Agenda a Chofnodion

Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru - Dydd Mercher, 7fed Rhagfyr, 2022 3.00 pm

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Stacy Curran 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Croeso a Chyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Datganodd y Swyddog canlynol fudd ar ddechrau'r cyfarfod:

 

O.Enoch:

Eitem 6 ar yr Agenda – Ystyried Opsiynau mewn perthynas â chyllideb 2023/2024 gan fod ei gyflog yn cael ei ariannu o gyllideb Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru

 

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 444 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2022 fel cofnod cywir.

 

4.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 525 KB

Cofnodion:

Nodwyd bod dyddiad cyfarfod mis Mawrth 2023 wedi'i aildrefnu i ddyddiad hwyrach, sef 30 Mawrth 2023, ac y byddai hyn yn cael ei adlewyrchu yn y Flaenraglen Waith.

 

Nodwyd y Flaenraglen Waith.

 

5.

Cymeradwyo datganiad o gyfrifon 2021/22 pdf eicon PDF 158 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparwyd y Datganiad Cyfrifon am y flwyddyn a ddaeth i ben 2021/22 i'r Pwyllgor.

 

Esboniodd swyddogion fod Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru wedi cytuno i bennu cyllideb sero ar gyfer 2021/22 yn gynharach yn y flwyddyn, ac ni chodwyd unrhyw ardoll; roedd hyn yn ystod y cyfnod pan roedd y trefniadau ar gyfer y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn cael eu sefydlu. Nodwyd, o ganlyniad i hyn, nad oedd unrhyw drafodion ar gyfer y flwyddyn 2021/22; fodd bynnag, roedd yn ofyniad i lunio Datganiad o Gyfrifon a chadarnhau'r sefyllfa ariannol yn ystod y flwyddyn.

 

Hysbyswyd yr Aelodau, unwaith y byddai'r Datganiad o Gyfrifon yn cael ei gymeradwyo, y byddai Archwilio Cymru yn gallu dod â'r flwyddyn 2021/22 i ben.

 

PENDERFYNWYD:

Bod y Cyd-bwyllgor yn derbyn ac yn cymeradwyo'r Datganiad o Gyfrifon ar gyfer 2021/22.

 

 

6.

Ystyried opsiynau mewn perthynas â chyllideb 2023/2024 pdf eicon PDF 428 KB

Cofnodion:

Ailddatganodd O Enoch ei fudd wrth adael y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon yn unig.  

Roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn nodi nifer o opsiynau cyllideb i'w hystyried ar gyfer y flwyddyn 2023/24, ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru; byddai angen i'r Aelodau ystyried sut y byddai'r Pwyllgor yn datblygu'r llwyth gwaith sylweddol o fewn y gwahanol ffrydiau gwaith wrth symud ymlaen.

Cyfeiriodd swyddogion at y cyflwyniad cychwynnol o'r gyllideb, a gafodd ei gynnwys yn Atodiad A o'r adroddiad a ddosbarthwyd; roedd yn darparu gwerthusiad llawn o gyllideb Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, pe bai'n dechrau datblygu ac ymgymryd â gwaith mewn perthynas â'r pedair prif ffrwd waith. Nodwyd ei fod yn golygu cyflogi staff a chomisiynu darnau penodol o waith; roedd y gwerthusiad hwn yn nodi cost bosib o £1.5 miliwn, a oedd yn sylweddol fwy na'r gwariant yn y flwyddyn bresennol.

Yn dilyn yr uchod, dywedwyd bod y gost bosib o £1.5 miliwn yn codi pryderon mewn trafodaethau gydag Awdurdodau Lleol cyfansoddol, gan y byddai hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar eu cyllidebau; oherwydd y pryderon hyn, roedd swyddogion wedi ymgymryd â darn o waith a oedd yn llunio opsiynau gwahanol o ran gosod y gyllideb ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru ar gyfer 2023/24. Tynnwyd sylw at fanylion yr opsiynau fel a ganlyn:

·        Opsiwn 1 – Cytuno i flaenoriaethu gwaith Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru a gosod ardoll yn unol â hynny.

·        Opsiwn 2 – Gwneud yr isafswm yn 2023/24 a lleihau'r gyllideb, gyda gwaith cyfyngedig yn cael ei wneud ym mhob un o'r ffrydiau gwaith; fodd bynnag, mae angen parhau i symud ymlaen â'r gwaith lefel is megis y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh), gan y byddai elfen o'r gyllideb yn cefnogi'r Cynllun wrth symud ymlaen. Soniwyd y byddai cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn hanfodol wrth ddatblygu rhai gweithgareddau. Yn ôl yr adroddiad a ddosbarthwyd, roedd yr opsiwn hwn yn nodi cyllideb o oddeutu £617 mil, a oedd fymryn yn uwch na chyllideb eleni.

·        Opsiwn 3 - Atal holl weithgareddau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru. Er mwyn gwneud hyn, nodwyd y byddai'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddiwygio'r ddeddfwriaeth; fodd bynnag, roedd yn rhywbeth y gellid ei ystyried ar gyfer y dyfodol (2024/25 ymlaen), gan fod y pwysau cyllidebol yn debygol o barhau wrth symud ymlaen.

 

Hysbyswyd yr Aelodau fod gofyn iddynt bennu cyllideb ddrafft, cyn mynd ati i ystyried eu penderfyniad terfynol a rhoi cymeradwyaeth ffurfiol ym mis Ionawr 2023; unwaith y byddai'r gyllideb ddrafft wedi’i chymeradwyo byddai Swyddogion yn hysbysu Awdurdodau Lleol cyfansoddol o'r gyllideb ddangosol.

Cafwyd trafodaeth o ran y cynigion ar gyfer gweithgareddau mewn perthynas ag Opsiwn 2, y manylwyd arni yn Atodiad C yr adroddiad a ddosbarthwyd. Amlygwyd y canlynol ar gyfer pob un o'r pedair ffrwd waith:

·        Ym mis Mawrth 2022, nodwyd bod Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru wedi cymeradwyo Strategaeth Ynni Rhanbarthol De-orllewin Cymru; Gwasanaethau Ynni Cymru oedd yn mynd i ariannu'r gwaith hwn. Roedd swyddogion yn fodlon, er mai ychydig iawn o ddarpariaeth y gyllideb fyddai'n cael ei chynnig ar gyfer y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cyflwyniad ar y Cynllun Datblygu Strategol pdf eicon PDF 776 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd yr Aelodau gyflwyniad am y Cynllun Datblygu Strategol (CDS).   

Nodwyd bod y CDS yn ofyniad statudol a'i fod wedi'i ysgrifennu mewn deddfwriaeth fel y prif allbwn cynllunio ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforedig bydd ganddo'r un statws i Awdurdodau Lleol a'u penderfyniadau, fel sydd gan y Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) a Cymru'r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol. Eglurodd swyddogion y bydd angen ystyried pob cais cynllunio, ar gyfer Awdurdodau Lleol Cymru, yn erbyn ei CDLl, Cymru'r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol a'r CDS ar ôl iddo gael ei gynhyrchu; rhaid i CDLlau yn y dyfodol gyd-fynd â'r fframwaith CDS a bod yn gyson ag ef. Ychwanegwyd mai pwrpas y CDS oedd symud yr agenda gynllunio ymlaen ar sail ranbarthol, a mynd i'r afael â'r materion hynny a oedd yn drawsffiniol ac yn ehangach nag arwyddocâd lleol.

Hysbyswyd yr Aelodau nad oedd unrhyw gynnydd sylweddol wedi bod hyd yma ar y CDS, roedd hyn oherwydd y gyllideb fach a bennwyd ar gyfer blwyddyn bresennol 2022/23; fodd bynnag, roedd cydweithio trawsffiniol ar brosiectau’n cynyddu'n dda, er mwyn cyfeirio CDLlau o fewn y rhanbarth. Nodwyd y bydd y gwaith a oedd yn cael ei wneud ar hyn o bryd yn darparu tystiolaeth ar gyfer y CDS hwnnw; roedd rhai o'r prosiectau gwaith presennol yn cynnwys diffinio'r hyn a ddisgrifiwyd yng Nghymru'r Dyfodol fel 'ardal twf cenedlaethol' ar gyfer De-orllewin Cymru, ac edrych ar amcanestyniadau twf yn y dyfodol.

Yn ogystal â'r uchod, amlygwyd bod Llywodraeth Cymru wedi llunio llawlyfr arweiniad ar CDSau, a oedd ar hyn o bryd yn destun ymgynghoriad ar gyfer sylwadau anffurfiol; byddai swyddogion yn rhoi adborth ar y llawlyfr fel rhanbarth. Soniwyd y bydd ymgynghoriad llawn ar y llawlyfr yn haf 2023.

Nodwyd bod angen cytuno ar y pwyntiau canlynol o hyd o ran yr CDS:

·        Sut i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar y mater hwn wrth symud ymlaen

·        Amserlenni'r gwaith, gan ystyried ffactorau megis adnoddau

·        Cyllideb y gwaith

·        Adnoddau staff a rheoli’r holl broses

Cafwyd trafodaeth am y materion a'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r CDS:

·        Dim cyllideb wedi'i nodi ar gyfer darparu'r CDS - o ganlyniad ni fydd unrhyw waith i symud ymlaen ag ef

·        Dim adnoddau presennol o fewn Awdurdodau Cynllunio - roedd sgyrsiau wedi'u cynnal, ac nid oedd adnoddau sbâr i ddargyfeirio o ffrydiau gwaith presennol er mwyn darparu'r CDS

·        Materion recriwtio staff – ar hyn o bryd roedd problemau o ran recriwtio a dod o hyd i gynllunwyr profiadol i Awdurdodau Lleol, bydd sefyllfa debyg wrth geisio recriwtio ar gyfer y CDS

·        Y risg na fyddai’r cyngor yn g orffen y CDLl mewn pryd - roedd pob Awdurdod Lleol yn gweithio ar ddarparu ei CDLl newydd, a allai wrthdaro â gwaith y CDS

 

Tynnodd Swyddogion sylw at dri phrif bwynt i'w hystyried sef ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, amserlen ar gyfer CDS De-orllewin Cymru a goblygiadau'r gyllideb, fel y manylir o fewn y cyflwyniad a ddosbarthwyd.

Nodwyd y bydd angen deialog parhaus gyda Llywodraeth Cymru dros y 12 mis nesaf ynghylch amserlen y dyfodol, a'r potensial ar gyfer darparu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cynllun Corfforaethol Drafft 2023-2028 pdf eicon PDF 191 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copïau o'r Cynllun Corfforaethol Drafft 2023-2028, ynghyd ag Asesiad Effaith Integredig, wedi'u darparu cyn y cyfarfod.

Dywedwyd, yn ogystal â'r ddyletswydd i baratoi Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh), a Chynllun Datblygu Strategol (CDS), fod Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru hefyd yn destun nifer o ddyletswyddau sector cyhoeddus; roedd hyn yn cynnwys y gofyniad i osod Amcanion Lles ac i roi sylw i Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Hysbyswyd yr Aelodau mai'r bwriad oedd esblygu'r Cynllun Corfforaethol wrth i Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru ddatblygu.

Cafwyd trafodaeth mewn perthynas â'r datganiad gweledigaeth arfaethedig ar gyfer 'De-orllewin Cymru 2035'; yr oedd y cynnwys wedi’i lywio gan y Cynllun Datblygu Economaidd Rhanbarthol a'r Strategaeth Ynni Rhanbarthol, ynghyd â chydnabyddiaeth i’r gofynion statudol hynny mewn perthynas â Chynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol a Chynllunio Datblygu Strategol.

Yn ogystal â'r uchod, briffiwyd yr Aelodau ar y tri amcan lles a gynigiwyd. Nodwyd bod yr amcan cyntaf yn cyfeirio at y Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol a'r Strategaeth Ynni Rhanbarthol, yr ail amcan yn cyfeirio at gynhyrchu'r CTRh, a'r trydydd amcan yn cyfeirio at lunio'r CDS.

Hysbyswyd yr Aelodau hefyd o Amcan Cydraddoldeb arfaethedig y nodwyd ei fod yn ofyniad statudol. Nodwyd bod yr amcan hwn yn cyfeirio at gyflawni 'De-orllewin Cymru sy'n fwy cyfartal erbyn 2035'. 

Roedd adroddiad pellach, a oedd ar ffurf atodiad arfaethedig i'r Cynllun Corfforaethol Drafft, hefyd wedi'i ddarparu cyn y cyfarfod; roedd yr atodiad hwn yn cwmpasu'r camau gweithredu/camau/mesurau y bwriedid iddynt gefnogi'r gwaith o gyflawni'r tri amcan lles. Nodwyd y gallai'r atodiad hwn gael ei ddiweddaru'n ailadroddol gan Swyddogion o ganlyniad i benderfyniadau'r Aelodau yn y cyfarfod hwn mewn perthynas ag opsiynau cyllideb; yn hyn o beth, caiff yr atodiad hwn ei gyflwyno eto yng nghyfarfod nesaf Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru ym mis Ionawr 2023. Wrth aros am gymeradwyaeth yr Aelodau, soniwyd y bydd fersiwn derfynol o'r atodiad yn cael ei chynnwys yn y Cynllun Corfforaethol Drafft cyn ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad.

PENDERFYNWYD:

(a) Y bydd Aelodau yn derbyn ac yn nodi cynnwys y Cynllun Corfforaethol Drafft (ynghyd ag atodiadau cysylltiedig) ac yn cymeradwyo ei gyhoeddi ar gyfer ymarfer ymgynghori cyhoeddus chwe wythnos ym mis Ionawr/Chwefror 2023;

(b) Y bydd unrhyw ymatebion, mewn perthynas ag (a) uchod, uchod a gaiff eu derbyn o'r ymgynghoriad yn cael eu hadrodd yn ôl i Aelodau gyda'r bwriad o lywio fersiwn derfynol o'r Cynllun cyn ei fabwysiadu'n ffurfiol (a drefnwyd ar gyfer Mawrth 2023);

 (c) Y bydd awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i'r Prif Weithredwr i wneud unrhyw ddiwygiadau teipograffyddol, ffeithiol a / neu olygyddol i'r Cynllun Corfforaethol Drafft cyn ei gyhoeddi.

 

 

9.

Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 - Adran 6 - Y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau pdf eicon PDF 156 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparwyd copi o'r Adroddiad Dyletswydd cyn y cyfarfod. Dywedwyd wrth yr Aelodau fod y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn ddarostyngedig i ofynion Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yn yr un modd â'i gynghorau cyfansoddol.

 

Nodwyd bod yr Adroddiad Dyletswydd yn ceisio adlewyrchu pwysigrwydd ymgorffori'r Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chadernid Ecosystemau o fewn llywodraethu corfforaethol y Cyd-bwyllgor Corfforedig.

 

Hysbyswyd yr Aelodau fod gofyniad i gyhoeddi'r adroddiad erbyn 31 Rhagfyr 2022.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y bydd yr Aelodau'n nodi cynnwys yr Adroddiad Adran 6 atodedig ac yn cymeradwyo’i gyhoeddi erbyn 31 Rhagfyr 2022. Argymhellir ymhellach y dylid anfon copi o'r Adroddiad atodedig i Lywodraeth Cymru.

 

 

10.

Awdurdodau Parciau Cenedlaethol fel aelodau Cyfetholedig i Gydbwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru pdf eicon PDF 367 KB

Cofnodion:

Roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn rhoi manylion y cynnig i gytuno ar statws cyfethol gydag Awdurdodau Parciau Cenedlaethol.

Eglurwyd bod rôl yr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn gyfyngedig o fewn y Cyd-bwyllgor Corfforedig o ran y gwaith cynllunio strategol; roedd Swyddogion wedi bod yn edrych ar ffyrdd amgen o gynnwys cynrychiolwyr y Parciau Cenedlaethol yn y materion eraill y bydd y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn delio â nhw yn y dyfodol.

Roedd y cynnig a geir o fewn yr adroddiad a ddosbarthwyd yn ceisio ehangu statws cyfetholedig, heb hawliau pleidleisio i Arweinwyr Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol, er mwyn iddynt gael presenoldeb yn y cyfarfodydd amrywiol eraill sy'n gysylltiedig â Chyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, gan gynnwys yr Is-bwyllgorau; bydd hyn yn caniatáu iddynt siarad a mynegi barn ar wahanol faterion, fodd bynnag ni fyddant yn gallu pleidleisio o hyd ar unrhyw faterion y tu allan i gynllunio strategol.

Rhoddwyd eglurhad mewn perthynas â pharagraff saith o'r adroddiad a ddosbarthwyd; ni fyddai angen i Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol gael statws cyfetholedig ar yr Is-bwyllgor Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol gan fod ganddynt hawliau pleidleisio yn y cyfarfod hwn.

Cynhaliwyd trafodaeth ynglŷn ag Is-bwyllgor Trosolwg  Chraffu Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru a sefydlwyd yn ddiweddar; cynigiwyd ehangu’r statws cyfetholedig, heb hawliau pleidleisio i un cynrychiolydd o bob un o Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol, er mwyn iddynt fynychu'r cyfarfodydd hyn wrth iddynt fynd ymlaen.

Yn amodol ar gymeradwyaeth heddiw, bydd Swyddog Monitro Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn cysylltu ag Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol er mwyn cytuno ar y cynrychiolwyr a thrafod y cytundebau cyfethol.

PENDERFYNWYD:

Mae'r Aelodau'n cytuno y dylid rhoi statws cyfethol (heb hawliau pleidleisio) i Awdurdod Parc Cenedlaethol Sir Benfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, i Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru (ar gyfer ardaloedd eraill heblaw cynllunio datblygu strategol) yn unol â pharagraffau 6, 7 ac 8 o'r adroddiad a ddosbarthwyd.

 

 

11.

Eitemau brys

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.