Agenda a Chofnodion

Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru - Dydd Mawrth, 21ain Ionawr, 2025 10.00 am

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Chloe Plowman - E-bost: c.plowman@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Croeso a Chyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Monitro Ariannol Chwarter 3 2024/25 pdf eicon PDF 406 KB

Cofnodion:

 

Darparwyd yr adroddiad Monitro Ariannol Chwarter 3 ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben yn 2024/25 i'r Pwyllgor.

Esboniwyd bod Cydbwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru wedi cymeradwyo'r gyllideb ar gyfer 2024/25 a osodwyd ar £615,049, ar 23 Ionawr 2024; roedd pob un o'r awdurdodau cyfansoddol wedi cynnig ardoll a oedd wedi'i lleihau 10% drwy ddefnyddio cronfeydd wrth gefn.

Hysbyswyd yr Aelodau fod Cydbwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru hefyd wedi derbyn grant o £100,000 gan Lywodraeth Cymru yn ystod blwyddyn ariannol 2024/25, a oedd i'w ddefnyddio ar gyfer yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Rhanbarthol; roedd Swyddogion yn disgwyl defnyddio'r grant hwn yn llawn.

Roedd yr alldro a ragwelwyd yn Atodiad A o'r adroddiad a ddosbarthwyd, yn dangos cyfanswm gwarged o £128,200 ar gyfer y flwyddyn. Rhoddodd Swyddogion drosolwg o'r rhesymau dros y gwarged, a oedd yn cynnwys y canlynol:

·        Roedd y Gwasanaethau Cefnogi'n rhagweld tanwariant o £43,600 gan fod y swydd Uwch Gyfrifydd y cyllidebwyd ar ei chyfer yn parhau'n wag; nid oedd angen y swydd hon eto oherwydd lefel y gweithgarwch.

·        Roedd gwariant yr Is-bwyllgor yn dangos tanwariant rhagweledig o £86,700, mewn perthynas â’r gwariant rheoli Cynllunio a Rhaglenni; unwaith eto, roedd hyn oherwydd lefel y gweithgarwch.

·        Manylwyd tanwariant o £59,300 gan y Swyddfa Rheoli Rhanbarthol. Soniwyd bod £52,700 o'r swm uchod o ganlyniad i'r ffaith nad oedd y gwaith Ymgynghoriaeth a Chynghorydd Arbenigol wedi'i gomisiynu; yn ogystal â thanwariant llai mewn perthynas ag argraffu a chopïo, nwyddau traul swyddfa a TGCh.

 

Dywedwyd bod cronfeydd wrth gefn wedi'u cronni oherwydd gwariant cyfyngedig yn ystod blwyddyn weithredu gyntaf Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru a hefyd y lefel gyfyngedig o weithgarwch yn ystod blwyddyn ariannol 2023/24. Felly, roedd Swyddogion yn rhagweld y bydd y cronfeydd wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol bresennol yn agos i £970,000.

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

4.

Y Gyllideb ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2025/26 pdf eicon PDF 689 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddogion gyllideb ddrafft Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru i'r Aelodau ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26, a oedd yn cynnwys y tâl ardoll arfaethedig i'r awdurdodau cyfansoddol.

Hysbyswyd y Pwyllgor fod yn rhaid dweud wrth yr awdurdodau cyfansoddol am yr ardoll ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod erbyn 31 Ionawr 2025. Soniwyd bod trafodaethau eisoes wedi dechrau â phob un o'r Awdurdodau Lleol a'r Aelodau Etholedig ynghylch gofynion proses pennu cyllideb Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru.

Roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn nodi tri opsiwn gwahanol (Opsiwn 1, Opsiwn 2 ac Opsiwn 2B) o ran pennu cyllideb ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru. Amlygwyd bod yr opsiynau’n eithaf cyson â blynyddoedd blaenorol; pennu cyllideb parhad neu gynyddu'r ffrwd waith, drwy'r gyllideb, i geisio cyflawni amcanion Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru. Ychwanegodd Swyddogion bod gwaith i'w wneud o hyd o ran deall lefel gweithgarwch rhai o'r swyddogaethau a'r ffrydiau gwaith.

