Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Chloe Plowman
Rhif | Eitem |
---|---|
Croeso a Chyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 231 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
23 Ionawr 2024 fel cofnod cywir. |
|
Cofnodion: Nodwyd Blaenraglen Waith y Cydbwyllgor
Corfforaethol. |
|
Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol - Y Ddadl o Blaid Newid PDF 482 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparwyd yr Achos dros Newid
i'r aelodau, a oedd yn rhan o'r broses o ddatblygu'r Cynllun Trafnidiaeth
Rhanbarthol (CTRh). Esboniodd swyddogion mai'r
Achos dros Newid oedd y cam nesaf sydd ei angen wrth symud ymlaen â'r CTRh;
roedd hyn yn dilyn ymlaen o'r cam blaenorol o gynhyrchu'r Cynllun Gweithredu.
Nodwyd bod yr Achos dros Newid yn ddogfen a oedd yn nodi sefyllfa bresennol y
rhanbarth a pham mae angen newid; drwy gydol y ddogfen, roedd swyddogion wedi
rhoi ystyriaeth i nifer o ffactorau, megis yr economi a materion amgylcheddol. O ran pam y mae angen newid,
nodwyd bod polisi Llywodraeth Cymru'n sbardun sylweddol; fodd bynnag, roedd
hefyd o'r pwys mwyaf bod y rhwydwaith trafnidiaeth yn esblygu. Soniwyd bod yr
ysgogwyr hyn ar gyfer newid wedi'u nodi yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Hysbyswyd y Pwyllgor fod y
ddogfen hefyd yn nodi sut y bydd swyddogion yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ac yn
cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y CTRh terfynol; yn ogystal â manylion am y
broses asesiad effaith integredig, sy'n dilyn ymlaen o'r ymarferion ymgynghori
amrywiol. O ran y camau nesaf,
cadarnhawyd y byddai angen cyflwyno'r Achos dros Newid i Lywodraeth Cymru erbyn
diwedd Chwefror 2024; yna bydd swyddogion yn parhau â'r broses o ddatblygu'r CTRh,
gyda'r amserlen bresennol i’w chwblhau erbyn gwanwyn 2025. Tynnwyd sylw at yr
amserlenni heriol sy'n gysylltiedig â datblygu'r CTRh. Cafwyd trafodaeth ynglŷn
â'r cyllid a gadarnhawyd a fydd yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru; £125
mil ar gyfer y flwyddyn bresennol, a £100 mil ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Soniwyd y bydd angen cyllid ychwanegol i hwyluso nifer y ffrydiau gwaith a'r
gwaith ymgynghori. Dywedodd swyddogion fod
Trafnidiaeth Cymru wedi nodi adnodd penodol i helpu gyda datblygiad y CTRh; yn
ogystal â hynny, maent wedi dechrau datblygu gwybodaeth fodelu ddefnyddiol, a
fydd yn cynorthwyo gyda'r sylfaen dystiolaeth a'r ymyriadau profi ar gyfer
datblygu'r rhaglenni. Pryder arall a godwyd gan
swyddogion oedd yr anhawster o ran sefydlu rhaglen gyfalaf, gan y bydd yr
wybodaeth i wneud hyn yn seiliedig ar wybodaeth y Cynllun. Soniodd swyddogion
fod Llywodraeth Cymru'n ymwybodol o'r her hon. Mynegodd y Pwyllgor yr angen i
ddatblygu system cludiant cyhoeddus gynaliadwy, gan ystyried yr ardaloedd gwledig
yn ogystal â'r rheini sy'n hynod boblog; a'r angen i feddwl yn arloesol o ran
mynd i'r afael â'r materion trafnidiaeth y mae'r Rhanbarth yn eu hwynebu ar hyn
o bryd. Gofynnodd yr Aelodau am
esboniad pellach ynghylch cyflawni a blaenoriaethu amcanion; cydnabuwyd y bydd
yn anodd cyflawni'r holl amcanion oherwydd materion cyllido ac adnoddau. Y bwriad oedd, wrth i swyddogion symud ymlaen drwy'r camau, y bydd rhaglen waith ddatblygedig iawn; sy'n sicrhau ei bod yn targedu pob un o'r ymyriadau. Soniwyd bod yr hierarchaeth trafnidiaeth yn glir bod trafnidiaeth gynaliadwy yn flaenoriaeth, megis cerdded, beicio a chludiant cyhoeddus; gyda'r defnydd o gar preifat ar waelod y rhestr. Ychwanegodd swyddogion y byddant yn adeiladu achos o ran y budd a ddaw yn sgil y gwahanol ymyriadau, a pha raglenni bydd yn gweithio; yn dilyn hyn, byddant yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
Penodi Dirprwy Brif Weithredwr PDF 396 KB Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor
adroddiad a oedd yn ceisio penodi Dirprwy Brif Weithredwr i Gyd-bwyllgor
Corfforedig De-orllewin Cymru. Eglurwyd y byddai'r penodiad
hwn yn sicrhau cadernid ychwanegol yn absenoldeb Prif Weithredwr penodol, am
unrhyw gyfnod penodol o amser; yna byddai'r Prif Weithredwyr o awdurdodau
cyfansoddol Castell-nedd Port Talbot, Abertawe a Sir Gaerfyrddin yn gallu arfer
y pwerau yn absenoldeb tymor hir Prif Weithredwr. Cytunwyd yn flaenorol y bydd
rôl y Prif Weithredwr yn cylchdroi; cadarnhaodd swyddogion y byddai'r rolau
Dirprwy Brif Weithredwr yn cylchdroi i gyfateb i hynny wrth symud ymlaen. Yn
ogystal, nodwyd na fydd taliad cydnabyddiaeth ar gyfer y rôl; felly, nid oedd
unrhyw effeithiau ariannol. PENDERFYNWYD: Creu rôl Dirprwy Brif Weithredwyr i Gyd-bwyllgor
Corfforaethol De-orllewin Cymru; a phenodi Prif Weithredwyr Abertawe, Sir
Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot yn Ddirprwy Brif Weithredwyr, a rhoi
awdurdod iddynt weithredu fel Prif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig
De-orllewin Cymru yn absenoldeb y Prif Weithredwr a nodwyd. |
|
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran
100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |