Agenda a Chofnodion

Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru - Dydd Mawrth, 30ain Gorffennaf, 2024 2.00 pm

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Chloe Plowman - E-bost: c.plowman@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Croeso a Chyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 226 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mai 2024 fel cofnod cywir.

 

4.

Diweddariad yr Is-bwyllgor - Lles Economaidd a Datblygiad Economaidd Rhanbarthol pdf eicon PDF 504 KB

Cofnodion:

Derbyniodd yr aelodau ddiweddariad am y broses o roi Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar waith yn ne-orllewin Cymru, sy'n un o bileri allweddol y Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol.

Eglurodd y swyddogion fod rhanbarth De-orllewin Cymru wedi dewis defnyddio dull prosiectau angori, lle byddai pob awdurdod lleol yn derbyn ei ddyraniad dangosol. Nodwyd bod y dull hwn yn cysylltu â darpariaeth graidd ym mhob awdurdod lleol, yn enwedig lle roedd adnoddau ar gael i gefnogi busnesau bach,  gan adeiladu ar y maes gweithio craidd hwnnw drwy ddefnyddio cyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin i ehangu'r gefnogaeth a chreu cyllidebau ar gyfer grantiau i'w defnyddio gan fusnesau a chymunedau.

Amlygwyd bod creu'r Cynllun Cyflawni Economaidd wedi helpu i wneud cynnydd pan gyhoeddwyd y Gronfa Ffyniant Gyffredin; roedd yn ei gwneud yn haws cyfeirio'r cyllid i ymdrin â'r pwysau roedd Swyddogion yn ymwybodol ohonynt ar draws y rhanbarth.

O ran y ffigurau gwariant, cadarnhaodd y swyddogion eu bod yn dal i weithio yn ôl y proffiliau gwreiddiol, nad oeddent yn gyfredol mwyach; er bod y ffigurau gwariant ar ei hôl hi'n sylweddol yn ôl pob golwg, roeddent yn gymesur â sefyllfa bresennol y rhanbarth. Nodwyd bod y rhaglen tua dau chwarter ar ei hôl hi oherwydd yr oedi cyn iddi gael ei chymeradwyo;  roedd swyddogion wedi bod yn siarad am yr angen i estyn y rhaglen am o leiaf ddau chwarter er mwyn mwyafu’r canlyniadau y mae'r rhaglen yn eu cyflawni.

Rhoddwyd gwybod i'r pwyllgor fod adroddiadau helaeth am y rhaglen ar lefel leol. Crybwyllwyd bod nifer o ganlyniadau'n cael eu cyflawni ar draws y rhanbarth ar hyn o bryd, yn enwedig o ran datblygu busnes; roedd nifer mawr o fusnesau'n cael eu cefnogi'n uniongyrchol ac roedd y busnesau'n sylwi ar yr effeithiau ac yn elwa ohonynt.

Amlygwyd bod Cadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru wedi ysgrifennu i Lywodraeth y DU i ofyn am amser ychwanegol i sicrhau bod y prosiectau'n cael eu cwblhau.

Mynegodd yr aelodau fod canlyniadau rhanbarthol wedi dangos pa mor gadarnhaol oedd y model hwn a'i addasrwydd ar gyfer cynnal cynlluniau fel hyn; eglurwyd nad oeddent am ailgydio yn y model blaenorol a oedd wedi cael ei ddefnyddio.

Holwyd a dderbyniwyd unrhyw adborth mewn perthynas ag addasu amserlenni'r rhaglen. Cadarnhawyd na chafwyd ymateb ffurfiol hyd yn hyn, ond roedd y rhyngweithiadau â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi bod yn fuddiol.  Ni allai'r Cadeirydd warantu amserlen estynedig, ond roedd yn obeithiol y byddai'r ymateb yn gadarnhaol.

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

5.

Cynllun Corfforaethol 2023-2028 - Blaenoriaethau Corfforaethol ar gyfer 24/25 pdf eicon PDF 696 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor yr ail fersiwn ddrafft o Gynllun Corfforaethol 2023-2028, a oedd yn destun ymgynghoriad ym mis Ionawr 2024.

Nodwyd bod y ddogfen wedi'i chyflwyno i Is-bwyllgor Trosolwg a Chraffu De-orllewin Cymru ar 16 Gorffennaf 2024, ac ni chafwyd unrhyw addasiadau sylweddol o ganlyniad i waith craffu.

Cyfeiriodd y swyddogion at y Blaenoriaethau Corfforaethol ar gyfer 2024/25, a nodwyd fel atodiad i'r adroddiad a ddosbarthwyd.

