Agenda a Chofnodion

Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru - Dydd Mawrth, 25ain Ionawr, 2022 2.00 pm

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Naidine Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol - 13 Ionawr 2022 pdf eicon PDF 208 KB

Cofnodion:

Diwygio'r presenoldeb ar gyfer Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i ddatgan Tegwyn Jones, Prif Weithredwr a'r Cyng. Paul Harries.

 

Diwygio'r Cyng. Aled Evans i Aled Edwards.

 

PENDERFYNWYD: cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Ionawr 2022 gyda'r newidiadau uchod wedi'u cynnwys.

 

2.

Y Gyllideb ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2022/23 pdf eicon PDF 363 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cyllideb arfaethedig Cyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarthol De-orllewin Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23 i'r pwyllgor fel Atodiad A diwygiedig fel y'i cynhwysir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd ac fe'i hatgoffwyd bod gofyn iddynt yn ffurfiol bennu cyllideb erbyn 31 Ionawr 2022.

 

Yn ei gyfarfod ar 13 Ionawr 2022, roedd aelodau wedi gwneud penderfyniadau allweddol yn unol â deddfwriaeth a chytunwyd ar gyllideb ddrafft. Cadarnhawyd dosraniad yr ardoll ar boblogaeth a oedd yn caniatáu i'r gyllideb ddrafft gael ei diwygio a gofynnwyd i aelodau nodi bod y gyllideb arfaethedig wedi disgyn o £715,000 i £575,000 a bod rhai elfennau wedi'u symud o gwmpas ychydig. Tynnwyd sylw'r aelodau at swm y gyllideb enwol a neilltuwyd i is-bwyllgorau ar y cam hwn, oherwydd heb wybod rhaglen waith union ar gyfer y flwyddyn, roedd yn anodd neilltuo ffigur manwl.

 

Gofynnwyd i'r pwyllgor nodi'r tybiaethau ynghylch cyfrifiadau fel y nodwyd ar dudalen 13 yr adroddiad, gan gynnwys bod y grant traddodiadol i gefnogi Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn cael ei weinyddu ar hyn o bryd gan Gyngor Abertawe. Yn ogystal, teimlwyd y byddai'n amhriodol gosod ardoll ar Barciau Cenedlaethol eleni gan fod y gwerth yn un de minimis o ran tâl.

 

Nododd y pwyllgor fod y gyllideb yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cefnogaeth weinyddol yn ogystal ag adeiladu cronfa wrth gefn.

 

Holwyd a ddefnyddiwyd y grant gwreiddiol i dalu am yr holl wariant ac a oedd unrhyw arian ar ôl. Cadarnhawyd bod elfennau o'r grant ar gael o hyd a'i fod yn cael ei weinyddu gan
Gyngor Abertawe gan ei fod wedi'i drefnu cyn bod cyfrifoldeb A151 wedi'i roi i Sir Gâr ac y bydd yn parhau i fod ym meddiant Abertawe at ddibenion gweinyddol.

 

PENDERFYNWYD:

 

-      Cymeradwyo'r gyllideb a amlinellwyd yn Atodiad A yr adroddiad a ddosbarthwyd.

-      Cymeradwyo gofyniad y gyllideb ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarthol De-orllewin Cymru sef £575,411.

-      Cymeradwyo'r Tâl Ardoll yn seiliedig ar boblogaeth fel y'i cynhwysir yn yr adroddiad.