Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Naidine Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol - 13 Ionawr 2022 PDF 208 KB Cofnodion: Diwygio'r presenoldeb ar gyfer Parc Cenedlaethol
Arfordir Penfro i ddatgan Tegwyn Jones, Prif Weithredwr a'r Cyng. Paul Harries. Diwygio'r Cyng. Aled Evans i Aled Edwards. PENDERFYNWYD: cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 13 Ionawr 2022 gyda'r newidiadau uchod wedi'u cynnwys.
|
|
Y Gyllideb ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2022/23 PDF 363 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cyllideb arfaethedig Cyd-bwyllgor
Corfforedig Rhanbarthol De-orllewin Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23
i'r pwyllgor fel Atodiad A diwygiedig fel y'i cynhwysir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd ac fe'i hatgoffwyd bod gofyn iddynt yn ffurfiol bennu cyllideb
erbyn 31 Ionawr 2022. Yn ei gyfarfod ar 13 Ionawr 2022, roedd aelodau
wedi gwneud penderfyniadau allweddol yn unol â deddfwriaeth a chytunwyd ar
gyllideb ddrafft. Cadarnhawyd dosraniad yr ardoll ar boblogaeth a oedd yn
caniatáu i'r gyllideb ddrafft gael ei diwygio a gofynnwyd i aelodau nodi bod y
gyllideb arfaethedig wedi disgyn o £715,000 i £575,000 a bod rhai elfennau
wedi'u symud o gwmpas ychydig. Tynnwyd sylw'r aelodau at swm y gyllideb enwol a
neilltuwyd i is-bwyllgorau ar y cam hwn, oherwydd heb wybod rhaglen waith union
ar gyfer y flwyddyn, roedd yn anodd neilltuo ffigur manwl. Gofynnwyd i'r pwyllgor nodi'r tybiaethau ynghylch
cyfrifiadau fel y nodwyd ar dudalen 13 yr adroddiad, gan gynnwys bod y grant
traddodiadol i gefnogi Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn cael ei
weinyddu ar hyn o bryd gan Gyngor Abertawe. Yn ogystal, teimlwyd y byddai'n
amhriodol gosod ardoll ar Barciau Cenedlaethol eleni gan fod y gwerth yn un de
minimis o ran tâl. Nododd y pwyllgor fod y gyllideb yn cynnwys
darpariaeth ar gyfer cefnogaeth weinyddol yn ogystal ag adeiladu cronfa wrth
gefn. Holwyd a ddefnyddiwyd y grant gwreiddiol i dalu am
yr holl wariant ac a oedd unrhyw arian ar ôl. Cadarnhawyd bod elfennau o'r
grant ar gael o hyd a'i fod yn cael ei weinyddu gan PENDERFYNWYD: -
Cymeradwyo'r gyllideb a amlinellwyd yn
Atodiad A yr adroddiad a ddosbarthwyd. -
Cymeradwyo gofyniad y gyllideb ar gyfer
Cyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarthol De-orllewin Cymru sef £575,411. -
Cymeradwyo'r Tâl Ardoll yn seiliedig ar
boblogaeth fel y'i cynhwysir yn yr adroddiad. |