Eglurodd Swyddogion fanylion y tri opsiwn gwahanol fel a ganlyn:

·        Opsiwn 1 – Cyllideb parhad.

·        Opsiwn 2 – Cyllideb y gofynnwyd amdani.

·        Opsiwn 2B – Cyllideb y gofynnwyd amdani gyda'r defnydd o gronfeydd wrth gefn.

 

Dywedwyd bod Swyddogion yn argymell Opsiwn 2B, a nodwyd yn Atodiad C o'r adroddiad a ddosbarthwyd. Nodwyd y cynigiwyd rhyddhau arian wrth gefn dros gyfnod cynlluniedig o dair blynedd; roedd hyn er mwyn helpu i atal yr angen i ofyn am ardollau sylweddol uwch yn y dyfodol, gan gydnabod yr heriau y mae'r awdurdodau cyfansoddol yn eu hwynebu'n unigol o ran eu proses pennu cyllideb.

Darparwyd manylion ychwanegol ynghylch Opsiwn 2B i'r Pwyllgor, gan dynnu sylw at y ffaith bod yr opsiwn hwn yn cynnwys y ceisiadau a oedd wedi'u derbyn gan dair o'r pedair ffrwd waith; Roedd Atodiad C yn manylu ar y disgwyliadau y gellid eu cyflawni drwy'r gyllideb ar gyfer Trafnidiaeth, Ynni a Datblygu Economaidd.

Yn ychwanegol at yr uchod, eglurwyd bod rhai heriau ar hyn o bryd ynghylch diffinio gwaith a disgwyliadau'r ffrwd waith Cynllunio; felly, ni ellid darparu'r cyllid yn yr un cyd-destun. Fodd bynnag, nodwyd bod yr arweinwyr ar gyfer y ffrwd waith hon wedi cadarnhau'n flaenorol fod hon yn sefyllfa dderbyniol, a'u bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i nodi cyllid ac eglurder pellach ynghylch cyflawni'r rhaglen waith. 

Cynhaliwyd trafodaeth ynglŷn â sefyllfa gyllidebol gyffredinol Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, pe bai Opsiwn 2B yn cael ei gymeradwyo. Nodwyd bod y gyllideb ddrafft ar gyfer 2025/26 yn dangos gwariant amcangyfrifedig o £710,300. Eglurodd swyddogion eu bod wedi edrych ar opsiynau i geisio safoni'r tâl ardoll ar yr awdurdodau cyfansoddol, i'w gadw'r un peth â'r hyn a godwyd ym mlwyddyn ariannol 2024/25; pe bai hyn yn cael ei ystyried, byddai'n ofynnol i Swyddogion ddefnyddio'r cronfeydd wrth gefn i ariannu hynny. Fel y crybwyllwyd yn flaenorol, byddai Swyddogion yn ceisio gwneud hyn dros gyfnod o dair blynedd fel a ganlyn:

·        £153,500 ym mlwyddyn ariannol 2025/26.

·        £167,700 ym mlwyddyn ariannol 2026/27.

·        £182,200 ym mlwyddyn ariannol 2027/28.

 

Rhagwelwyd y byddai oddeutu £964,000 o gronfeydd wrth gefn ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2024/25; felly, pe bai'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Blaenoriaethau Corfforaethol 2025/2026 Cynllun Corfforaethol 2023-2028 pdf eicon PDF 485 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd diweddariad i'r Aelodau ar flaenoriaethau arfaethedig y Cynllun Corfforaethol (2023-2028) ar gyfer y flwyddyn 2025/26.

Amlygwyd bod yr Aelodau wedi cymeradwyo Cynllun Corfforaethol Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru 2023-2028 ym mis Hydref 2022, a oedd yn cynnwys tri Amcan Lles a elwir hefyd yn flaenoriaethau. Cadarnhaodd Swyddogion nad oedd yr Amcanion Lles wedi newid, felly, nid oedd angen ymgynghori â'r cyhoedd ymhellach.

