhad cryf yn erbyn y meini prawf. Ychwanegwyd bod Swyddogion yn gobeithio cael
cadarnhad o ganlyniad y broses hon ar ddechrau'r flwyddyn newydd. Yna, bydd gwaith yn gallu dechrau ar
ymagweddau cyflenwi er mwyn cyflwyno'r cynlluniau llwyddiannus yn ystod y
flwyddyn ariannol nesaf. O ran heriau, nodwyd bod rhai ceisiadau mwy sy'n
gweithredu dros gyfnod sy'n fwy na blwyddyn ac efallai na fydd sicrwydd y bydd
cyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod. Cydnabu'r Pwyllgor yr anawsterau o ran arian
cyfatebol a wynebwyd gan Awdurdodau Lleol o ran y prosiectau hyn. Cytunwyd y
dylid ysgrifennu llythyr at y Gweinidog Trafnidiaeth er mwyn mynd i'r afael â'r
pryderon hyn. PENDERFYNWYD: Cydnabod bod y cynlluniau a'r mentrau trafnidiaeth,
a gynhigiwyd eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gyfer Cyllid Grant Trafnidiaeth,
yn cyd-fynd â nodau ac amcanion y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol sy'n dod i'r
amlwg. |
|||
Cofnodion: Nodwyd y Flaenraglen Waith. |
|||
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn
y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd) Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |