Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Chloe Plowman - E-bost: c.plowman@npt.gov.uk
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Croeso a Chyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Datganodd yr Aelod canlynol gysylltiad personol ar
ddechrau'r cyfarfod:
|
|||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 383 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
12 Medi 2024 fel cofnod cywir. |
|||
Cynnydd cyffredinol Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru 2023/24 PDF 217 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y pwyllgor adroddiad ynghylch Proses
Gyffredinol Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru 2023/24. Esboniodd Prif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig
De-orllewin Cymru ddiben darparu'r adroddiad Cynnydd Cyffredinol. Roedd yn
tynnu sylw at y ffaith y cyflwynwyd y Ffurflen Flynyddol mewn cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor (12 Medi 2024); ac felly nid oedd wedi'i chynnwys yn y
diweddariad Cynnydd Cyffredinol hwn. Cadarnhawyd y bydd y blaenoriaethau arfaethedig ar
gyfer 2025/26 yn cael eu cyflwyno i Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru
yn y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 3 Rhagfyr 2024. PENDERFYNWYD: Nodi a chymeradwyo'r Cynnydd Cyffredinol ar gyfer
2023/24. |
|||
Safonau'r Gymraeg - Diweddariad ar gydymffurfio PDF 235 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cynghorwyd aelodau ynghylch y mesurau a gymerwyd i
adolygu a gweithredu'r Hysbysiad Cydymffurfio i ddangos derbyn Safonau'r
Gymraeg sy'n berthnasol i Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru. Nodwyd y derbyniwyd yr Hysbysiad Cydymffurfio gan
Gomisiynydd y Gymraeg ar 24 Ebrill 2024 ac roedd gan Gyd-bwyllgor Corfforedig
De-orllewin Cymru chwe mis i roi'r mesurau ar waith. Roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn cynnwys tabl
a oedd yn arddangos y Safonau Cydymffurfio yr oedd angen i Gyd-bwyllgor
Corfforedig De-orllewin Cymru eu bodloni, yn ogystal â'r cynnydd a wnaed yn
erbyn pob un o'r safonau hynny. PENDERFYNWYD: Nodi gofynion yr Hysbysiad Cydymffurfio Safonau'r
Gymraeg, a chadarnhau'r monitro parhaus a'r adnoddau angenrheidiol i sicrhau y
cydymffurfir â Safonau'r Gymraeg.
|
|||
Cofnodion: Cynghorwyd y pwyllgor y byddai ychydig o newidiadau
i'r amserlen sy'n gysylltiedig â'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol; byddai'r
manylion yn cael eu trafod yn y gweithdy ar 22 Hydref 2024, a rhoddir yr
wybodaeth ddiweddaraf i Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru ym mis
Ionawr 2025. Nodwyd na fyddai'r newid yn yr amserlen yn effeithio ar y dyddiad
cau gofynnol i swyddogion gyflwyno'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol i
Lywodraeth Cymru. Nodwyd y Flaenraglen Waith.
|
|||
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran
100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |
|||
Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd Yn unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitem fusnes ganlynol a oedd
yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 12 a 13 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: PENDERFYNWYD: Yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) o Offeryn Statudol
2001 Rhif 2290, penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes
canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a
ddiffinnir ym Mharagraff 12 ac 13 Adran 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol
1972. |
|||
Bwrdd Cynghori'r Sector Preifat - Penodiadau Cofnodion: Derbyniodd aelodau adroddiad ynghylch recriwtio ymgynghorwyr ychwanegol er
mwyn sefydlu Bwrdd Cynghori'r Sector Preifat PENDERFYNWYD: · Cynyddu nifer yr aelodau arfaethedig ar gyfer Bwrdd Cynghori'r Sector
Preifat i'r niferoedd a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. · Adolygu'r 14 mynegiad o ddiddordeb yn Atodiad C o'r adroddiad a
ddosbarthwyd. · Penodi'r ymgynghorwyr a nodwyd dan Garfan 1 Atodiad D o’r adroddiad a
ddosbarthwyd. · Penodi'r ymgynghorwyr ychwanegol a nodwyd dan Garfan 1 Atodiad D o'r
adroddiad a ddosbarthwyd, er mwyn cefnogi Bwrdd Cynghori'r Sector Preifat ar
sail ar alwad. |