Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Via Micosoft Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Croeso a chyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 490 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Blaenraglen Waith.

 

4.

Siarter Archwilio Mewnol pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd adroddiad i'r Pwyllgor a oedd yn ymwneud â'r trefniadau llywodraethu y bydd y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn cydymffurfio â nhw ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru.

Cynhaliwyd trafodaeth o ran pwysigrwydd y Siarter Archwilio Mewnol, gan ei bod yn cryfhau trefniadau llywodraethu presennol Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru; roedd y Siarter yn cydymffurfio â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus a sefydlwyd yn 2013.

Amlygwyd mai cenhadaeth Archwilio Mewnol oedd gwella a diogelu gwerth sefydliadol drwy ddarparu sicrwydd, cyngor a mewnwelediad gwrthrychol yn seiliedig ar risgiau, a gynlluniwyd i ychwanegu gwerth a gwella gweithrediadau'r sefydliadau.

Ar ben hynny, eglurwyd bod y Siarter Archwilio Mewnol yn amlinellu cyfrifoldebau penodol Gwasanaeth Archwilio Mewnol y cyngor enwebedig; a oedd yn cynnwys cyfrifoldebau a hawliau mynediad penodol i bobl a dogfennau pan oedd eu hangen. Soniwyd hefyd fod disgwyliadau o ran sut y bydd Archwilwyr Mewnol yn ymgymryd â'u gwaith o ran gofal proffesiynol, uniondeb, annibyniaeth a didueddrwydd hefyd wedi'u hysgrifennu yn y Siarter; yn ogystal â disgwyliadau a chyfrifoldebau'r Pennaeth Archwilio Mewnol enwebedig, gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Penfro.

Nodwyd y bydd y Siarter yn cael ei hadolygu o bryd i'w gilydd gan y Pennaeth Archwilio Mewnol (Cyngor Bwrdeistref Sirol Penfro). Yn ogystal, cadarnhawyd bod y Siarter Archwilio Mewnol wedi'i hadrodd i Is-Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru; a phe bai angen unrhyw ddiwygiadau, bydd yn cael ei gymryd yn ôl i'r Is-Bwyllgor hwn.

PENDERFYNWYD:

Bod y Cyd-bwyllgor yn ystyried a chymeradwyo'r Siarter Archwilio Mewnol drafft ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru.

 

 

5.

Cylch Gorchwyl diweddaredig y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf eicon PDF 235 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparwyd y cylch gorchwyl diweddaredig i Aelodau ar gyfer yr Is-Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru.

Eglurwyd, yn ystod cyfarfod cyntaf Is-Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, gofynnodd Aelodau'r Pwyllgor a ellid strwythuro eu cylch gorchwyl yn unol â chanllawiau Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth diweddar ar Bwyllgorau Archwilio.

Dywedodd Swyddogion fod yr adroddiad a ddosbarthwyd yn cynnwys manylion ynghylch y diwygiadau strwythurol i gylch gorchwyl yr Is-Bwyllgor.

PENDERFYNWYD:

Bod Aelodau'n cytuno ar y cylch gorchwyl diwygiedig i'r Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel y nodir yn Atodiad 1 o'r adroddiad a ddosbarthwyd.

 

 

6.

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yr Awdurdod Gweinyddu pdf eicon PDF 174 KB

Cofnodion:

Rhoddodd Swyddogion adroddiad yn manylu ar awdurdod gweinyddu Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) a ddewiswyd ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru; cadarnhawyd mai Cyngor Sir Caerfyrddin oedd hwn.

Eglurwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cysylltu â Swyddogion ym mis Rhagfyr 2022, a oedd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ynghylch deddfwriaeth y DU mewn perthynas â Chyd-bwyllgorau Corfforedig; roedd gan bob rhanbarth derfyn amser byr i ddarparu awdurdod gweinyddu Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) o'u dewis i Lywodraeth Cymru. Hysbyswyd yr Aelodau mai'r rheswm dros y cais hwn oedd oherwydd bod Llywodraeth Cymru am ychwanegu hyn i'r ddeddfwriaeth, fel rhan o ddatblygiad Gorchymyn Adran 150.

Wrth benderfynu ar yr awdurdod gweinyddu ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, dywedodd y Swyddogion eu bod wedi canolbwyntio ar ddau opsiwn; Cronfa Bensiwn Dyfed a weithredir gan Gyngor Sir Caerfyrddin a Chronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe a weithredir gan Gyngor Abertawe.

