Agenda a chofnodion drafft

Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru - Dydd Iau, 12fed Medi, 2024 9.30 am

Lleoliad: Microsoft Teams Meeting / County Hall, Council Chamber at Pembrokeshire Council

Cyswllt: Chloe Plowman - E-bost: c.plowman@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Croeso a Chyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 223 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf 2024 fel cofnod cywir.

 

4.

Fframwaith Polisi (Drafft) y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a Diweddariad am yr Ymgynghoriad pdf eicon PDF 415 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i'r Pwyllgor a roddodd yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Roedd yr adroddiad hefyd yn ceisio cymeradwyaeth Fframwaith Polisi'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a'r rhaglen waith ddiwygiedig i ddatblygu a chyflawni'r cynllun.

Cyfeiriwyd at Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, Llwybr Newydd, 2021. Esboniwyd bod Swyddogion wedi bod yn gweithio ar ddehongli'r strategaeth a nodi sut roedd yn ymwneud â Rhanbarth De-orllewin Cymru; mae Fframwaith Polisi'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn nodi cyd-destun sut y byddai Llwybr Newydd yn cael ei weithredu ar lefel ranbarthol.

Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch yr amserlenni ar gyfer cyflawni'r cynllun. Roedd Swyddogion wedi mynegi pryderon yn y gorffennol o ran yr amserlenni oherwydd nifer o ddylanwadau a effeithiodd ar gynnydd. Nodwyd bod Swyddogion yn ceisio cymeradwyaeth i ddiwygio'r amserlen, yn benodol drwy symud y cyflwyniad terfynol o fis Ebrill 2025 i fis Mehefin 2025.

Derbyniodd yr Aelodau y newyddion canlynol mewn perthynas â chynnydd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: nodwyd bod 'llyfr data' wedi'i lunio er mwyn i Swyddogion ddechrau deall sut i flaenoriaethu cynlluniau a phethau tebyg: yn y bôn, roedd y 'llyfr data' yn crynhoi'r holl wybodaeth a gasglwyd o wahanol ffynonellau.

Eglurodd Swyddogion fod yr ymgynghoriad cyhoeddus ar yr ‘Achos dros Newid’ bellach wedi dod i ben; derbyniwyd ychydig dros 800 o ymatebion ffurfiol, ac roedd pob un ohonynt yn cael eu coladu ar hyn o bryd. Nodwyd bod ychydig mwy o ymatebion wedi dod i law o ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot; fodd bynnag, ym marn cydweithwyr a oedd yn cynnal yr ymgynghoriad, roedd y sampl yn gynrychioliadol. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau y byddai Swyddogion yn ceisio targedu pobl iau yn yr ymgynghoriad cyhoeddus nesaf.

Ar ben yr uchod, amlygwyd bod dwy thema allweddol wedi dod i'r amlwg yn yr ymgynghoriad; roedd pryderon ynghylch elfennau teithio llesol Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021 (Llwybr Newydd), yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig. Yr ail thema a nodwyd oedd argaeledd cludiant cyhoeddus, yn enwedig y gwasanaethau bysiau; roedd yn amlwg y byddai'r cyhoedd yn defnyddio cyfleusterau bws yn fwy, ond roedd pryderon ynghylch amserau gweithredu, diwrnodau gweithredu a chostau.

Cynhaliwyd trafodaeth ynglŷn â'r Asesiad Lles, a oedd yn mynd rhagddo. Esboniwyd bod Swyddogion wrthi'n adolygu'r adroddiad cwmpasu; bydd ymgynghoriad ffurfiol yn cael ei gynnal ynghylch hwn â'r ymgynghoreion statudol.

Cadarnhaodd swyddogion mai'r cam nesaf yn y broses oedd dechrau edrych ar gynlluniau penodol; roedd Awdurdodau Lleol unigol ar draws y rhanbarth yn cynorthwyo yn y cam hwn drwy gyflwyno cynigion ar gyfer cynlluniau amrywiol. Soniwyd y byddai Swyddogion hefyd yn edrych ar nifer o gynlluniau a allai o bosib ryngwynebu â rheilffyrdd a chefnffyrdd. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau y bydd gan Swyddogion restr fer o gynlluniau a argymhellir ar ddiwedd y broses benodol hon; trefnwyd gweithdy gydag Aelodau'r Is-bwyllgor Trafnidiaeth Ranbarthol i drafod y cynlluniau a'r blaenoriaethau.

Mynegodd Cadeirydd ac Is-gadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, ar ran holl Aelodau'r Pwyllgor, eu bod yn ddiolchgar i'r Swyddogion ar draws y rhanbarth a oedd wedi gweithio ar ddatblygu'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol hyd yn hyn. 

PENDERFYNWYD:

1.    Nodi  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad ar y Cyd a'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol Rhanbarthol pdf eicon PDF 257 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ddatblygiad y Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar y Cyd a fydd yn llywio'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol Rhanbarthol.

Amlygwyd bod yr Aelodau wedi derbyn fersiwn ddrafft o'r adroddiad hwn yng nghyfarfod diwethaf Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru; ni fu unrhyw newidiadau sylweddol ers y cyfarfod hwn, er bod mwy o fanylion wedi'u cynnwys yn y cynllun gweithredu. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu wedi craffu ar yr adroddiad a'i gymeradwyo.

Roedd Prif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru wedi derbyn adborth ar y cynllun drafft gan Swyddogion y Comisiynwyr Cydraddoldeb a Hawliau Dynol; er eu bod yn fodlon ar y cynllun, gwnaethant ddarparu rhai argymhellion. Nodwyd mai'r prif argymhelliad oedd cynnwys dyddiadau cyflawni targedau yn y cynllun gweithredu. Eglurwyd y gallai'r Prif Weithredwr wneud y diwygiad hwn, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, pe bai'r Aelodau'n fodlon ar hynny. Cadarnhawyd bod yr Aelodau'n fodlon i'r Prif Weithredwr ychwanegu dyddiadau cyflawni targedau at y cynllun gweithredu.

Llongyfarchodd y Pwyllgor Swyddogion ar y gwaith a oedd wedi cael ei wneud i ddatblygu'r strategaeth. 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar y Cyd, er mwyn galluogi'r cynllun gweithredu i gael ei roi ar waith, a datblygu'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol Rhanbarthol.

 

6.

Datganiad Blynyddol Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru 2023/24 pdf eicon PDF 831 KB

Cofnodion:

Rhoddodd Swyddogion ddatganiad blynyddol Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru am y flwyddyn a ddaeth i ben yn 2023/24 i'r Cyd-bwyllgor.

Eglurwyd nad oedd yn ofynnol i Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru gwblhau datganiad llawn o gyfrifon oherwydd swm y trosiant; os oedd trosiant yn is na £2.5m, nid oedd yn ofynnol cyflwyno datganiad llawn o gyfrifon.

Cafodd y Pwyllgor ei atgoffa am y gyllideb a osodwyd ym mis Ionawr 2023 (£617.7k); roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn crynhoi'r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Dywedodd Swyddogion fod y gwariant yn ystod y flwyddyn yn £327.2k; roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu £124.1k mewn perthynas â'r grant trafnidiaeth, ac roedd pob un o'r pedwar Awdurdod Lleol cyfansoddol wedi darparu ardoll o £617.7k.

Amlygwyd bod yr Alldro, y manylir arno yn Atodiad A yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn dangos tanwariant o £458.7k yn erbyn y gyllideb, gyda'r balans yn cael ei drosglwyddo i'r cronfeydd wrth gefn; roedd hyn yn bennaf oherwydd derbyn y grant gan Lywodraeth Cymru, a'r ffaith bod yr Is-bwyllgorau wedi tanwario. Felly, eglurwyd mai £843,5k oedd cyfanswm y balans a oedd yn cael ei drosglwyddo mewn cronfeydd wrth gefn.

Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch yr adroddiadau amrywiol a oedd yn rhan o'r broses hon, gan gynnwys datganiad llywodraethu blynyddol ac adolygiad archwilio mewnol; cadarnhawyd nad oedd yr adolygiad archwilio mewnol wedi tynnu sylw at unrhyw broblemau. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod archwiliad allanol hefyd wedi adolygu'r datganiad, a bod tystysgrif archwilio wedi'i chyflwyno; bydd y dystysgrif yn cael ei llofnodi yn ddiweddarach yn yr wythnos gan yr Archwilydd Cyffredinol, yn amodol ar gymeradwyaeth yn y cyfarfod hwn.

Amlygwyd bod y Swyddog Adran 151 wedi derbyn llythyr gan yr Archwilydd Cyffredinol, a oedd yn cadarnhau ei fod wedi cwblhau ei archwiliad; darllenwyd cynnwys y llythyr i'r Pwyllgor.

Cyfeiriwyd at Gylch Gorchwyl Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, a nodwyd bod hawl gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i dderbyn a chymeradwyo'r Datganiad Blynyddol; fodd bynnag, roedd yr adroddiad gerbron y Pwyllgor hwn oherwydd na fyddai'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cwrdd tan fis Tachwedd 2024. Eglurwyd bod Swyddogion o'r farn ei bod yn hanfodol llofnodi'r cyfrifon a chau'r archwiliad mewn modd amserol.

PENDERFYNWYD:

Cymeradwyo Ffurflen Flynyddol Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru am y flwyddyn a ddaeth i ben yn 2023/24.

 

7.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 486 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Flaenraglen Waith.

 

8.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag

Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i

diwygiwyd).

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.