Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Naidine Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Gwnaed y datganiad o fudd canlynol: Mae gan Aled Edwards fuddiant personol mewn
perthynas â Chonsortiwm De Cymru ar Lywodraethu Rhanbarthol oherwydd ei swydd
yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf. |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Penodi'r Cyng. Rob Stewart (Cyngor Sir Abertawe) yn
Gadeirydd a phenodi'r Cyng. Emlyn Dole (Cyngor Sir Gâr) yn Is-Gadeirydd
Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Mr Craig Griffiths (Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd
Port Talbot) yr adroddiad ac eglurodd fod deddfwriaeth wedi'i chreu sy'n
ymwneud â sut y mae'n rhaid i'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig weithredu, gan nodi
rolau a chyfrifoldebau a'r modd y mae'n rhaid i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig
gyflawni’i swyddogaethau. Eglurwyd ei bod yn ofynnol yn y cyfarfod cyntaf hwn
i'r Pwyllgor fabwysiadu rhestr o reolau sefydlog y rheolir y Cyd-bwyllgor
Corfforedig ganddynt. Mae hyn yn cynnwys penodi sawl rôl statudol, lle
cynigiwyd y canlynol: -
Bydd rôl y Prif Weithredwr yn
cael ei chylchdroi'n flynyddol rhwng y cynghorau cyfansoddol a bydd yn cychwyn
gyda Mrs Karen Jones o Gyngor Castell-nedd Port Talbot -
Y Prif Swyddog Cyllid Adran
151 fydd Chris Moore o Gyngor Sir Gâr -
Y Swyddog Monitro fydd Craig
Griffiths o Gyngor Castell-nedd Port Talbot Esboniodd Mr Griffiths fod y cyfansoddiad hefyd yn
manylu ar drefn lywodraethu arfaethedig y Cyd-bwyllgor Corfforedig gyda
manylion ynghylch sut y bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud, gan gynnwys creu
Pwyllgorau Craffu, Llywodraethu ac Archwilio ac Is-Bwyllgorau. Tynnwyd sylw'r aelodau at atodiadau'r adroddiad
sy'n cynnwys y cyfansoddiad arfaethedig, rheolau gweithdrefnau, rheol y
weithdrefn mynediad at wybodaeth a chôd ymddygiad ar gyfer aelodau. Dywedwyd bod cydweithwyr o Barc Cenedlaethol Bannau
Brycheiniog wedi gwneud rhyw fân arsylwadau i swyddogion ynglŷn â chynnwys
dogfennaeth y cyfansoddiad. Ymrwymodd Mr Craig Griffiths i drafod manylion hyn
â Swyddog Monitro Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a dywedodd ei fod yn
bwriadu dod â fersiwn ddiwygiedig a therfynol o ddogfennau'r cyfansoddiad i
gyfarfod nesaf y Cyd-Bwyllgor Corfforedig. Eglurwyd bod y Parciau Cenedlaethol yn cael eu
heithrio rhag pleidleisio ar fabwysiadu'r cyfansoddiad oherwydd y canllawiau ar
hawliau pleidleisio a nodir yn y ddeddfwriaeth a bod gan Barciau Cenedlaethol
hawliau pleidleisio ar faterion Cynllunio Strategol a materion cysylltiedig yn
unig. PENDERFYNWYD: -
Cymeradwyodd yr
aelodau ddosraniad cyfrifoldebau gweithredol Cyd-bwyllgor
Corfforedig De-Orllewin Cymru fel y’u nodir ym mharagraff 7, ac awdurdodasant
ymrwymo i gytundebau rhwng Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru a'r
Cynghorau Cyfansoddol a nodwyd i ddarparu'r gwasanaethau hyn -
Cymeradwyodd yr
aelodau greu'r is-bwyllgorau a nodwyd ym mharagraff 14 o'r adroddiad a'r
cynrychiolwyr arfaethedig a benodwyd i'r is-bwyllgor a nodir ym mharagraff 15 -
Cymeradwyodd yr aelodau
sefydlu Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer Cyd-bwyllgor
Corfforedig De-Orllewin Cymru fel y’i nodir ym mharagraffau 18-22 yr adroddiad
hwn; -
Cymeradwyodd
aelodau ddynodiad Pwyllgor Safonau Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port
Talbot fel Pwyllgor Safonau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru; -
Cymeradwyodd yr
aelodau sefydlu Is-bwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer Cyd-bwyllgor
Corfforedig De-Orllewin Cymru fel y’i nodir ym mharagraffau 27-31 yr adroddiad hwn; -
Cymeradwyodd yr
aelodau Gyfansoddiad Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru a nodir yn
Atodiad 1; -
Cymeradwyodd yr
aelodau’r Rheolau Gweithdrefnau ar gyfer cyfarfodydd Cyd-bwyllgor Corfforedig
De-Orllewin Cymru a nodir yn Atodiad 2; -
Cymeradwyodd yr
aelodau’r Rheolau Gweithdrefnau Mynediad at Wybodaeth ar gyfer cyfarfodydd
Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru a nodir yn Atodiad 3; - Cymeradwyodd yr aelodau’r Côd Ymddygiad Aelodau ar gyfer cyfarfodydd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru a nodir yn Atodiad 4; ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Cyd-bwyllgor Corfforedig De Orllewin Cymru - Rhaglen Waith y Dyfodol y Prif Weithredwr PDF 421 KB Cofnodion: Cyflwynodd Mrs Karen Jones (Prif Weithredwr
Arweiniol y CBC) yr adroddiad a chyflwynodd Flaenraglen Waith i'r Prif
Weithredwr fel y'i cynhwyswyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Dywedodd ei bod
yn edrych ymlaen at weithio mewn ysbryd parhaus partneriaeth. Nododd aelodau ddyletswyddau'r prif weithredwr
arweiniol yn ogystal â gofynion gwaith y Cyd-bwyllgor Corfforedig fel y’i nodir
yn y ddeddfwriaeth sef: Cynllunio Defnydd Tir Strategol Lles Economaidd Trafnidiaeth Eglurwyd hefyd, gan y bydd y Cyd-bwyllgor
Corfforaedig yn cael ei drin fel rhan o'r teulu Llywodraeth Leol, fod materion
llywodraethu cysylltiedig eraill y bydd angen eu hystyried maes o law, megis
Safonau'r Gymraeg. Nodwyd y bydd Blaenraglen Waith manwl yn cael ei
chreu a'i chofnodi yng nghyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol. Eglurodd Karen Jones ei bod yn ceisio awdurdod
dirprwyedig i ymrwymo i Gytundebau Lefel Gwasanaeth (CLGau) gydag Awdurdodau
Lleol i brynu gwasanaethau yn ôl gan y cynghorau cyfansoddol ar gyfer
gweithredu swyddogaethau'r CBC yn unol â'r cyfansoddiad y cytunwyd arno.
Eglurwyd nad oes bwriad ar hyn o bryd i gyflogi unrhyw un yn uniongyrchol mewn
perthynas â chyflawni dyletswyddau sy'n gysylltiedig â'r CBC. Nodwyd y bydd yr Etholiadau Llywodraeth Leol yn
cael eu cynnal ym mis Mai 2022 sydd â'r posibilrwydd o rwystro cyfarfodydd sy’n
cael eu trefnu yn enwedig o ran y cyfnod cyn yr etholiad. PENDERFYNWYD: - Bod Aelodau'n nodi rhaglenni gwaith presennol Cyd-bwyllgor Corfforedig
De-Orllewin Cymru i weithredu gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau
(Cymru) 2021 -
Bod yr Aelodau’n
nodi cyfrifoldeb statudol Prif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin
Cymru -
Bod yr Aelodau'n rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Prif
Weithredwr i drafod ac ymrwymo i gytundebau Lefel Gwasanaeth gyda'r awdurdodau lleol
a grybwyllir ym mharagraff 33 o'r adroddiad hwn ar gyfer y gwasanaethau sy'n
angenrheidiol i'r Cyd-Bwyllgor Corfforaedig gyflawni’i swyddogaethau statudol. |
|
Cyllidebau Blynyddol Drafft ar gyfer Blynyddoedd Ariannol 2021/22 a 2022/23 PDF 660 KB Cofnodion: Cyflwynodd Mr Chris Moore (Prif Swyddog Cyllid a
Swyddog Adran 151 y CBC) y cyllidebau blynyddol drafft i’r pwyllgor ar gyfer y
blynyddoedd ariannol 2021/22 a 2022/23 fel y'u cynhwyswyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd. Dywed yr adroddiad y caiff Cyngor Sir Gâr ei ddynodi’n gorff cyfrifol i
gyflawni rhwymedigaethau ariannol y CBC yn ogystal â gofynion cyfreithiol
pennu'r gyllideb. Trafodwyd mai’r cynnig a gynhwysir yn yr adroddiad
yw bod ardoll sero’n cael ei osod ar
gyfer eleni gan fod costau wedi'u hamsugno gan y cynghorau cyfansoddol ac y
derbyniwyd grant o £250,000 ar gyfer rhai eitemau gan Lywodraeth Cymru tuag at
gostau sefydlu'r CBC. Bydd dyletswydd i osod cyllideb ar gyfer y
blynyddoedd i ddod i sicrhau y darperir adnoddau digonol i ganiatáu i'r CBC
ymgymryd â'i rôl a'i swyddogaeth yn briodol ac mae rhwymedigaeth i adennill
costau gweithredu trwy ardoll sy'n seiliedig ar awdurdodau cyfansoddol a
Pharciau Cenedlaethol ac os yw'n briodol (er bod trafodaeth barhaus ar hyn). Nododd yr aelodau fod cynnig i greu swydd 'Rheolwr
Busnes' i gydlynu'r CBC a'i weithrediad cyffredinol gyda'r gyllideb ddrafft. Trafodwyd y gwahanol ddulliau mewn perthynas â sut
mae'r ardollau i awdurdodau cyfansoddol yn cael eu cyfrifo a'u cymhwyso. Ar ôl
ymgynghori â swyddogion Adran 151 eraill, nodwyd eu bod yn gytûn mai 'yn ôl
poblogaeth' fyddai'r ffordd decaf. PENDERFYNWYD: - Y bydd Cyngor Sir Gâr yn gweithredu fel y Corff Atebol ar gyfer
cyflawni'r rhwymedigaethau ariannol mewn perthynas â'r Cyd-bwyllgor Corfforedig
De-Orllewin Cymru -
Y bydd
Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru yn gosod cyllideb sero ar gyfer
blwyddyn ariannol 2021/2022, ac ni chodir Ardoll yn erbyn awdurdodau
cyfansoddol sy'n cymryd rhan yng Nghyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru
ar gyfer eleni; -
Er mwyn sicrhau
cyfle cyfartal a thegwch ar draws y rhanbarth bydd cyllid rhanbarthol
Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru'n cael ei osod drwy ddosraniad
ardoll yn ôl maint y boblogaeth; -
Nodi’r gyllideb a
amlinellir yn atodiad A fel y Gyllideb Ddrafft a fydd yn cael ei chwblhau a'i
chyflwyno i Gyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru ar 25 Ionawr 2022; a -
Mae'r aelodau'n nodi nad oes penderfyniad pendant wedi'i
gyflwyno ar hyn o bryd o ran cyfraniadau ariannol Awdurdodau'r Parc
Cenedlaethol ac felly argymhellir rhoi gwybodaeth bellach am sefyllfa
Awdurdodau'r Parc Cenedlaethol yng nghyfarfod Cyd-bwyllgor Corfforedig
De-Orllewin Cymru ar 25 Ionawr 2022. |