Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Chloe Plowman - E-bost: c.plowman@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Croeso a Chyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Monitro Ariannol Chwarter 3 2024/25 Cofnodion: Darparwyd yr adroddiad Monitro
Ariannol Chwarter 3 ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben yn 2024/25 i'r Pwyllgor. Esboniwyd bod Cydbwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru wedi cymeradwyo'r
gyllideb ar gyfer 2024/25 a osodwyd ar £615,049, ar 23 Ionawr 2024; roedd pob
un o'r awdurdodau cyfansoddol wedi cynnig ardoll a oedd wedi'i lleihau 10% drwy
ddefnyddio cronfeydd wrth gefn. Hysbyswyd yr Aelodau fod Cydbwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru hefyd
wedi derbyn grant o £100,000 gan Lywodraeth Cymru yn ystod blwyddyn ariannol
2024/25, a oedd i'w ddefnyddio ar gyfer yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth
Rhanbarthol; roedd Swyddogion yn disgwyl defnyddio'r grant hwn yn llawn. Roedd yr alldro a ragwelwyd yn
Atodiad A o'r adroddiad a ddosbarthwyd, yn dangos cyfanswm gwarged o £128,200
ar gyfer y flwyddyn. Rhoddodd Swyddogion drosolwg o'r rhesymau dros y gwarged,
a oedd yn cynnwys y canlynol: ·
Roedd y Gwasanaethau Cefnogi'n rhagweld tanwariant o
£43,600 gan fod y swydd Uwch Gyfrifydd y cyllidebwyd ar ei chyfer yn parhau'n
wag; nid oedd angen y swydd hon eto oherwydd lefel y gweithgarwch. ·
Roedd gwariant yr Is-bwyllgor yn dangos tanwariant
rhagweledig o £86,700, mewn perthynas â’r gwariant rheoli Cynllunio a
Rhaglenni; unwaith eto, roedd hyn oherwydd lefel y gweithgarwch. ·
Manylwyd tanwariant o £59,300 gan y Swyddfa Rheoli
Rhanbarthol. Soniwyd bod £52,700 o'r swm uchod o ganlyniad i'r ffaith nad oedd
y gwaith Ymgynghoriaeth a Chynghorydd Arbenigol wedi'i gomisiynu; yn ogystal â
thanwariant llai mewn perthynas ag argraffu a chopïo, nwyddau traul swyddfa a
TGCh. Dywedwyd bod cronfeydd wrth
gefn wedi'u cronni oherwydd gwariant cyfyngedig yn ystod blwyddyn weithredu
gyntaf Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru a hefyd y lefel gyfyngedig o
weithgarwch yn ystod blwyddyn ariannol 2023/24. Felly, roedd Swyddogion yn
rhagweld y bydd y cronfeydd wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol bresennol
yn agos i £970,000. PENDERFYNWYD: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Y Gyllideb ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2025/26 Cofnodion: Cyflwynodd Swyddogion gyllideb ddrafft Cyd-bwyllgor
Corfforedig De-orllewin Cymru i'r Aelodau ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26, a
oedd yn cynnwys y tâl ardoll arfaethedig i'r awdurdodau cyfansoddol. Hysbyswyd y Pwyllgor fod yn rhaid dweud wrth yr
awdurdodau cyfansoddol am yr ardoll ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod
erbyn 31 Ionawr 2025. Soniwyd bod trafodaethau eisoes wedi dechrau â phob un
o'r Awdurdodau Lleol a'r Aelodau Etholedig ynghylch gofynion proses pennu
cyllideb Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru. Roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn nodi tri opsiwn
gwahanol (Opsiwn 1, Opsiwn 2 ac Opsiwn 2B) o ran pennu cyllideb ar gyfer
Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru. Amlygwyd bod yr opsiynau’n eithaf
cyson â blynyddoedd blaenorol; pennu cyllideb parhad neu gynyddu'r ffrwd waith,
drwy'r gyllideb, i geisio cyflawni amcanion Cyd-bwyllgor Corfforedig
De-orllewin Cymru. Ychwanegodd Swyddogion bod gwaith i'w wneud o hyd o ran
deall lefel gweithgarwch rhai o'r swyddogaethau a'r ffrydiau gwaith. Eglurodd Swyddogion fanylion y tri opsiwn gwahanol fel a
ganlyn: ·
Opsiwn 1 – Cyllideb parhad. ·
Opsiwn 2 – Cyllideb y gofynnwyd amdani. ·
Opsiwn 2B – Cyllideb y gofynnwyd amdani gyda'r defnydd o
gronfeydd wrth gefn. Dywedwyd bod Swyddogion yn argymell Opsiwn 2B, a nodwyd
yn Atodiad C o'r adroddiad a ddosbarthwyd. Nodwyd y cynigiwyd rhyddhau arian
wrth gefn dros gyfnod cynlluniedig o dair blynedd; roedd hyn er mwyn helpu i
atal yr angen i ofyn am ardollau sylweddol uwch yn y dyfodol, gan gydnabod yr
heriau y mae'r awdurdodau cyfansoddol yn eu hwynebu'n unigol o ran eu proses
pennu cyllideb. Darparwyd manylion ychwanegol ynghylch Opsiwn 2B i'r
Pwyllgor, gan dynnu sylw at y ffaith bod yr opsiwn hwn yn cynnwys y ceisiadau a
oedd wedi'u derbyn gan dair o'r pedair ffrwd waith; Roedd Atodiad C yn manylu
ar y disgwyliadau y gellid eu cyflawni drwy'r gyllideb ar gyfer Trafnidiaeth,
Ynni a Datblygu Economaidd. Yn ychwanegol at yr uchod, eglurwyd bod rhai heriau ar
hyn o bryd ynghylch diffinio gwaith a disgwyliadau'r ffrwd waith Cynllunio;
felly, ni ellid darparu'r cyllid yn yr un cyd-destun. Fodd bynnag, nodwyd bod
yr arweinwyr ar gyfer y ffrwd waith hon wedi cadarnhau'n flaenorol fod hon yn
sefyllfa dderbyniol, a'u bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i nodi cyllid
ac eglurder pellach ynghylch cyflawni'r rhaglen waith. Cynhaliwyd trafodaeth ynglŷn â sefyllfa gyllidebol
gyffredinol Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, pe bai Opsiwn 2B yn
cael ei gymeradwyo. Nodwyd bod y gyllideb ddrafft ar gyfer 2025/26 yn dangos
gwariant amcangyfrifedig o £710,300. Eglurodd swyddogion eu bod wedi edrych ar
opsiynau i geisio safoni'r tâl ardoll ar yr awdurdodau cyfansoddol, i'w gadw'r
un peth â'r hyn a godwyd ym mlwyddyn ariannol 2024/25; pe bai hyn yn cael ei
ystyried, byddai'n ofynnol i Swyddogion ddefnyddio'r cronfeydd wrth gefn i
ariannu hynny. Fel y crybwyllwyd yn flaenorol, byddai Swyddogion yn ceisio
gwneud hyn dros gyfnod o dair blynedd fel a ganlyn: ·
£153,500 ym mlwyddyn ariannol 2025/26. ·
£167,700 ym mlwyddyn ariannol 2026/27. ·
£182,200 ym mlwyddyn ariannol 2027/28. Rhagwelwyd y byddai oddeutu £964,000 o gronfeydd wrth gefn ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2024/25; felly, pe bai'r ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Blaenoriaethau Corfforaethol 2025/2026 Cynllun Corfforaethol 2023-2028 Cofnodion: Cyflwynwyd diweddariad i'r Aelodau ar flaenoriaethau
arfaethedig y Cynllun Corfforaethol (2023-2028) ar gyfer y flwyddyn 2025/26. Amlygwyd bod yr Aelodau wedi cymeradwyo Cynllun
Corfforaethol Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru 2023-2028 ym mis
Hydref 2022, a oedd yn cynnwys tri Amcan Lles a elwir hefyd yn flaenoriaethau.
