Agenda a chofnodion drafft

Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru - Dydd Mercher, 19eg Mawrth, 2025 10.00 am

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Chloe Plowman - E-bost: c.plowman@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Croeso a Chyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 243 KB

·        3 Rhagfyr 2024

·        21 Ionawr 2025

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr 2024 a 21 Ionawr 2025 fel cofnod cywir.

 

4.

Cynllun Corfforaethol 2023-2028 - Blaenoriaethau 2025-2026 pdf eicon PDF 577 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y drydedd fersiwn ddrafft o’r Cynllun Corfforaethol i'r Pwyllgor, a oedd yn cynnwys camau gweithredu diwygiedig i gyflwyno'r Amcanion Lles a osodwyd ar gyfer 2025/26.

Cyfeiriodd Swyddogion at y llythyr a dderbyniwyd oddi wrth Gadeirydd Is-bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cydbwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru mewn perthynas â'r Cynllun Corfforaethol. Eglurwyd bod aelodau Is-bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cydbwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru wedi mynegi pryderon ynghylch peth o'r geiriad a oedd wedi'i ddefnyddio drwy'r holl Gynllun Corfforaethol; yn benodol, y datganiadau canlynol 'Yr angen i sicrhau cydbwysedd a chymesuredd tuag at gyflawni Sero Net a darparu effeithiau cadarnhaol i'r economi' a 'Mae angen i dargedau Sero Net fod yn gymesur â'r ardal leol heb effeithio ar yr economi leol nac achosi tlodi ychwanegol'. Amlygwyd bod y datganiadau hyn wedi'u codi yn yr ymateb i'r Amcanion Lles yn yr ymgynghoriad cyhoeddus.

Yn dilyn yr uchod, nodwyd bod Is-bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn teimlo bod y datganiadau hyn yn groes i'r cyfleoedd helaeth ar gyfer buddion economaidd lleol a rhanbarthol o ddiwydiannau gwyrdd, ac roeddent yn teimlo nad oedd y datganiadau'n cydnabod y gwelliannau ansawdd bywyd y gallai Sero Net eu cyflwyno. Awgrymodd Swyddogion y dylid diwygio'r cynllun gweithredu, y manylwyd arno yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, i egluro bod y datganiadau hyn wedi’u derbyn o'r ymgynghoriad cyhoeddus ac i gadarnhau bod Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn ystyried pob mater drwy'r Asesiad Effaith Integredig (AEI) sy'n sicrhau y byddai sylw'n cael ei roi i bob effaith bosib wrth ystyried cynigion; byddai hyn yn adlewyrchu'r cydbwysedd rhwng yr hyn y bydd y Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn bwrw ymlaen ag ef a sylwadau cyhoeddus.

Nodwyd pe bai Aelodau'n dymuno i'r adroddiad gael ei ddiwygio, fel y nodir uchod, y byddai angen gwneud diwygiadau pellach drwy'r holl ddogfen i adlewyrchu hyn; felly, byddai Swyddogion yn gofyn am roi awdurdod dirprwyedig i Brif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, i wneud newidiadau i'r derminoleg er mwyn sicrhau bod y pwynt hanfodol hwn yn cael ei gyfleu drwy weddill y Cynllun Corfforaethol.

Wrth ddarparu trosolwg o'r adroddiad, amlygwyd bod yr Amcanion Lles yn aros yn ddigyfnewid; roedd y camau gweithredu i'w cyflwyno wedi'u hadolygu a'u mireinio.

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogwyd y diwygiad canlynol i'r argymhelliad gan aelodau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru:

 

Bod y drydedd fersiwn ddrafft o Gynllun Corfforaethol 2023 - 2028 yn cael ei chymeradwyo, yn amodol ar y canlynol:

 

1.   Bod y ddau bwynt bwled ynghylch Sero Net ar dudalen 90 yn cael eu diwygio i ddarllen: "Mae'r cyhoedd wedi gwneud sylw ar yr angen i sicrhau cydbwysedd a chymesuredd tuag at gyflawni Sero Net a chyflwyno effeithiau cadarnhaol i'r economi, a bod angen i dargedau Sero Net fod yn gymesur â'r ardal leol heb effeithio ar yr economi leol nac achosi tlodi ychwanegol. Fodd bynnag, erys Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn ymrwymedig i dargedau Sero Net a bydd yn sicrhau bod y fath faterion yn cael eu hystyried, ynghyd â'r holl effeithiau eraill, fel rhan o'n proses Asesiad Effaith Integredig.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cynnydd cyffredinol Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru 2024/25 pdf eicon PDF 262 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd diweddariad i'r Aelodau ar y cynnydd cyffredinol ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru ar gyfer blwyddyn ddinesig 2024/25.

Amlygodd Swyddogion nad oedd y datganiad blynyddol wedi'i gynnwys fel rhan o'r adroddiad a ddosbarthwyd gan ei fod wedi'i gyflwyno i Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru ar 12 Medi 2024.

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cynnydd Cyffredinol ar gyfer 2024/25 yn cael ei nodi a'i gymeradwyo.

 

6.

Prosbectws - Rhaglen Amlinellol ar gyfer Gweithgor Prosbectws Cydbwyllgorau Corfforedig pdf eicon PDF 273 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd trosolwg o ran rhaglen waith a oedd yn cael ei harwain gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu 'prosbectws' ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforedig er mwyn cyfnerthu'r modd y maent yn cyflawni eu swyddogaethau presennol ac archwilio sut y byddai modd adeiladu ar hyn.

Eglurwyd, er mwyn bwrw ymlaen â'r gwaith hwn, fod Llywodraeth Cymru wedi creu gweithgor a oedd yn cynnwys swyddogion o awdurdodau lleol, Cyd-bwyllgorau Corfforedig, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Llywodraeth Cymru; y bwriad oedd creu prosbectws a fyddai'n egluro'r disgwyliadau gofynnol Cyd-bwyllgorau Corfforedig a hefyd yn nodi dewislen o opsiynau ar gyfer cyfrifoldebau gwneud penderfyniadau yn y dyfodol, y gellid ei dirprwyo i sefydliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig fel ffordd o geisio gwella arbedion effeithlonrwydd yn y rhanbarth. Dywedodd Swyddogion fod y gwaith hwn yn parhau i fod yn y camau cyntaf o’i datblygiad; fodd bynnag, y nod oedd ceisio cymeradwyaeth gan Weinidogion ar gyfer y prosbectws rywbryd yn yr haf.

Hysbyswyd yr Aelodau mai'r Swyddog Monitro ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru a Chyfarwyddwr yr Amgylchedd Cyngor Sir Gâr oedd y cynrychiolwyr ar gyfer y rhanbarth ar y gweithgor; bydd y ddau ohonynt yn adrodd yn ôl am unrhyw farn sy'n cael ei mynegi yn y cyfarfodydd. Ychwanegwyd pe bai prosbectws yn cael ei greu, y byddai'n cael ei gyflwyno i Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru er mwyn i’r Pwyllgor lunio ymateb swyddogol.

Amlygodd Swyddogion fod llythyr wedi cael ei dderbyn oddi wrth y Gweinidog yn dweud, er mwyn cefnogi cyflwyno uchelgeisiau prosbectws y Cyd-bwyllgorau Corfforedig sydd ar ddod, y byddai Llywodraeth Cymru yn darparu swm ychwanegol o £200,000 yn 2025/26, 2026/27 a 2027/28 er mwyn i Gyd-bwyllgorau Corfforedig gyflawni rhai o'r swyddogaethau hyn.

Mynegodd yr Aelodau'r angen i barhau i lobīo Llywodraeth Cymru am gyllid ac adnoddau addas er mwyn cyflawni canlyniadau ystyrlon ac ychwanegu gwerth at y rhanbarth. Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr angen i fod yn fwy penodol gyda Llywodraeth Cymru o hyn ymlaen ynghylch yr hyn yr oedd ei angen ar Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru o ran pwerau ychwanegol a chyfrifoldebau ariannu; gan gynnwys pam y byddai angen y rhain a'r hyn yr oedd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn ceisio'i gyflawni.

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

7.

Lles Economaidd a Datblygiad Economaidd Rhanbarthol - Diweddariad ar Raglen yr Is-bwyllgor pdf eicon PDF 511 KB

Cofnodion:

Rhoddodd Swyddogion ddiweddariad ar gyflwyno'r Gronfa Ffyniant Gyffredin a oedd yn rhan o waith yr Is-bwyllgor Lles Economaidd a Datblygiad Economaidd Rhanbarthol.

Roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn amlinellu cyfrifoldebau Llywodraethau Lleol wrth ddatblygu Cynlluniau Buddsoddi Rhanbarthol ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin ac yn disgrifio sail y rhaglen, sy'n gymysgedd o brosiectau angori, cynlluniau grant a phrosiectau annibynnol.

Cyfeiriwyd at y ffaith y cytunwyd ar 'flwyddyn o newid' ar gyfer 2025/26, wrth i drafodaethau gael eu cynnal ar gyllid ar ôl mis Mawrth 2026 rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU; bydd angen i'r gwaith ar gyfer y flwyddyn o newid gael ei orffen erbyn mis Rhagfyr 2025.

Tynnwyd sylw at y ffaith bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud mewn perthynas ag allbynnau perfformiad rhanbarthol gan gynnwys creu a diogelu swyddi a'r grantiau a ddyfarnwyd i sefydliadau a mentrau.

O ran blaenoriaethau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru ar gyfer 2025/26, roedd tua £50,000 wedi'i glustnodi i'r ffrwd waith Lles a Datblygiad Economaidd er mwyn cynorthwyo wrth gyflawni'r Amcan Lles.

Cafwyd trafodaeth o ran pwysigrwydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin a'r angen i fod y glir o ran yr hyn y mae Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn ei ddisgwyl o ran cyllid; bydd yn hanfodol er mwyn penderfynu ar yr hyn y byddai'r rhanbarth yn gallu ei gyflawni dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Mynegodd yr Aelodau'r angen i gyd-gysylltu â llywodraethau'r DU a Chymru a thrafod yr effeithiau ar y sefydliadau amrywiol sy'n ymwneud â'r gwaith hwn.

Cytunwyd llunio llythyr ar ran rhanbarth De-orllewin Cymru a fyddai'n cynnwys yr holl bwyntiau a wnaed yn ystod y drafodaeth yn y cyfarfod hwn; byddai angen gwneud hyn cyn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant er mwyn nodi'r angen i gefnogi'r gwaith hwn ac ar gyfer cynrychiolaeth gyfartal ar bob haen o lywodraeth ar y penderfyniadau a wneir ynghylch y Gronfa Ffyniant Gyffredin

PENDERFYNWYD:

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi

 

8.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag

Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i

diwygiwyd).

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.