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ail fersiwn ddrafft o Gynllun Corfforaethol 2023 – 2028.

 

6.

Cynllun Cydraddoldeb Strategol Drafft pdf eicon PDF 458 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd swyddogion ddiweddariad am y broses o ddatblygu'r Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Ddrafft ar y cyd a'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol Rhanbarthol, a oedd yn ofynnol i gyd-bwyllgorau corfforedig.

Dywedwyd bod Prif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru wedi cwrdd â'r Comisiynydd i drafod y strategaeth; defnyddiwyd cynlluniau cydraddoldeb strategol y pedwar awdurdod lleol i danategu'r ddogfen hon.

Rhoddwyd gwybod i'r aelodau mai fersiwn ddrafft o'r strategaeth oedd yr hyn a oedd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, a bod angen ei datblygu ymhellach; bydd y swyddogion yn cadw mewn cysylltiad â'r Comisiynydd i sicrhau eu bod yn fodlon ar y ffordd roedd y strategaeth yn cael ei datblygu. Cadarnhawyd y bydd y strategaeth, ar ôl iddi gael ei chwblhau, yn cael ei chyflwyno eto i'w chymeradwyo gan y pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol.

Croesawodd yr aelodau’r ffaith bod dyheadau siaradwyr Cymraeg wedi'u cyfuno yn y ddogfen.

PENDERFYNWYD  nodi'r adroddiad.

 

7.

Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru - Penodi'r Prif Swyddog Gweithredol pdf eicon PDF 367 KB

Cofnodion:

Derbyniodd yr aelodau adroddiad ynglŷn â phenodi Prif Swyddog Gweithredol Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru.

Esboniwyd y cytunwyd yn flaenorol y byddai Prif Weithredwyr presennol y pedwar awdurdod lleol yn y rhanbarth yn cydio yn rôl y Prif Swyddog Gweithredol yn eu tro. Amlygodd y swyddogion fod William Bramble, o Gyngor Sir Penfro, wedi ymgymryd â rôl y Prif Swyddog Gweithredol am y flwyddyn flaenorol; cynigiwyd penodi Wendy Walters, o Gyngor Sir Caerfyrddin, yn Brif Swyddog Gweithredol o 1 Tachwedd 2024.

Diolchodd y pwyllgor i Will Bramble am y gefnogaeth a'r ymdrechion dros y flwyddyn ddiwethaf.

PENDERFYNWYD penodi Wendy Walters, Prif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin, yn Brif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru o 1 Tachwedd 2024.

 

8.

Monitro Ariannol Chwarter 1 2024/25 pdf eicon PDF 409 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y swyddogion adroddiad Monitro Ariannol am Chwarter 1 y flwyddyn sy’n dod i ben yn 2024/25.

Amlygwyd bod y gyllideb a bennwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol yn gofyn am ardoll ar yr awdurdodau lleol unigol, a ddyrannwyd ar sail poblogaeth; cyfanswm yr ardoll gyfun a bennwyd oedd £555,978.

Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod y rhagolwg yn Atodiad A yr adroddiad a ddosbarthwyd yn nodi cyfanswm gwarged o £132,673.

Nodwyd bod tanwariant rhagfynegol ynghylch gwasanaethau ariannol y Cyd-bwyllgor Corfforedig; ni ragwelwyd hyn yn wreiddiol a gallai newid yn y dyfodol wrth i'r ffrydiau gwaith amrywiol fynd rhagddynt ac wrth i'r llwyth gwaith gynyddu.

Cafwyd trafodaeth ynglŷn â'r pedair ffrwd waith; ar hyn o bryd, rhagwelwyd y bydd y ffrydiau gwaith yn cyflawni'r gwariant llawn a ddyrannwyd. Fodd bynnag, nodwyd ei bod yn anodd barnu hyn yn gywir ar adeg mor gynnar yn y flwyddyn. Cyfeiriwyd at y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol; nodwyd bod y ffrwd waith o ran trafnidiaeth yn cyflawni cryn dipyn drwy'r flwyddyn.

Cadarnhaodd swyddogion fod rhagamcanu gwarged yn sefyllfa gadarnhaol gan ei bod yn caniatáu ar gyfer datblygu Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru ymhellach yn y dyfodol.

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

9.

Rhagolwg Alldro a Ffurflen Flynyddol Cyn-Archwilio 2023/2024 pdf eicon PDF 941 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y Rhagolwg Alldro a ffurflen flynyddol y rhagarchwiliad am y flwyddyn a ddaeth i ben yn 2023/24.

Eglurwyd bod deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i gyd-bwyllgorau corfforedig lunio cyfrifon blynyddol; fodd bynnag, oherwydd maint trosiant y sefydliad, a oedd yn is na £2.5m, roedd llai o ofynion adrodd ac nid oedd angen datganiad llawn o gyfrifon.

Roedd Atodiad A o'r adroddiad a ddosbarthwyd yn manylu ar grynodeb y Rhagolwg Alldro. Nodwyd nad oedd y pedair ffrwd waith yn defnyddio cymaint o gyllideb y llynedd gan eu bod yn dal i ddatblygu ar y pryd; roedd tanwariant hefyd mewn meysydd eraill a amlygwyd yn yr adroddiad.

Eglurodd swyddogion fod sefyllfa ariannol bresennol Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn golygu, wrth i'r ffrydiau gwaith ddatblygu ymhellach, fod darpariaethau rhesymol eisoes ar waith; bydd hyn yn helpu i osgoi cynnydd sylweddol yn ardoll yr awdurdod lleol, gan barhau ar yr un pryd i gefnogi datblygiad Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru.

Cynhaliwyd trafodaeth mewn perthynas â'r ffurflen flynyddol, a nodwyd yn Atodiad B yr adroddiad a ddosbarthwyd; roedd yn ailadrodd y ffigurau yr adroddwyd amdanynt yn Atodiad A, ond fe'i nodwyd yn fformat gofynnol y ffurflen flynyddol. Amlygwyd bod hyn rhaid archwilio a gwirio'r ffurflen flynyddol. Y cam cyntaf oedd gwirio mewnol, a gwblhawyd gan dîm archwilio mewnol Cyngor Sir Penfro. Y cam nesaf oedd anfon hyn i Archwilio Cymru i gael gwiriad cyffredinol; ar ôl ei gwblhau, caiff tystysgrif archwilio ei chyhoeddi a'i chyflwyno i'r pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol. Soniodd y swyddogion fod dechrau trwch y gwaith hwn drwy archwiliad mewnol yn  lleihau lefel y gwaith archwilio allanol, yn ogystal â helpu'n ariannol.

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Rhagolwg Alldro a ffurflen flynyddol y rhagarchwiliad am y flwyddyn a ddaeth i ben yn 2023/24.

 

 

10.

Bwrdd Cynghori'r Sector Preifat - Recriwtio - Ymgynghorwyr pdf eicon PDF 455 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r aelodau am statws diweddaraf recriwtio ymgynghorwyr ychwanegol i ffurfio Bwrdd Cynghori'r Sector Preifat (PSAB) i Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru.

Roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn cynnwys enwau ymgynghorwyr y sector preifat a gafodd eu penodi, ym mis Hydref 2022, i fod yn aelodau o'r PSAB; y nod oedd sicrhau bod 12 o aelodau ar y bwrdd, sef yr uchafswm. Nodwyd bod y swyddogion wedi ceisio mynegiannau o ddiddordeb gan awdurdodau lleol cyfansoddol a thrwy hysbysebu; ar adeg y cyfarfod hwn, roedd yr hysbyseb ar gau. Rhoddwyd gwybod i'r pwyllgor fod nifer o fynegiannau o ddiddordeb wedi dod i law, ac roedd y swyddogion wrthi'n llunio rhestr fer; roedd y broses hon yn debygol o gael ei chwblhau'n fuan, a chyflwynir manylion y rhestr fer yng nghyfarfod Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru ym mis Medi 2024 ar gyfer cymeradwyaeth ffurfiol. Ychwanegwyd, ar ôl i'r broses gael ei chwblhau, y byddai modd manteisio i'r eithaf ar botensial y PSAB yn y dyfodol. 

Amlygwyd y gobaith y byddai'r ymgynghorwyr yn cwmpasu pob sector allweddol er mwyn sicrhau bod Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn cael amrywiaeth o gyngor. Dywedodd Prif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru fod modd cyflawni hyn ar sail y mynegiannau o diddordeb a gafwyd.

Rhoddwyd gwybod i'r aelodau mai'r cam nesaf yn dilyn y broses hon oedd nodi cynrychiolydd o Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru ar gyfer Partneriaeth Porth y Gorllewin.

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

11.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 485 KB

Cofnodion:

Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch y ffrwd waith o ran trafnidiaeth, yn benodol y cysylltiad rhwng y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a'r broses masnachfreinio bysus.  Codwyd pryderon ynghylch amserlenni'r gwaith hwn, a'r hyn roedd angen i'r swyddogion ei ystyried pan gyflwynir yr wybodaeth i'r aelodau.

 

Nodwyd y Flaenraglen Waith.

 

12.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag

Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i

diwygiwyd).

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.