Cadarnhaodd Swyddogion nad oedd yr Amcanion Lles wedi newid, felly, nid oedd
angen ymgynghori â'r cyhoedd ymhellach. Er bod yr Amcanion Lles yn aros yr un fath, dywedwyd bod
y camau gweithredu sy'n ofynnol i gyflawni'r blaenoriaethau hynny wedi'u
diwygio a bod manylion y rhain i’w cael yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Esboniwyd y bydd y gweithgarwch sy'n ymwneud â
Chyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn cynyddu'n sylweddol dros y 12
mis nesaf, ac roedd Swyddogion yn rhagweld y bydd gweithgareddau pellach yn dod
i'r amlwg drwy gydol y flwyddyn; bydd Prif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig
De-orllewin Cymru yn rhoi gwybod i'r Aelodau am unrhyw faterion sy'n codi.
Mynegwyd pwysigrwydd cael y cyllid yn ei le fel y gellir ymateb i newidiadau yn
lefel y gweithgarwch. PENDERFYNWYD: Bod y blaenoriaethau Corfforaethol a'r camau
gweithredu cysylltiedig arfaethedig ar gyfer 2025/26 yn cael eu cymeradwyo.
|
|
Ynni - Y diweddaraf am Raglen yr Is-bwyllgor Cofnodion: Rhoddodd Swyddogion ddiweddariad ar Gyflwyno'r
Strategaeth Ynni Rhanbarthol ac roeddent yn ceisio cymeradwyaeth am gyllid mewn
perthynas ag un o'r prosiectau yn y ffrwd waith. Hysbyswyd yr Aelodau mai'r Cynlluniau Ynni Ardal Leol
oedd y fframwaith i gyflawni'r Strategaeth Ynni Rhanbarthol. Ers datblygu'r
Cynlluniau Ynni Ardal Leol, nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi ariannu penodiad
Tîm Ynni Rhanbarthol am 24 mis, sy'n cynnwys Rheolwr Prosiect Ynni a dwy swydd
Swyddog Prosiect Ynni; nodwyd manylion cynnydd y Timau Ynni Rhanbarthol yn
Atodiad A o'r adroddiad a ddosbarthwyd. Cyfeiriwyd at Atodiadau B, C a D yr adroddiad a
ddosbarthwyd, a oedd yn cynnwys diweddariadau ar y cynlluniau blaenoriaeth
unigol: ·
Amlinelliad Prosiect Menter 'Solar Together' De-orllewin
Cymru (Atodiad B) – amlygwyd mai dyma'r prosiect yr oedd Swyddogion yn ceisio
cyllid ar ei gyfer; swm o £27,500 yn y flwyddyn ariannol 2025/26 a swm bach yn
y flwyddyn ariannol hon i dalu am gost y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth.
Ychwanegodd Swyddogion fod y llwybr caffael yn cael ei reoli drwy Gyngor
Bwrdeistref Sirol Caerfyrddin fel y corff arweiniol a chanddo Femorandwm
Cyd-ddealltwriaeth ag awdurdodau eraill; cyflwynwyd Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen
Llaw ynghylch Ymgysylltu â'r Farchnad ar 7 Ionawr 2025 i gadarnhau faint o
ddarparwyr gwasanaeth posib o'r math hwn o gynllun sy'n bodoli. ·
Amlinelliad Prosiect o'r Prosiect Newid Ymddygiad ·
Rhannu Cynllun Peilot Isadeiledd Gwefru Cerbydau Trydan
traws-ffiniol rhwng Awdurdodau Lleol a'r Sector Cyhoeddus ehangach (Atodiad D)
– soniwyd bod y prosiect hwn yn gorgyffwrdd rhywfaint â'r gwaith trafnidiaeth
rhanbarthol. PENDERFYNWYD: ·
Bod yr Aelodau'n nodi'r
diweddariadau cynnydd ar y ffrwd waith Ynni. ·
Bod cyllid ar gyfer y fenter Prynu
Systemau Solar fel Grŵp (y manylir arno yn Atodiad B yr adroddiad a
ddosbarthwyd - Amlinelliad Prosiect o fenter 'Solar Together' De-orllewin
Cymru) yn cael ei gymeradwyo. |
|
Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Drafft Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Drafft ar
gyfer rhanbarth De-orllewin Cymru i'r Aelodau. Amlygodd Swyddogion eu bod yn ceisio cymeradwyaeth gan
Gyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru, i ddechrau'r broses ymgynghori
cyhoeddus ar gyfer y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Drafft. Dywedwyd bod
amserlen arfaethedig o oddeutu wyth wythnos ar gyfer yr ymgynghoriad, ac y
byddai'n dechrau'n gynnar ym mis Chwefror 2025. Cyfeiriwyd at y Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol
Drafft a oedd yn cynnwys rhestr o gynlluniau sy'n cyd-fynd â'r Cynllun
Trafnidiaeth Rhanbarthol. Nodwyd bod angen gwneud rhagor o waith ynghylch
sgorio a gwerthuso'r cynlluniau; byddai'r offeryn blaenoriaethu, y manylir arno
yn Atodiad 5 yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn cynorthwyo Swyddogion gyda hyn.