O ran buddion pensiwn i ddarpar weithwyr y Cyd-bwyllgor Corfforedig, eglurwyd bod y ddau gynllun pensiwn posib yn union yr un peth; gan fod buddion y cynlluniau yn cael eu pennu gan ddeddfwriaeth y DU.

Nodwyd bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn darparu'r cymorth ariannol i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig, ac ef oedd yr awdurdod gweinyddu ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed; roedd Swyddog Adran 151 Cyngor Sir Caerfyrddin hefyd yn Swyddog Adran 151 ar gyfer y Cyd-bwyllgor Corfforedig a Chronfa Bensiwn Dyfed. Yn ogystal, cyflogwyd unig weithiwr y Cyd-bwyllgor Corfforedig ar hyn o bryd, drwy Gyngor Sir Caerfyrddin; a dyna pam y daethpwyd i'r casgliad y dylid defnyddio Cronfa Bensiwn Dyfed.

Hysbyswyd y Pwyllgor fod y Swyddog Adran 151 wedi ymgynghori â chydweithwyr yng Nghyngor Abertawe, a oedd yn cefnogi defnyddio Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer y Cyd-bwyllgor Corfforedig. Ychwanegwyd bod yr adroddiad a ddosbarthwyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cyd-bwyllgor Corfforedig ynghylch y mater hwn.

 

 

7.

Y diweddaraf am y Porthladd Rhydd a'r goblygiadau i'r Cynllun Ynni Rhanbarthol pdf eicon PDF 329 KB

Cofnodion:

Cafodd yr Aelodau yr wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyniad Porthladdoedd Rhydd a sut mae cais llwyddiannus am Borthladd Rhydd yn cyd-fynd â'r weledigaeth a'r blaenoriaethau yn y Strategaeth Ynni Rhanbarthol a'r Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol.

Cadarnhawyd ers cyfarfod olaf Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru fod cais wedi ei gyflwyno'n ffurfiol i'r ddwy lywodraeth am Borthladd Rhydd a fyddai'n gwasanaethu porthladd Aberdaugleddau a phorthladd Port Talbot.

Diolchwyd i gydweithwyr yng Nghyngor Abertawe a Chyngor Sir Caerfyrddin am y llythyrau cefnogi a gyflwynwyd ganddynt i'r ddau a oedd yn gwneud y penderfyniadau yn y broses.

Ers i'r cais gael ei gyflwyno, tynnodd swyddogion sylw at y ffaith eu bod wedi bod yn canolbwyntio eu hymdrechion ar y cyd ar wneud yn siŵr fod pobl yn ymwybodol o sail y cais, a'u bod yn falch o gyhoeddi bod dros 100 o sefydliadau a oedd bellach yn cefnogi'r cais yn gadarnhaol. Soniwyd y disgwyliwyd y penderfyniad ar y cais tua dechrau mis Mawrth 2023.

Yn y cyfamser, esboniodd Swyddogion eu bod wedi bod yn manteisio ar gyfleoedd yn ymwneud â ffermydd gwynt ar y môr arnofiol a'r agenda adnewyddadwy yn benodol, er mwyn cysylltu â chydweithwyr Undebau Llafur i drafod yr ymrwymiadau gwaith teg a oedd wedi'u cynnwys yn y cais am Borthladd Rhydd; bydd cyfarfodydd hefyd yn cael eu cynnal gyda phrifysgolion a cholegau ar draws y rhanbarth yn ystod yr wythnosau nesaf, i ddechrau archwilio'r cyfleoedd sy'n ymwneud â sgiliau a hyfforddiant, a'r sector arloesi cyfan.

Awgrymodd y Prif Weithredwr fod Aelodau'r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn cymryd rhan mewn gweithdy i ystyried y canlynol mewn perthynas â'r cais am Borthladd Rhydd:

·        Trafod a deall pa fuddion y gallai'r cais eu cynnig

·        Ymateb i bwyntiau yr oedd cydweithwyr wedi eu codi o ran sut i sicrhau bod y rhanbarth cyfan yn elwa o'r cais hwn

·        Nodi sut y mae'r cais yn cysylltu â dyheadau datblygu economaidd ac ynni'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig

·        Rhoi sylw i gyfleoedd posib y cais ledled gweddill Cymru a thu hwnt

Roedd yr holl arweinwyr a oedd yn bresennol yn cefnogi cynnal gweithdy am gais am Borthladd Rhydd ar gyfer Aelodau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru.

Awgrymwyd ysgrifennu llythyr ar ran Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, i nodi ei gefnogaeth i'r cais; byddai cydweithwyr yn y Tîm Cyfathrebu'n gallu adlewyrchu llais pob arweinydd wrth ddrafftio'r llythyr. 

Roedd pob arweinydd a oedd yn bresennol o blaid llunio llythyr i adlewyrchu cefnogaeth Cyd-bwyllgorau Corfforedig De-orllewin Cymru am y cais am Borthladd Rhydd.

 

 

8.

Y gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 pdf eicon PDF 726 KB

Cofnodion:

Roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn gofyn i Aelodau gytuno a gosod cyllideb Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24.

Eglurwyd mai Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru oedd yn gyfrifol am osod ei gyllideb a chytuno ar yr ardoll i awdurdodau cyfansoddol; roedd yn rhaid gosod a chytuno ar hyn cyn 31 Ionawr 2023.

Yng nghyfarfod olaf Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2022, cyflwynwyd adroddiad drafft i'r Aelodau ar y gyllideb ar gyfer 2023/24; yn ogystal â rhoi arwydd cynnar i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig ei hun, roedd hefyd yn caniatáu i Swyddogion roi arwyddion i'r awdurdodau cyfansoddol, at eu dibenion cyllidebu eu hunain, yn enwedig o ran yr ardoll. Yn ystod y cyfarfod, ystyriodd y Pwyllgor dri opsiwn; gan ystyried y pwysau a'r heriau ariannol sylweddol roedd pob awdurdod lleol yn eu hwynebu.

·        Yr opsiwn cyntaf oedd cytuno i flaenoriaethu gwaith Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru a gosod ardoll yn unol â hynny; gyda chyllideb o tua £1.5 miliwn;

·        Opsiwn arall a ystyriwyd oedd atal holl weithgareddau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru; byddai hyn wedi dwyn her gyfreithiol heb gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru;

·        Yr opsiwn y cytunodd y Pwyllgor arno oedd gwneud cyn lleied â phosib yn 2023/24 a lleihau maint y gyllideb, gyda gwaith cyfyngedig yn cael ei wneud ym mhob un o'r ffrydiau gwaith; byddai hyn yn caniatáu i gynnydd gael ei wneud ar bob un o'r pedair ffrwd waith, fodd bynnag mewn modd llawer arafach.

 

Eglurwyd bod yr adroddiad a ddosbarthwyd yn adlewyrchu'r opsiwn a ddewiswyd i wneud y lleiaf posib, ac roedd yn aildrefnu rhai o'r cyllidebau yn unol â hynny. Ychwanegodd Swyddogion fod y gyllideb arfaethedig yn cyd-fynd â'r gyllideb a osodwyd ar gyfer y flwyddyn bresennol; gosodwyd hyn ar oddeutu £575,000, a gosodwyd y gyllideb arfaethedig ar gyfer 2023/24 ar oddeutu £617,000. Hysbyswyd yr Aelodau fod pedair ffrwd waith clir o'r Cyd-bwyllgor Corfforedig, a bod swm gwerth £20,000 wedi'i ddyrannu i bob un; roedd yr adroddiad yn nodi bod £140,000 hefyd wedi ei neilltuo ar gyfer cynllunio a rheoli rhaglenni, a fyddai'n cynnwys gwaith ar y Cynllun Corfforaethol, a nodi'r camau a'r mesurau amrywiol y mae angen eu datblygu drwy hynny.

Cyfeiriwyd at y camau allweddol, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, ar gyfer yr Is-Bwyllgorau; mae'r gweithredoedd yn nodi'n glir rai o'r syniadau cychwynnol ar y gwaith y bydd angen ei wneud.

Daethpwyd i'r casgliad na fyddai Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn derbyn ardoll ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24, gan nad oedd gwerth £20,000 yn cael ei ystyried yn ddigon sylweddol i weithredu ardoll. Yn ogystal, nodwyd bod gofyniad yn y ddeddfwriaeth, o ran Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, mai ar gyfer eu hardal berthnasol yn unig y byddai ardoll yn cael ei chodi, sef cynllunio strategol. Cadarnhaodd Swyddogion y byddai'r trefniant yma'n gyson â chyllideb y llynedd, oherwydd y gweithgarwch cyfyngedig o ran y datblygiad cynllunio strategol.

Roedd yr Aelodau'n ymwybodol o gamgymeriad swm ar adran 2.4 o'r adroddiad a ddosbarthwyd; Dylai'r ffigur ddarllen £140,000.

Hysbyswyd y Pwyllgor fod y gyllideb  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

Eitemau brys

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.