Er bod yr Amcanion Lles yn aros yr un fath, dywedwyd bod y camau gweithredu sy'n ofynnol i gyflawni'r blaenoriaethau hynny wedi'u diwygio a bod manylion y rhain i’w cael yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

Esboniwyd y bydd y gweithgarwch sy'n ymwneud â Chyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn cynyddu'n sylweddol dros y 12 mis nesaf, ac roedd Swyddogion yn rhagweld y bydd gweithgareddau pellach yn dod i'r amlwg drwy gydol y flwyddyn; bydd Prif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn rhoi gwybod i'r Aelodau am unrhyw faterion sy'n codi. Mynegwyd pwysigrwydd cael y cyllid yn ei le fel y gellir ymateb i newidiadau yn lefel y gweithgarwch.

PENDERFYNWYD:

 

Bod y blaenoriaethau Corfforaethol a'r camau gweithredu cysylltiedig arfaethedig ar gyfer 2025/26 yn cael eu cymeradwyo.

 

6.

Ynni - Y diweddaraf am Raglen yr Is-bwyllgor pdf eicon PDF 610 KB

Cofnodion:

Rhoddodd Swyddogion ddiweddariad ar Gyflwyno'r Strategaeth Ynni Rhanbarthol ac roeddent yn ceisio cymeradwyaeth am gyllid mewn perthynas ag un o'r prosiectau yn y ffrwd waith.

Hysbyswyd yr Aelodau mai'r Cynlluniau Ynni Ardal Leol oedd y fframwaith i gyflawni'r Strategaeth Ynni Rhanbarthol. Ers datblygu'r Cynlluniau Ynni Ardal Leol, nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi ariannu penodiad Tîm Ynni Rhanbarthol am 24 mis, sy'n cynnwys Rheolwr Prosiect Ynni a dwy swydd Swyddog Prosiect Ynni; nodwyd manylion cynnydd y Timau Ynni Rhanbarthol yn Atodiad A o'r adroddiad a ddosbarthwyd.

Cyfeiriwyd at Atodiadau B, C a D yr adroddiad a ddosbarthwyd, a oedd yn cynnwys diweddariadau ar y cynlluniau blaenoriaeth unigol:

·        Amlinelliad Prosiect Menter 'Solar Together' De-orllewin Cymru (Atodiad B) – amlygwyd mai dyma'r prosiect yr oedd Swyddogion yn ceisio cyllid ar ei gyfer; swm o £27,500 yn y flwyddyn ariannol 2025/26 a swm bach yn y flwyddyn ariannol hon i dalu am gost y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth. Ychwanegodd Swyddogion fod y llwybr caffael yn cael ei reoli drwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerfyrddin fel y corff arweiniol a chanddo Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth ag awdurdodau eraill; cyflwynwyd Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw ynghylch Ymgysylltu â'r Farchnad ar 7 Ionawr 2025 i gadarnhau faint o ddarparwyr gwasanaeth posib o'r math hwn o gynllun sy'n bodoli.

·        Amlinelliad Prosiect o'r Prosiect Newid Ymddygiad
(Atodiad C)

·        Rhannu Cynllun Peilot Isadeiledd Gwefru Cerbydau Trydan traws-ffiniol rhwng Awdurdodau Lleol a'r Sector Cyhoeddus ehangach (Atodiad D) – soniwyd bod y prosiect hwn yn gorgyffwrdd rhywfaint â'r gwaith trafnidiaeth rhanbarthol.

 

PENDERFYNWYD:

 

·        Bod yr Aelodau'n nodi'r diweddariadau cynnydd ar y ffrwd waith Ynni.

·        Bod cyllid ar gyfer y fenter Prynu Systemau Solar fel Grŵp (y manylir arno yn Atodiad B yr adroddiad a ddosbarthwyd - Amlinelliad Prosiect o fenter 'Solar Together' De-orllewin Cymru) yn cael ei gymeradwyo.

 

7.

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Drafft pdf eicon PDF 486 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Drafft ar gyfer rhanbarth De-orllewin Cymru i'r Aelodau.