Hysbyswyd y Pwyllgor y bydd y broses hon yn helpu i flaenoriaethu'r cynlluniau
mewn modd cadarn er mwyn cynorthwyo'r broses gynnig dros y pum mlynedd nesaf.
Ychwanegwyd y bydd Swyddogion yn gweithio ochr yn ochr â'r ymgynghoriad
cyhoeddus i geisio deall beth fyddai blaenoriaeth y cynlluniau hynny. Soniwyd bod
Swyddogion wedi derbyn arwyddion cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru o ran y
cynnydd yr oedd y rhanbarth yn ei wneud i gyflawni'r Cynllun Trafnidiaeth
Rhanbarthol; mae Llywodraeth Cymru wedi darparu rhai sylwadau cychwynnol, a
fydd yn rhan o'r adborth o'r ymgynghoriad. Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch yr amrywiaeth o
ddigwyddiadau a chynlluniau ymgynghori a gynigiwyd er mwyn ceisio annog cymaint
o ymgysylltu â phosib; roedd hyn yn cynnwys digwyddiadau cyhoeddus ac ar gyfer
rhanddeiliaid. Esboniodd Swyddogion y byddent hefyd yn cysylltu â'r gymuned
fusnes, drwy'r cyrff priodol sy'n cynrychioli eu buddiannau. Roedd
canlyniadau'r ymgynghoriad blaenorol yn amlygu nad oedd llawer o ymgysylltu gan
bobl iau; roedd Swyddogion yn gweithio gydag ysgolion a cholegau i geisio gwella
ymgysylltiad ar gyfer yr ymgynghoriad sydd i ddod. Hysbyswyd yr Aelodau, er bod trafodaethau'n cael eu
cynnal â Llywodraeth Cymru o ran cyllid, nad oedd Swyddogion eto wedi cael
eglurder terfynol ar gyllid na'r ffyrdd y caiff y cyllid ei ddosbarthu
drwyddynt ar gyfer y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol o 2026 ymlaen. Cyfeiriwyd at y risgiau sy'n gysylltiedig â'r gwaith hwn;
gallai methu cymeradwyo fersiwn derfynol y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a'i
gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn haf 2025 arwain at oedi'r grantiau (o 1
Ebrill 2026). Esboniodd swyddogion y byddai adroddiadau'r dyfodol yn
cael eu dwyn yn ôl drwy ddulliau adrodd arferol Cyd-bwyllgor Corfforedig
De-orllewin Cymru, a oedd yn cynnwys yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Rhanbarthol, y
Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a Chyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru. Fodd
bynnag, nodwyd y byddai'r rhestr derfynol o gynlluniau'n cael ei chyflwyno i
Gabinet pob Awdurdod Lleol ym mis Mai 2025, cyn cael eu cyflwyno i gyfarfodydd
perthnasol Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru; roedd hyn oherwydd y
ffaith mai Awdurdodau Lleol oedd â'r pwerau i gyflwyno'r cynlluniau. Yn dilyn y trosolwg gan Swyddogion, diolchodd yr Aelodau
i'r Swyddogion gan gydnabod y gwaith sylweddol a wnaed yn y broses hon hyd yma. PENDERFYNWYD: ·
Bod yr adroddiadau cynnydd
llafar gan Swyddogion ar ffrydiau gwaith datblygu'r Cynllun Trafnidiaeth
Rhanbarthol yn cael eu nodi. · Bod y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Drafft a'r dogfennau ategol yn cael eu cymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cofnodion: Nodwyd Blaenraglen Waith Pwyllgor Corfforaethol
De-orllewin Cymru. |
|
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran
100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd) Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |