Lleoliad: Via Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Croeso a Chyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd
bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 258 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2022 fel cofnod cywir. |
|
Cofnodion: Cadarnhawyd y byddai'r Blaenraglen Waith yn cael
ei llenwi â gwybodaeth yn barod ar gyfer y cyfarfod nesaf; byddai'n bwysig
sicrhau bod y Cynllun Corfforaethol, yn amodol ar ei gymeradwyaeth, yn llunio
sail y pwyllgor dros y 12 mis nesaf. Nodwyd y Flaenraglen Waith. |
|
Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru - Blaenraglen Waith y Prif Weithredwr PDF 315 KB Cofnodion: Darparwyd adroddiad
i'r Pwyllgor ynghylch y trefniadau arfaethedig ar gyfer Prif Weithredwr nesaf
Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru, yn unol â phenderfyniadau blaenorol
a wnaed gan Gyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru. Eglurwyd, pan
sefydlwyd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru, cynigiwyd bod rôl Prif
Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru'n cael ei gylchdroi'n
flynyddol rhwng Prif Weithredwyr y Cynghorau Cyfansoddol; y Prif Weithredwr
cyntaf a benodwyd oedd Karen Jones o Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port
Talbot. Tynnodd swyddogion
sylw at y ffaith mai'r cynnig a geir yn yr adroddiad a gylchredwyd oedd bod
William Bramble o Gyngor Bwrdeistref Sir Penfro, yn cael ei benodi'n Brif
Weithredwr nesaf Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru; fodd bynnag, y
bwriad oedd y byddai rôl newydd y Prif Weithredwr yn dechrau o 1 Tachwedd 2023.
Nodwyd mai dyddiad Tachwedd 2023 fyddai'r dyddiad mwyaf priodol i'r
trosglwyddiad hwn ddigwydd gan y bydd yn galluogi i ni ddod â threfniadau
llywodraethu presennol i ben, a bydd Prif Weithredwr newydd ar waith cyn y
broses o osod y gyllideb ar gyfer 2024/2025 a chyn sefydlu blaenoriaethau ar
gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Mynegodd aelodau eu
diolch i Karen Jones am y gwaith a wnaed yn y rôl fel Prif Weithredwr cyntaf
Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru. PENDERFYNWYD: ·
Bydd aelodau'n nodi bod rôl
Prif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru yn cael ei
gylchdroi'n flynyddol rhwng Prif Weithredwyr y Cynghorau Cyfansoddol, gan newid
yn flynyddol; ·
Bydd aelodau'n penodi Mr
William Bramble, Prif Weithredwr Cyngor Sir Penfro, fel Prif Weithredwr
Cyd-bwyllgor Corfforedig De Orllewin Cymru o 1 Tachwedd 2023 yn unol â'r
trefniant hwn. |
|
Cynllun Corfforaethol 2023-2028 PDF 334 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd swyddogion
y fersiwn derfynol o'r Cynllun Corfforaethol i'r pwyllgor ar gyfer 2023-2028,
ar ôl i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben. Nodwyd bod y Cynllun Corfforaethol yn
cynnwys tri amcan lles, ynghyd ag amcan cydraddoldeb. Nodwyd bod y Cynllun
Corfforaethol wedi'i ddiwygio i gydnabod y sylwadau a dderbyniwyd yn dilyn y
broses ymgynghori gyhoeddus. Dywedwyd wrth aelodau bod y cynllun yn seiliedig
ar y gyllideb a gymeradwywyd yn gynharach yn y flwyddyn; Roedd swyddogion wedi
diwygio'r rhaglen waith ar gyfer y 12 mis nesaf er mwyn cyd-fynd â'r
buddsoddiad hwn. Cynhaliwyd trafodaeth
o ran y crynodeb o'r ymatebion a gafwyd o'r cyfnod ymgynghori, a'r amserlen o
newidiadau a argymhellir i'r Cynllun Corfforaethol Drafft. PENDERFYNWYD: ·
Bydd aelodau'n derbyn ac yn
ystyried y sylwadau ymgynghori a dderbyniwyd ynghyd ag ymatebion swyddogion a'r
argymhellion a ddarparwyd; ·
Bydd aelodau'n rhoi'r awdurdod
dirprwyedig i'r Prif Weithredwr wneud unrhyw fân ddiwygiadau golygyddol a/neu
ddiwygiadau teipograffyddol i'r Cynllun a'r Asesiad Effaith Integredig (AEI)
cyn ei gyhoeddi; ·
Bydd aelodau'n cymeradwyo'r
Cynllun i'w gyhoeddi'n ffurfiol fel y'i cwblhawyd. |
|
Canllawiau'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol PDF 601 KB Cofnodion: Cafwyd trafodaeth o
ran ymateb y Pwyllgor i arweiniad y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh), a
gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru. Eglurwyd bod y gwaith
hwn yn deillio o'r dyletswyddau a osodwyd ar Gyd-bwyllgorau Corfforedig i
ddatblygu a chynhyrchu CTRh. Dywedwyd wrth aelodau bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r
fersiwn ddiweddaraf o'r Arweiniad Drafft ar Drafnidiaeth Ranbarthol, lle'r oedd
gofyn i swyddogion adolygu ac yna rhoi adborth i Lywodraeth Cymru. Cadarnhawyd
bod Swyddogion Trafnidiaeth wedi cwblhau eu hadolygiad o'r arweiniad, er mwyn
cynghori'r Cyd-bwyllgor Corfforedig, ac wedi crynhoi'r canfyddiadau allweddol o
fewn yr adroddiad cylchredeg. Rhoddwyd gwybod i'r
pwyllgor bod gan swyddogion nifer o bryderon o ran amserlenni, dyletswyddau ac
adnoddau; tynnwyd sylw at y prif bwyntiau canlynol: ·
O ran adnoddau, byddai
datblygu'r ffrwd waith hon yn ddarn o waith sylweddol. Bydd llawer o'r gwaith
yn cael ei roi i'r adnoddau sydd eisoes dan bwysau ym mhob un o'r Awdurdodau
Lleol; ·
Cydnabuwyd bod angen penodi
rheolwr rhaglen. Datblygwyd y disgrifiad swydd, a'r cam nesaf fyddai
hysbysebu'r swydd; ·
Roedd yr amserlenni ar gyfer
datblygu'r CTRh yn uchelgeisiol iawn. Byddai angen gwneud llawer o waith
astudio, a byddai'n heriol iawn o ran y manyldeb yr oedd ei angen; ·
O ran y fframwaith polisi,
roedd pryderon ynghylch yr ymagwedd o'r pen i'r gwaelod, a'r rhyddid i
ddatblygu cynllun trafnidiaeth a oedd yn addas at y diben ar gyfer y rhanbarth.
Roedd gan lawer o'r fframwaith polisi ffocws cryf ar gynaliadwyedd, ond roedd
angen canolbwyntio ar yr economi hefyd, gyda thrafnidiaeth yn ysgogwr allweddol
ar gyfer sut i ddatblygu a gwella'r economi. ·
Bu rhai awgrymiadau y byddai
trefniant sy'n debyg i Gomisiwn Burn yn rhan o ddatblygu'r CTRh. Roedd hyn yn
bryder gan fod y ddyletswydd ar gyfer cynhyrchu'r CTRh ar y Cyd-bwyllgor
Corfforedig; ni fyddai cael haen ychwanegol o fiwrocratiaeth yn cael ei
chefnogi, a byddai'n effeithio ar gyfrifoldebau democrataidd yr Awdurdodau
Lleol sy'n ffurfio'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig; ·
Roedd pryderon ynghylch faint
o waith dadansoddi data sy'n gysylltiedig â datblygu'r CTRh. Er bod sôn bod
Trafnidiaeth Cymru'n cefnogi'r gwaith hwn, nid oedd eglurder o ran faint o
gefnogaeth fyddan nhw'n gallu ei ddarparu, ac a fyddai cyllid ar gael i
ddatblygu hynny. Yn ogystal â'r pryderon hyn, roedd gan Trafnidiaeth Cymru
adnoddau cyfyngedig, ac roedd gofyn i ddatblygu'r CTRh ar draws y pedwar
rhanbarth, a allai achosi problemau wrth geisio cael cefnogaeth gan
Drafnidiaeth Cymru; ·
Roedd pryderon hefyd o ran
lefel yr adnoddau a fyddai'n cael ei ddyrannu i ddatblygu prosiectau a
rhaglenni a fyddai'n dod o'r CTRh. Pan
ddatblygwyd y cynlluniau i ddechrau yn 2010, roedd neges glir iawn i fod yn
uchelgeisiol o ran ymyriadau trafnidiaeth; Ond pan ddatblygwyd y rhaglen gwelwyd
lleihad sylweddol yn swm yr arian a oedd ar gael. Roedd hyn yn golygu bod gan
swyddogion raglen o brosiectau hynod uchelgeisiol ond nid oedd llawer o gyllid
er mwyn ei chyflawni. Ailadroddodd yr aelodau'r pryderon a godwyd gan swyddogion, gan dynnu sylw at bwysigrwydd codi'r rhain gyda Llywodraeth Cymru; yn enwedig o ran y cyllid, amserlenni, diffyg adnoddau a'r materion ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7. |
|
Eitemau brys Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |