Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru PDF 134 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD: Penodi'r Cyng. Rob Stewart (Cyngor Sir Abertawe) yn Gadeirydd a phenodi'r
Cyng. Darren Price (Cyngor Sir Gâr) yn Is-Gadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig
De-orllewin Cymru. |
|
Croeso a chyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o
fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 381 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
21 Chwefror 2024 fel cofnod cywir. |
|
Ail-gyfansoddiad Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru PDF 185 KB Cofnodion: Darparwyd adroddiad i'r Pwyllgor a oedd â'r nod o
ailgyfansoddi Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, a oedd yn cynnwys
nodi'r trefniadau gweinyddol a llywodraethu ar gyfer y flwyddyn ddinesig sydd
ar ddod. Cyfeiriodd y Swyddog Monitro ar gyfer Cyd-bwyllgor
Corfforedig De-orllewin Cymru at y cynigion yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, a
fyddai'n ffurfio rhan o'r ailgyfansoddiad. Nodwyd bod tymor Cadeirydd presennol Bwrdd Iechyd
Prifysgol Bae Abertawe'n dod i ben, a bod Cadeirydd newydd wedi'i benodi.
Byddai angen adlewyrchu'r newid hwn yn y ddogfennaeth sy'n ymwneud ag Aelodau
Cyfetholedig Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru. PENDERFYNWYD: Nodi penodiad aelodau'r Cyd-bwyllgor Corfforedig a
nodwyd ym mharagraff 5 yr adroddiad a ddosbarthwyd. Cymeradwyo cyfetholiad aelodau'r Awdurdodau Parciau
Cenedlaethol i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig ar gyfer pob mater (ac eithrio
cynllunio strategol o ystyried eu statws pleidleisio) heb bleidlais ar gyfer y
flwyddyn ddinesig 2024/2025. Cymeradwyo creu'r is-bwyllgorau a nodwyd ym
mharagraff 9 o'r adroddiad a ddosbarthwyd, a'r cynrychiolwyr arfaethedig a
benodwyd i'r is-bwyllgorau a nodir ym mharagraff 9 a 10 o'r adroddiad a
ddosbarthwyd. Cymeradwyo cyfetholiad aelodau o Awdurdodau'r
Parciau Cenedlaethol i Is-bwyllgorau'r Cyd-bwyllgor Corfforedig ar gyfer pob
mater (ac eithrio ar gyfer cynllunio strategol o ystyried
eu statws pleidleisio) heb bleidlais ar gyfer y flwyddyn ddinesig 2024/2025. Cymeradwyo sefydlu'r Is-bwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru fel y nodir ym
mharagraffau 14-19 o'r adroddiad a ddosbarthwyd. Cymeradwyo’r penderfyniad i ddynodi Pwyllgor
Safonau Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot fel Pwyllgor Safonau
Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru. Cymeradwyo sefydlu Is-bwyllgor Trosolwg a Chraffu
ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru fel y nodir ym mharagraffau
23-29 o'r adroddiad a ddosbarthwyd. Cymeradwyo'r amserlen ar gyfer cyfarfodydd yn y
dyfodol ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarthol De-orllewin
Cymru a'i bwyllgorau cysylltiedig fel y nodir ym mharagraff 30 o'r adroddiad a
ddosbarthwyd. Cymeradwyo adnewyddu penodiad aelodau cyfetholedig,
a nodwyd ym mharagraff 32 o'r adroddiad a ddosbarthwyd, ar
gyfer y flwyddyn ddinesig 2024/2025. Cymeradwyo adnewyddu penodiad yr ymgynghorwyr, a
nodwyd ym mharagraff 34 o'r adroddiad a ddosbarthwyd, ar
gyfer y flwyddyn ddinesig 2024/2025.
|
|
Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol De-Orllewin Cymru - Y Diweddaraf am y Rhaglen PDF 170 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd yr Aelodau'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen waith mewn perthynas
â'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh). Atgoffwyd y Pwyllgor fod y Cynllun Gweithredu a'r Achos dros Newid wedi
cael eu cynhyrchu a'u cyflwyno i Lywodraeth Cymru; y cam nesaf oedd cynhyrchu
drafft cychwynnol y CTRh. Esboniwyd bod Swyddogion, yn ystod camau cynnar y gwaith, wedi mynegi
pryderon am yr amserlenni a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch datblygu'r
CTRh; diben yr adroddiad hwn oedd amlygu'r newid yn yr amserlenni o gynhyrchu
drafft cychwynnol y CTRh. Nododd swyddogion fod yr amserlen gychwynnol yn nodi bod angen i
Gyd-bwyllgorau Corfforedig gyflwyno'u drafftiau cyntaf i Lywodraeth Cymru erbyn
29 Mai 2024; gyda'r drafft terfynol yn cael ei gyflwyno erbyn 31 Hydref 2024.
Hysbyswyd Aelodau y byddai'r amserlen ddiwygiedig yn cynnwys cyfnod ymgynghori
ym mis Mai/Mehefin 2024, a diweddariad i'r polisi a gyflwynwyd i Lywodraeth
Cymru erbyn mis Gorffennaf 2024. Ychwanegwyd bod swyddogion yn gweithio tuag at
yr amserlen wreiddiol ar gyfer cyflwyno'r drafft terfynol i Lywodraeth Cymru
(31 Hydref 2024) ar hyn o bryd. Soniwyd y gallai rhai o'r amserlenni sy'n gysylltiedig â'r Cynllun
Trafnidiaeth Rhanbarthol gael eu newid ychydig eto, oherwydd cyhoeddiad yr
Etholiad Cyffredinol ar 4 Gorffennaf. Diolchwyd i swyddogion am eu gwaith parhaus wrth ddatblygu a llunio'r
Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin Cymru. PENDERFYNWYD: Cymeradwyo diwygiad i'r rhaglen waith ar gyfer cam drafft cychwynnol
Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol De-orllewin Cymru, fel y nodwyd yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd. |
|
Y Diweddaraf am Safonau'r Gymraeg PDF 113 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor yr wybodaeth ddiweddaraf mewn
perthynas â Hysbysiad Cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg. Amlygwyd bod Swyddogion wedi derbyn yr Hysbysiad
Cydymffurfio oddi wrth Gomisiynydd y Gymraeg ar 24 Ebrill 2024, gydag
eithriadau o ddau safon a nodwyd fel a ganlyn: ·
WLS 145 Hyrwyddo – Llunio, a
chyhoeddi ar wefan y sefydliad, strategaeth 5 mlynedd sy’n esbonio sut mae
Cydbwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru'n bwriadu mynd ati i hybu’r Gymraeg
ac i hwyluso defnyddio’r Gymraeg yn ehangach yn yr ardal ·
WLS 146 Hyrwyddo – Bum mlynedd
ar ôl cyhoeddi strategaeth yn unol â safon 145, rhaid asesu a chyhoeddi
canfyddiadau'r asesiad ar y wefan. Gofynnwyd a allai'r Cyd-bwyllgor Corfforedig
dderbyn diweddariadau ynghylch datblygiad hyrwyddo'r Gymraeg. Byddai Prif
Weithredwr y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn gofyn am gyngor ynghylch ai'r cyfarfod
hwn fyddai'r fforwm priodol, gan fod agweddau ehangach ar hyrwyddo'r Gymraeg o
fewn y Rhanbarth yn cael eu dirprwyo i sefydliadau eraill o ran cyfrifoldebau.
Fodd bynnag, nodwyd y byddai adroddiadau diweddaru yn y dyfodol yn cael eu
darparu i'r Pwyllgor mewn perthynas â gweithredu Safonau'r Gymraeg y
Cydbwyllgor Corfforedig. PENDERFYNWYD: Nodi Hysbysiad Cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg. Dirprwyo'r Prif Weithredwr i adolygu a gweithredu'r Hysbysiad Cydymffurfio i ddangos
derbyn Safonau'r Gymraeg sy'n berthnasol i Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin
Cymru.
|
|
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran
100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |