Agenda a Chofnodion

Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru - Dydd Mawrth, 6ed Mehefin, 2023 10.00 am

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru pdf eicon PDF 134 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Penodi'r Cyng. Rob Stewart (Cyngor Sir Abertawe) yn Gadeirydd a phenodi'r Cyng. Darren Price (Cyngor Sir Gâr) yn Is-Gadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru.

 

2.

Croeso a Chyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 420 KB

·        24 Ionawr 2023

·        30 Mawrth 2023

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd blaenorol, a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2023 a 30 Mawrth 2023, fel cofnodion cywir.

 

5.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 519 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Blaenraglen Waith.

 

6.

Ailgyfansoddiad Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru pdf eicon PDF 273 KB

Cofnodion:

Darparwyd adroddiad i'r Pwyllgor a oedd â'r nod o ailgyfansoddi Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, a oedd yn cynnwys nodi'r trefniadau gweinyddol a llywodraethu ar gyfer y flwyddyn ddinesig sydd ar ddod.

Cyfeiriodd y Swyddog Monitro ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru at y cynigion yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, a fyddai'n ffurfio rhan o'r ailgyfansoddiad:

·        Ailsefydlu pedwar is-bwyllgor Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru; nodwyd y rhain fel Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol, Lles Economaidd - Datblygiad Economaidd Rhanbarthol, Cynllunio Datblygu Strategol a Lles Economaidd - Strategaeth Ynni Ranbarthol

·        Ailsefydlu'r Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a fyddai'n parhau i gael ei hwyluso gan Gyngor Sir Penfro

·        Ailgadarnhau mai Pwyllgor Safonau Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot fyddai'r Pwyllgor Safonau dynodedig ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru.

·        Ailsefydlu'r Is-bwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru.

·        Cymeradwyo dyddiadau'r cyfarfodydd sydd ar ddod ar gyfer y flwyddyn ddinesig, gan gynnwys dyddiadau'r holl Is-bwyllgorau

·        Ailgadarnhau cynrychiolwyr y sector preifat, a benodwyd yn flaenorol i'r Bwrdd Cynghori mewn cyfarfod Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn y gorffennol.

 

PENDERFYNWYD:

Bod Aelodau'n cymeradwyo creu'r is-bwyllgorau a nodwyd ym mharagraff 8 o'r adroddiad a ddosbarthwyd, a'r cynrychiolwyr arfaethedig a benodwyd i'r is-bwyllgor a nodir ym mharagraff 9 o'r adroddiad a ddosbarthwyd;

Bod Aelodau'n cymeradwyo sefydlu'r Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru fel y nodir ym mharagraffau 12-17 o'r adroddiad a ddosbarthwyd;

Bod Aelodau'n cymeradwyo dynodi Pwyllgor Safonau Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot fel Pwyllgor Safonau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru;

Bod Aelodau'n cymeradwyo sefydlu Is-bwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru fel y nodir ym mharagraffau 21-27 o'r adroddiad a ddosbarthwyd;

Bod Aelodau'n cymeradwyo'r amserlen ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru fel y nodir ym mharagraff 28 o'r adroddiad a ddosbarthwyd;

Bod Aelodau'n cymeradwyo estyniad yr ymgynghorwyr a nodwyd ym mharagraff 30 yr adroddiad a ddosbarthwyd, ar gyfer blwyddyn ddinesig 2023/24.

 

 

7.

Rhoi Statws Aelod Cyfetholedig i Gadeirydd y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol pdf eicon PDF 134 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i'r aelodau mewn perthynas â chytuno ar statws cyfethol, ar gyfer Cadeirydd y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol, i Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru.

Nodwyd bod aelodau wedi cymeradwyo'r Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol ar gyfer Rhanbarth De-orllewin Cymru y llynedd. Hysbyswyd y Pwyllgor, pan fu'r Prif Weithredwyr a'r Cyfarwyddwyr yn myfyrio ar sut roedd y Cynllun hwn yn datblygu, gwnaethant gytuno ar y cyd i wneud cynnig i Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru y byddai statws cyfethol yn cael ei roi i Gadeirydd y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol, gan ei fod yn rhan allweddol o'r ymgais datblygiad economaidd gyffredinol yn y Rhanbarth; byddai hefyd yn darparu cyfle i gydlynu'r trefniadau hyn yn fwy ffurfiol, o fewn amgylchedd y Cyd-bwyllgor Corfforedig.

PENDERFYNWYD:

Bod Aelodau'n cytuno i roi statws cyfethol (heb hawl i bleidleisio) i Gadeirydd y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru a'r Is-bwyllgor Lles Economaidd - Datblygiad Economaidd Rhanbarthol, yn amodol ar gwblhau cytundeb cyfethol. 

 

 

8.

Cynnig Polisi'r Parth Buddsoddi pdf eicon PDF 433 KB

Cofnodion:

Cafwyd trafodaeth mewn perthynas â'r cynnig polisi Parthau Buddsoddi a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, ar gyfer Lloegr, ym mis Mawrth 2023.

Ymhelaethwyd ymhellach fod y cynnig polisi a gyhoeddwyd ym mis Mawrth yn gyfyngedig i Loegr. Fodd bynnag, nodwyd bod Llywodraeth Cymru'n ystyried rhoi polisi tebyg ar waith yng Nghymru; roedd trafodaethau'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r mater hwn.

Roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn manylu ar ddyfyniad o gynnig polisi Llywodraeth y DU, a oedd yn crynhoi'r cynnig yn Lloegr; byddai'r parth buddsoddi'n canolbwyntio ar ardaloedd daearyddol penodol gydag angen am godi'r gwastad. Nodwyd nad oedd Lloegr wedi defnyddio proses gystadleuol ar gyfer dyrannu'r parthau buddsoddi, a'i bod yn lle wedi dyrannu yn seiliedig ar fethodoloeg; wrth drafod â swyddogion Llywodraeth Cymru, awgrymwyd y byddai ymagwedd debyg yn cael ei dilyn yng Nghymru, pe bai'r Gweinidog yn cyflwyno'r polisi.

Esboniodd swyddogion ei fod yn anhysbys ar hyn o bryd o ran a fyddai Llywodraeth Cymru yn dymuno cytuno i gynnig polisi; fodd bynnag, roedd swyddogion yn ceisio awdurdod i ddechrau'r meddwl a'r deialog cychwynnol ynghylch hyn, er mwyn paratoi pe bai'r polisi yn cael ei gytuno ar gyfer Cymru. Amlygwyd y byddai'n bwysig cael arwydd clir o ran sut gellir cynnwys y cynnig polisi yn y gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud yn Ne-orllewin Cymru.

Cytunodd Aelodau ei bod yn bwysig dangos diddordeb cynnar yn y mater hwn, gan ystyried y cyfleoedd y gallai eu darparu; a'r angen i ddechrau trafodaethau â Llywodraeth Cymru cyn gynted â phosib.

Gofynnwyd a oedd unrhyw sôn wedi bod gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag amserlenni ar gyfer cytuno a chyflwyno polisi ar gyfer Cymru. Esboniwyd bod Llywodraeth Cymru yn ystyried cynnig polisi ar hyn o bryd, ond nid oedd unrhyw amserlen ynghylch pryd y byddant yn rhoi eu penderfyniad.

PENDERFYNWYD:

Bod y Prif Weithredwr yn cael yr awdurdod i ddechrau trafodaethau cychwynnol â Llywodraeth Cymru a'r DU i archwilio buddion cyflwyno cynnig polisi parth buddsoddi yn Ne-orllewin Cymru.

Bod llythyr, yn nodi mynegiant o ddiddordeb yn y potensial ar gyfer cynnig polisi parth buddsoddi yn Ne-orllewin Cymru, yn cael ei anfon oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor at y swyddogion perthnasol.

 

 

9.

Rhagolwg Alldro a Datganiad Blynyddol Cyn-archwilio 2022/23 pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Darparodd y Prif Swyddog Cyllid y Sefyllfa Alldro a'r Datganiad Blynyddol Cyn Archwilio i Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru ar gyfer y flwyddyn sy'n dod i ben 22/23.

Nodwyd bod y gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23 wedi'i phennu ar £575,411; cafwyd tanwariant sylweddol o £384,824, a oedd yn golygu bod gwariant net o £190,587. Soniwyd nad oedd llawer o'r arian wedi cael ei wario oherwydd ei bod yn flwyddyn ar gyfer datblygu Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru.

Hysbyswyd yr aelodau, gan fod gwariant incwm Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn is na £2.5 miliwn, nid oedd angen i Swyddogion Cyllid gwblhau datganiad o gyfrifon llawn; yn hytrach, roedd angen iddynt sicrhau bod Ffurflen Flynyddol yn cael ei llenwi, a fydd yn cael ei harchwilio'n allanol gan Archwilio Cymru.

Cafodd y Pwyllgor eu briffio ynghylch y Sefyllfa Alldro a fanylwyd yn Atodiad A yr adroddiad, ac amlygwyd y pwyntiau canlynol:

·        Roedd y Corff Atebol wedi tanwario gan £18,236 gan fod costau'r archwiliad yn llai na'r disgwyl;

·        Roedd Llywodraethu ac Archwilio Mewnol wedi tanwario gan £26,250 oherwydd ychydig iawn o weithgarwch ar y gwaith archwilio mewnol;

·        Nid oedd y swydd Uwch Gyfrifydd wedi cael ei llenwi yn y flwyddyn ddinesig gan fod yr ardal hon yn cael ei datblygu o hyd, felly nid oedd angen llenwi'r swydd ar hyn o bryd, a oedd yn arbediad o £59,180;

·        Nid oedd y Swyddfa Rheoli Ranbarthol wedi defnyddio rhai o'r ffioedd ymgynghoriaeth arbenigol a ragwelwyd.

·        Nid oedd y gwaith mewn perthynas â'r Is-bwyllgorau wedi datblygu yn ôl y disgwyl, felly nid oedd y gyllideb a ddyrannwyd iddynt wedi'i gwario.

Cadarnhawyd y byddai'r arian nas gwariwyd (£384,824) yn cael ei roi mewn cronfeydd wrth gefn ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, a gellid ei ddefnyddio yn ôl yr angen wrth symud ymlaen.

Esboniodd Swyddogion y byddai'r archwiliad cyfrifon yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor, unwaith yr oedd wedi'i dderbyn gan Archwilio Cymru.

PENDERFYNWYD:

Nodi’r adroddiad.

 

 

10.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd)

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.