Amlygodd Swyddogion eu bod yn ceisio cymeradwyaeth gan Gyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru, i ddechrau'r broses ymgynghori cyhoeddus ar gyfer y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Drafft. Dywedwyd bod amserlen arfaethedig o oddeutu wyth wythnos ar gyfer yr ymgynghoriad, ac y byddai'n dechrau'n gynnar ym mis Chwefror 2025.

Cyfeiriwyd at y Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol Drafft a oedd yn cynnwys rhestr o gynlluniau sy'n cyd-fynd â'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Nodwyd bod angen gwneud rhagor o waith ynghylch sgorio a gwerthuso'r cynlluniau; byddai'r offeryn blaenoriaethu, y manylir arno yn Atodiad 5 yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn cynorthwyo Swyddogion gyda hyn. Hysbyswyd y Pwyllgor y bydd y broses hon yn helpu i flaenoriaethu'r cynlluniau mewn modd cadarn er mwyn cynorthwyo'r broses gynnig dros y pum mlynedd nesaf. Ychwanegwyd y bydd Swyddogion yn gweithio ochr yn ochr â'r ymgynghoriad cyhoeddus i geisio deall beth fyddai blaenoriaeth y cynlluniau hynny.

Soniwyd bod Swyddogion wedi derbyn arwyddion cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru o ran y cynnydd yr oedd y rhanbarth yn ei wneud i gyflawni'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol; mae Llywodraeth Cymru wedi darparu rhai sylwadau cychwynnol, a fydd yn rhan o'r adborth o'r ymgynghoriad.

Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch yr amrywiaeth o ddigwyddiadau a chynlluniau ymgynghori a gynigiwyd er mwyn ceisio annog cymaint o ymgysylltu â phosib; roedd hyn yn cynnwys digwyddiadau cyhoeddus ac ar gyfer rhanddeiliaid. Esboniodd Swyddogion y byddent hefyd yn cysylltu â'r gymuned fusnes, drwy'r cyrff priodol sy'n cynrychioli eu buddiannau. Roedd canlyniadau'r ymgynghoriad blaenorol yn amlygu nad oedd llawer o ymgysylltu gan bobl iau; roedd Swyddogion yn gweithio gydag ysgolion a cholegau i geisio gwella ymgysylltiad ar gyfer yr ymgynghoriad sydd i ddod.

Hysbyswyd yr Aelodau, er bod trafodaethau'n cael eu cynnal â Llywodraeth Cymru o ran cyllid, nad oedd Swyddogion eto wedi cael eglurder terfynol ar gyllid na'r ffyrdd y caiff y cyllid ei ddosbarthu drwyddynt ar gyfer y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol o 2026 ymlaen.

Cyfeiriwyd at y risgiau sy'n gysylltiedig â'r gwaith hwn; gallai methu cymeradwyo fersiwn derfynol y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn haf 2025 arwain at oedi'r grantiau (o 1 Ebrill 2026).

Esboniodd swyddogion y byddai adroddiadau'r dyfodol yn cael eu dwyn yn ôl drwy ddulliau adrodd arferol Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, a oedd yn cynnwys yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Rhanbarthol, y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a Chyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru. Fodd bynnag, nodwyd y byddai'r rhestr derfynol o gynlluniau'n cael ei chyflwyno i Gabinet pob Awdurdod Lleol ym mis Mai 2025, cyn cael eu cyflwyno i gyfarfodydd perthnasol Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru; roedd hyn oherwydd y ffaith mai Awdurdodau Lleol oedd â'r pwerau i gyflwyno'r cynlluniau.

Yn dilyn y trosolwg gan Swyddogion, diolchodd yr Aelodau i'r Swyddogion gan gydnabod y gwaith sylweddol a wnaed yn y broses hon hyd yma.

PENDERFYNWYD:

 

·        Bod yr adroddiadau cynnydd llafar gan Swyddogion ar ffrydiau gwaith datblygu'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cael eu nodi.

·        Bod y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Drafft a'r dogfennau ategol yn cael eu cymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 463 KB

Cofnodion:

Nodwyd Blaenraglen Waith Pwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru.

 

9.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag

Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i

diwygiwyd)

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.